Fy nghynllun ar gyfer newid
Mae’r etholiad hwn ynglŷn â newid.
Cyfle i atal anhrefn ddiderfyn y Ceidwadwyr sydd wedi niweidio sefyllfa ariannol pob teulu ym Mhrydain yn uniongyrchol.
Cyfle i ni gefnu ar gyfres o syniadau sydd, dros 14 blynedd, wedi gadael Prydain yn gyson fwy bregus mewn byd sy’n fwyfwy anwadal.
A chyfle i ddechrau gwaith adnewyddu cenedlaethol gyda dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio i newid dyfodol Cymru a Phrydain. Ailadeiladu ein gwlad, fel ei bod yn gwasanaethu buddiannau pobl sy’n gweithio unwaith eto.
Adfer gobaith
Mae pob cenedl fawr yn cael ei dal ynghyd gan gredoau cyffredin. Efallai na fyddant yn ymddangos yn eithriadol neu’n unigryw i bobl o’r tu allan, ond maen nhw’n hanfodol i ymdeimlad o ddiben cenedlaethol cyfunol. Maen nhw hefyd yn hanfodol i’n hymdeimlad o gydberthynas ar draws undeb sy’n gwasanaethu ac yn dathlu pob un o’r gwledydd yn unigol ac yn gyfunol. Nid yw Prydain yn wahanol, ond mae dwy o’n credoau pwysicaf mewn perygl mawr ar hyn o bryd.
Yn gyntaf, y dylai gwleidyddiaeth gael ei sbarduno gan ymdeimlad o wasanaethu’r wlad, nid ystyriaethau’r blaid neu hunan-fudd.
Yn ail, os ydych chi’n gweithio’n galed – ni waeth pwy ydych chi na’ch cefndir – bod Prydain yn wlad a fydd yn parchu’ch cyfraniad ac yn rhoi cyfle teg i chi lwyddo.
Wrth i mi ystyried y credoau hyn, mae’n anodd peidio â meddwl am fy mhlentyndod. Bryd hynny, fel heddiw, roedd lle Prydain yn y byd yn ansicr. Bryd hynny, fel heddiw, roedd ein heconomi yng ngafael twf petrus ac argyfwng costau byw a oedd yn niweidio pobl sy’n gweithio.
Ac eto, bryd hynny, roedd y ffaith y gellid cymryd y ddwy gred sylfaenol yna’n ganiataol yn rhoi rhywfaint o sicrwydd, o leiaf. I deuluoedd fel fy un i, roedd hynny’n gysur. Roedd gwybod y byddai Prydain yn cynnig dyfodol gwell i’ch plant yn rhoi gobaith i ni. Gobaith nad yw’n swnio’n uchelfrydig neu’n arbennig o ddelfrydyddol efallai, ond y gallai teuluoedd fel fy un i adeiladu bywyd o’i amgylch.
Atal yr anhrefn
I adfer y gobaith hwn, mae’n rhaid i ni atal anhrefn y Ceidwadwyr yn gyntaf. Nid damwain yw’r dirywiad amlwg yn ein cymunedau – gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u hymestyn i’r eithaf, a theuluoedd sy’n cael eu gwasgu gan forgeisi sy’n saethu i fyny. Yn hytrach, cafodd ei achosi’n uniongyrchol gan blaid lywodraethol sydd, dro ar ôl tro, yn rhoi ei buddiannau a’i hobsesiynau ei hun uwchlaw’r materion sy’n effeithio ar deuluoedd.
Mae hyn wedi arwain at gylch dieflig – dirywiad yn bwydo ar anhrefn, anhrefn yn bwydo ar ddirywiad – a fydd yn parhau os byddant yn dychwelyd am bum mlynedd arall. Dim ond llywodraeth Lafur yn San Steffan – yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Llafur Cymru – all dorri’r cylch hwn ac atal yr anhrefn.
Troi’r ddalen
Mae’n rhaid i ni droi’r ddalen yn gadarn ar syniadau’r Ceidwadwyr sydd wedi achosi’r anhrefn.
Mae’r byd wedi mynd yn fwyfwy anwadal, gyda rhyfel mawr yn Ewrop am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth a bygythiadau mwyfwy i safonau byw pobl sy’n gweithio. Mae’r ‘oes ansicrwydd’ yn golygu bod angen i’r llywodraeth gamu i fyny, nid sefyll o’r neilltu.
Mae hyn yn golygu dychwelyd i sylfeini llywodraeth dda: diogelwch cenedlaethol, ffiniau diogel, a sefydlogrwydd economaidd. Ond mae hefyd yn gofyn am bartneriaeth barhaus â busnes a Llywodraeth Llafur Cymru i gyflawni’r twf economaidd y mae arnom ei angen. Mae angen mwy o bwyslais ar strategaeth tymor hir, nid y gwrthdyniadau tymor byr sy’n gallu bywiogi San Steffan. Ac mae’n gofyn am wrthod, yn llwyr ac am byth, y syniad niweidiol bod twf economaidd yn rhodd gan yr ychydig i’r lliaws.
Oherwydd gellir esbonio cymaint o’r hyn y mae Prydain wedi ei oddef yn ystod y 14 blynedd diwethaf – boed hynny’n chwalu’r bunt i roi toriadau treth i’r 1% gyfoethocaf; cyni difethol i wasanaethau cyhoeddus oherwydd llanastr a achoswyd gan y banciau; neu fethiant i fuddsoddi mewn ynni Prydeinig glân a olygodd ein bod yn agored i niwed pan ymosododd Putin ar Wcráin – gan fethiant y Ceidwadwyr i wynebu’r dyfodol. Dim ond Llafur all droi’r ddalen.

