Gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân

Keir Starmer and Ed Miliband talking to each other at a port, wearing high visibility yellow coats.
  • Sefydlu Great British Energy i leihau biliau’n barhaol
  • Annibyniaeth ynni rhag unbeniaid fel Putin
  • 650,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel ledled Prydain
  • Cartrefi cynhesach i leihau tlodi tanwydd yn sylweddol
  • Gweithredu i lanhau ein hafonydd

Yr argyfwng hinsawdd a natur yw’r her fyd-eang tymor hir fwyaf sy’n ein hwynebu. Mae’r newid i ynni glân yn gyfle enfawr i gynhyrchu twf, mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a gwneud Prydain yn annibynnol o ran ynni unwaith eto. Dyna pam mae ynni glân erbyn 2030 yn ail genhadaeth Llafur.

Nid yw’r Ceidwadwyr wedi achub ar gyfleoedd yn y maes hwn am ddau reswm cysylltiedig. Yn gyntaf, oherwydd nad ydynt yn derbyn bod twf economaidd, diogeledd ynni, biliau is, a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn gallu ategu ei gilydd. Yn ail, oherwydd eu bod yn ideolegol yn erbyn defnyddio rôl y wladwriaeth, gan gynnwys buddsoddiad cyhoeddus, i sicrhau hynny.

Daeth y niwed a achoswyd gan 14 blynedd o bolisïau ‘dros dro’ anhrefnus i’r amlwg pan ymosododd Putin ar Wcráin. Saethodd cost ynni tanwydd ffosil i fyny ar y farchnad ryngwladol. O ganlyniad i waharddiad y Ceidwadwyr ar ynni’r gwynt newydd ar y tir yn Lloegr, eu methiant i adeiladu gorsafoedd pŵer niwclear newydd, a’u penderfyniad i roi terfyn ar fuddsoddi mewn inswleiddio cartrefi, wynebodd teuluoedd ym Mhrydain rai o’r biliau ynni uchaf yn Ewrop. Dyna un ffordd yn unig rydym yn talu’r pris. Tra bod gwledydd o amgylch y byd yn rhuthro ymlaen i hawlio’r swyddi a’r cyfoeth a gynigir gan y newid, mae Prydain ar ei cholled.

Ond nid yw’n rhy hwyr i atal yr anhrefn a throi’r ddalen.

Bydd y Cynllun Ffyniant Gwyrdd yn denu buddsoddiad newydd i Gymru, a allai godi pobl allan o dlodi a darparu cyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd newydd. Mae Llywodraeth Llafur Cymru yn cefnogi’r daith hon, gan fuddsoddi mewn hydrogen, ynni’r llanw, ynni’r gwynt ar y tir ac ar y môr, arloesedd gwyrdd a Chynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net newydd.

Mae gan Brydain fanteision aruthrol sydd heb eu cyffwrdd: ein harfordir hir, gwyntoedd cryf, dyfroedd bas, prifysgolion, a gweithlu alltraeth medrus, ynghyd â’n galluoedd technolegol a pheirianegol helaeth. Mae Cymru mewn sefyllfa arbennig o dda i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn. Gyda strategaeth ddiwydiannol ddifrif, gydgysylltiedig a phartneriaeth go iawn rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â rhwng llywodraethau Llafur yng Nghymru a San Steffan, gallwn wneud Prydain yn archbŵer ynni glân o hyd.

Bydd Llafur yn cymryd camau pendant i achub ar y cyfle economaidd hwn. Byddwn yn ffurfio marchnadoedd ac yn defnyddio buddsoddiad cyhoeddus i ddenu cyllid preifat. Bydd ein Cynllun Ffyniant Gwyrdd wrth wraidd ein hymagwedd lle byddwn, mewn partneriaeth â busnes trwy ein Cronfa Cyfoeth Cenedlaethol, yn buddsoddi yn niwydiannau’r dyfodol. Bydd ein cynllun yn creu 650,000 o swyddi ar draws y wlad erbyn 2030.

Byddwn yn atal arfer anhrefnus y Ceidwadwyr o newid o un polisi i’r llall, yn manteisio ar bŵer glân i hybu ein diogeledd ynni, ac yn buddsoddi mewn uwchraddio inswleiddio cartrefi. Byddwn yn arbed cannoedd o bunnoedd i deuluoedd ar eu biliau, nid yn unig yn y tymor byr, ond am byth.

Byddwn yn darparu arweinyddiaeth gartref fel y gallwn ddylanwadu ar eraill i sicrhau bod pob gwlad yn cyfrannu at gyflawni ein rhwymedigaethau cyfunol i genedlaethau’r dyfodol.

Gartref, bydd Llywodraeth Llafur Cymru yn parhau i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur gyda’i gilydd.

Trwy weithio ochr yn ochr â llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig, bydd yn dal ati i wella mynediad pobl at natur ar eu trothwy ac ar draws tirweddau hardd Cymru, yn hyrwyddo bioamrywiaeth, ac yn gwarchod ein bywyd gwyllt.

Mae Llafur yn deall y ffordd ymlaen. Rydym wedi datgan yn glir fod y newid hwn yn cynnig cyfle i greu swyddi da, heb adael yr un gymuned ar ôl, a chefnogi swyddi sy’n talu’n dda yn niwydiannau’r presennol a’r dyfodol. Mae’r Ceidwadwyr yn cynnig ffordd arall. Gwadu realiti; oedi cyn gweithredu; cynyddu costau i Brydain; ein hamlygu i ansicrwydd; a methiant i ennill swyddi’r dyfodol. Gwnaethant roi cynnig ar yr ymagwedd anhrefnus hon yn y 1970au a’r 1980au, ac mae’r hyn a ddigwyddodd wedi gadael ei ôl ar gymunedau ledled Cymru. Dyna’r dewis sy’n wynebu Prydain.

Vaughan Gething and Keir Starmer on a visit to the Port of Holyhead

Bydd system drydan ddi-garbon yn rhoi biliau is i deuluoedd a busnesau yn barhaol. Rydym wedi dewis y genhadaeth hon nid oherwydd ei bod yn rhwydd, ond oherwydd bod rhaid sicrhau nad yw pobl sy’n gweithio yn agored i niwed gan unbeniaid fel Putin byth eto.

I gyflawni ein cenhadaeth pŵer glân, bydd Llafur yn gweithio gyda’r sector preifat i ddyblu ynni’r gwynt ar y tir, treblu pŵer solar, a phedryblu ynni’r gwynt ar y môr erbyn 2030 ledled Prydain. Byddwn yn buddsoddi mewn dal a storio carbon, hydrogen ac ynni morol, ac yn sicrhau bod gennym y system storio ynni tymor hir y mae ei hangen ar ein gwlad. Bydd Deddf Annibyniaeth Ynni newydd yn sefydlu’r fframwaith ar gyfer polisïau ynni a hinsawdd Llafur.

Bydd Llafur yn rhoi terfyn ar ddegawd o anwadalu lle mae’r Ceidwadwyr wedi osgoi penderfyniadau ar bŵer niwclear. Byddwn yn sicrhau diogelwch tymor hir y sector, gan ymestyn oes gweithfeydd presennol, a byddwn yn cwblhau Hinkley Point C. Bydd gorsafoedd pŵer niwclear newydd, fel Sizewell C, ac Adweithyddion Modiwlaidd Bach, yn chwarae rôl bwysig wrth helpu’r Deyrnas Unedig i gyflawni diogeledd ynni a phŵer glân ar yr un pryd â sicrhau miloedd o swyddi da, medrus.

Gyda dwy lywodraeth Lafur, byddwn yn parhau i archwilio’r cyfleoedd ar gyfer gorsaf niwclear newydd yn Wylfa.

Bydd Llafur yn cynnal cronfa wrth gefn strategol o orsafoedd pŵer nwy i sicrhau cyflenwad diogel. Byddwn yn sicrhau newid fesul cam a chyfrifol ym Môr y Gogledd sy’n cydnabod hanes balch ein diwydiant alltraeth a’i weithlu eithriadol, yn enwedig yn yr Alban a Gogledd- ddwyrain Lloegr, a rôl barhaus olew a nwy yn ein cymysgedd ynni.

Byddwn yn croesawu dyfodol cynhyrchu a storio ynni a fydd yn defnyddio seilwaith alltraeth presennol a sgiliau ein gweithlu alltraeth. Ni fydd Llafur yn dirymu trwyddedau presennol a byddwn yn ffurfio partneriaeth â busnesau a gweithwyr i reoli ein meysydd presennol ar hyd eu hoes. Yn hollbwysig, bydd olew a nwy yn cael eu cynhyrchu ym Môr y Gogledd am ddegawdau i ddod, a bydd Môr y Gogledd yn cael ei reoli mewn ffordd nad yw’n peryglu swyddi. A bydd ein gweithwyr alltraeth yn arwain y ffordd yn fyd-eang yn niwydiannau’r dyfodol.