Ailadeiladu Prydain
Mae’n rhaid i ni ailadeiladu Prydain. Ni fydd hynny’n rhwydd. Nid dim ond oherwydd nad oes ffordd gyflym o dacluso’r llanastr y mae’r Ceidwadwyr wedi’i greu. Ond hefyd oherwydd bod eu methiannau wedi tanseilio ein hyder cyfunol y gall Prydain gyflawni pethau mawr o hyd. Gwrthodaf hyn yn llwyr. Er gwaethaf yr holl anhrefn a achoswyd ym Mhrydain, rydw i’n gweld gwlad lle nad yw pobl sy’n gweithio byth yn siomi ei gilydd. Fe ddaethon nhw at ei gilydd yn y pandemig – colli priodasau, angladdau a’r ffarwél olaf – i achub bywydau pobl na fyddant byth yn cyfarfod â nhw. Fe ymdrechon nhw’n galed yn ystod y blynyddoedd cyni, i barhau i ddarparu’r gwasanaeth au cyhoeddus yr oedd ar bobl eu hangen. A thrwy gydol yr argyfwng costau byw, fe ddaethon nhw o hyd i ffordd o gefnogi pobl lai ffodus. Rydw i hefyd wedi gweld agwedd benderfynol Llafur Cymru i gynnal ein gwerthoedd a’n hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, er gwaethaf Llywodraeth Geidwadol anhrefnus ac ymrannol yn San Steffan.
Mae Prydain yn wlad wych o hyd. Gallwn gyflawni llawer o bethau gwych o hyd. Yng Nghymru, gallwn weld y cyfleoedd sy’n aros i gael eu datgloi. O genhedlaeth newydd o swyddi gwyrdd o ansawdd da a bwerir gan yr arfordir, i’r swyddi technoleg sy’n caniatáu i bobl gyflawni eu huchelgeisiau’n agosach i gartref; mae Llafur Cymru yn benderfynol o helpu mwy o bobl ifanc i gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. Yr hyn y mae arnom ei eisiau yw llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gallu ymateb i’r uchelgais sydd gan bobl sy’n gweithio ar gyfer eu teulu a’u cymuned, gyda chynllun tymor hir credadwy.
Y maniffesto hwn yw’r cynllun yna. Wedi’i brisio a’i ariannu’n llawn, a’i adeiladu ar sail gadarn cyfrifoldeb cyllidol.
Mae pum cenhadaeth genedlaethol yn sail iddo – gyda chamau cyntaf clir i ddechrau’r daith ailadeiladu – sy’n rhoi cyrchfan glir i bawb y mae dyfodol Cymru a Phrydain yn bwysig iddynt. Prydain newydd, lle mae cyfoeth yn cael ei greu ym mhob cymuned. Lle y manteisir ar gyfle euraid pŵer Prydeinig glân i leihau biliau. Lle mae gwead canol trefi yng Nghymru yn parhau i wella – gan greu’r amgylchedd iddynt arallgyfeirio fel lleoedd byw, dysgu, hamdden a gweithio, lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel i gerdded y strydoedd. Lle y gallwch fynd i’r gwaith a gwybod y byddwch yn cael eich trin ag urddas a pharch. Lle mae ein plant yn cael y sgiliau i ffynnu yn y dyfodol. Lle mae ein GIG yn cael ei gefnogi trwy gyllid ac arloesedd i fod ar flaen y gad ym maes gofal iechyd. A lle rydym yn dangos bod gwleidyddiaeth Brydeinig yn gallu canolbwyntio ar wasanaethu’r wlad.
Mae’n bryd am newid
Rwy’n gwybod y bydd rhai pobl yn rholio’u llygaid wrth ddarllen y frawddeg olaf. Ac eto, gwasanaethu ein gwlad yw’r unig reswm yr ymunais â gwleidyddiaeth. Diffiniwyd fy arweinyddiaeth Lafur gan lusgo fy mhlaid i ffwrdd oddi wrth wleidyddiaeth ystumiol ddibwrpas a’i dychwelyd unwaith eto i wasanaethu pobl sy’n gweithio. Rydw i wedi newid fy mhlaid. Nawr, rydw i eisiau’r cyfle i gyflwyno’r newid hwnnw i’r wlad.
Ond, i lwyddo, mae angen i bob unigolyn a phob cymuned gyfrannu. Rwy’n gwybod, ar ôl popeth rydych chi wedi’i oddef yn ystod y 14 blynedd diwethaf, bod hyn yn gofyn llawer. Ond, rydw i hefyd yn tybio, yn y bôn, eich bod chi’n gwybod mai dyna beth sydd ei angen ar ein gwlad nawr – diwedd i’r anhrefn, troi’r ddalen, ac ailadeiladu ein gwlad yn amyneddgar ond yn benderfynol.
Felly, fe’ch gwahoddaf i ymuno â ni yn yr ymdrech hon i adnewyddu’r wlad, gyda dwy lywodraeth Lafur yn gweithio gyda’i gilydd i greu’r dyfodol tecach, gwyrddach y mae Cymru yn ei haeddu. Mae’n bryd i newid Prydain.
Keir Starmer
Arweinydd Plaid Lafur y DU
Help deliver change to Wales.