Ni fyddwn yn rhoi trwyddedau newydd i archwilio meysydd newydd oherwydd ni fyddant yn arbed ceiniog ar filiau, ni allant roi sicrwydd ynni i ni, a byddant ond yn cyflymu’r argyfwng hinsawdd sy’n gwaethygu. Ni fyddwn yn rhoi trwyddedau glo newydd, ychwaith. Bydd llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn gwahardd ffracio am byth, fel y mae Llywodraeth Llafur Cymru eisoes wedi’i wneud yng Nghymru.

I gefnogi buddsoddiad yn y cynllun hwn, bydd Llafur yn dileu’r diangfeydd yn y dreth ffawdelw ar gwmnïau olew a nwy. Mae cwmnïau wedi elwa ar enillion enfawr nid oherwydd eu dyfeisgarwch neu fuddsoddiad, ond oherwydd ysgytwad ynni a gododd brisiau i deuluoedd Prydeinig. Felly, bydd Llafur yn ymestyn y cymal machlud yn yr Ardoll Elw Ynni tan ddiwedd y senedd nesaf. Byddwn hefyd yn cynyddu cyfradd yr ardoll dri phwynt canran, yn ogystal â dileu’r lwfansau buddsoddi anghyfiawnadwy o hael. Bydd Llafur hefyd yn cadw’r Mecanwaith Buddsoddi Diogeledd Ynni.

Keir Starmer during a visit to the Port of Holyhead, in North Wales, with Vaughan Gething

I sbarduno buddsoddiad mewn cynhyrchu ynni glân sy’n cael ei gynhyrchu gartref, bydd Llafur yn creu cwmni newydd sy’n eiddo i’r cyhoedd, Great British Energy. Pobl Prydain fydd yn berchen arno a bydd yn rhoi pŵer yn ôl i bobl Prydain.

Gan weithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru ac adeiladu ar waith Trydan Gwyrdd Cymru, bydd Llafur yn buddsoddi mewn ynni glân a swyddi da, yn lleihau biliau ynni unwaith ac am byth, ac yn gwneud Prydain yn annibynnol o ran ynni.

Bydd Great British Energy yn gweithio mewn partneriaeth â diwydiant ac undebau llafur i ddarparu pŵer glân drwy fuddsoddi ar y cyd mewn technolegau blaenllaw; bydd yn helpu i gefnogi prosiectau cyfalaf- ddwys; a bydd yn defnyddio cynhyrchiant ynni lleol er budd cymunedau ledled y wlad. I gefnogi hyn, bydd Llafur yn buddsoddi cyfalaf o £8.3 biliwn yn Great British Energy yn ystod tymor y senedd nesaf.

Bydd y cwmni’n creu swyddi ac yn adeiladu cadwyni cyflenwi ym mhob cwr o’r DU. Yng Nghymru, bydd Great British Energy yn manteisio ar gyfleoedd cysylltiedig â thechnolegau ynni glân fel ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd. Bydd yn creu swyddi da, yn lleihau biliau ynni, ac yn pweru mwy o gartrefi yng Nghymru gydag ynni adnewyddadwy fydd yn cael ei gynhyrchu gartref.

Mae cynhyrchu pŵer lleol yn rhan hanfodol o’r gymysgedd ynni ac mae’n lleihau’r pwysau ar y grid trawsyrru. Bydd y Blaid Lafur yn defnyddio mwy o gapasiti cynhyrchu wedi’i ddosbarthu drwy ein Cynllun Pŵer Lleol. Bydd Great British Energy yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau ynni, awdurdodau lleol a chwmnïau cydweithredol i osod miloedd o brosiectau ynni glân, drwy gyfuniad o brosiectau ynni gwynt ar y tir, ynni solar ac ynni dŵr. Byddwn yn gwahodd cymunedau i gyflwyno prosiectau, ac yn gweithio gydag arweinwyr lleol a llywodraethau datganoledig i sicrhau bod pobl leol yn elwa’n uniongyrchol o’r cynhyrchiant ynni hwn.

Dan y Ceidwadwyr, mae’r farchnad ynni ddiffygiol wedi diystyru cwsmeriaid. Mae’r llywodraeth wedi caniatáu camddefnydd cywilyddus, gan gynnwys gwasanaeth gwael i gwsmeriaid, cwmnïau’n mynd i’r wal gyda’r costau’n disgyn ar ysgwyddau talwyr biliau, a’r orfodaeth dorfol i osod mesuryddion rhagdalu.

Bydd Llafur yn sicrhau system reoleiddio llawer llymach sy’n rhoi defnyddwyr yn gyntaf ac yn denu’r buddsoddiad sydd ei angen i leihau biliau. Mae ffioedd sefydlog yn elfen ormodol o’n biliau, a byddwn yn gweithio gyda’r rheoleiddiwr i’w lleihau. Byddwn yn cryfhau’r rheoleiddiwr i sicrhau ei fod yn gallu dal cwmnïau i gyfrif am ddrwgweithredu, mynnu safonau perfformiad uwch, a sicrhau bod iawndal awtomatig i gwsmeriaid mewn achosion o fethiant.

Y grid cenedlaethol yw’r un rhwystr mwyaf i ddefnyddio pŵer rhad a glân a thrydaneiddio diwydiant. Gan nad yw dyddiadau cysylltu’r grid yn cael eu cynnig tan ddiwedd y 2030au, mae buddsoddiad pwysig mewn seilwaith a busnes yn cael ei ohirio neu ei golli dramor. Bydd Llafur yn gweithio gyda’r diwydiant i uwchraddio ein seilwaith trawsyrru cenedlaethol ac ailweirio Prydain.

Wrth i Brydain ddod yn archbŵer ynni glân, mae Llafur yn benderfynol y byddwn yn creu swyddi newydd

o ansawdd uchel, gan weithio gyda busnesau ac undebau llafur, wrth inni reoli’r newid. Byddwn yn ailadeiladu cadwyni cyflenwi gartref. Ac, fel yr economi fawr gyntaf i newid i system ynni glân, byddwn yn allforio technolegau’r dyfodol.

Bydd Cronfa Cyfoeth Cenedlaethol y Blaid Lafur yn buddsoddi’n uniongyrchol mewn porthladdoedd,

hydrogen a chlystyrau diwydiannol ym mhob cwr o’r wlad. Byddwn hefyd yn sicrhau dyfodol diwydiannau modurol a dur Prydain.

Byddwn yn gwobrwyo datblygwyr ynni glân gyda Bonws Swyddi Prydain, gan ddyrannu hyd at £500 miliwn y flwyddyn o 2026 ymlaen, i gymell cwmnïau sy’n cynnig swyddi, telerau ac amodau da ac sy’n adeiladu eu cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu yn ein hardaloedd diwydiannol, ein hardaloedd arfordirol a’n cymunedau ynni.

Bydd Llafur yn rhoi terfyn ar anghyfiawnder Cynllun Pensiwn y Glowyr. Byddwn yn adolygu’r trefniadau gwarged annheg ac yn trosglwyddo’r Gronfa Fuddsoddi Wrth Gefn yn ôl i aelodau, fel bod y glowyr a fu’n pweru ein gwlad – ac a oedd wrth galon cynifer o gymunedau yng Nghymru – yn cael pensiwn tecach.

Young male plumber sitting on the floor fixing a bathroom sink, seen from doorway.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector tai cymdeithasol yng Nghymru i ddarparu’r Rhaglen Cartrefi Cynnes. Yn ystod tymor y Senedd hon, mae’n cyflwyno rhaglen uchelgeisiol o ôl-osod tai cymdeithasol Cymru i greu cartrefi iach i denantiaid. Mae’r Safon Ansawdd Tai Cymru ddiweddaraf yn nodi’r safonau y dylai tai cymdeithasol eu cyrraedd dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i ddatblygu cynllun benthyciadau ar gyfer perchen-feddianwyr i ddarparu asesiad ôl-osod o’u cartref. Bydd hyn yn rhoi cynllun clir i berchen-feddianwyr o’r gwaith a fydd yn ofynnol i ddatgarboneiddio eu heiddo. Byddant yn cael cymorth i gael gafael ar gyllid grant a chymorth ariannol arall.

Bydd cymorth ymarferol fel hyn gan Lywodraeth Lafur Cymru yn arbed cannoedd o bunnoedd i deuluoedd ar eu biliau ynni, yn lleihau tlodi tanwydd ac yn helpu i gyflawni yn erbyn targedau newid yn yr hinsawdd.

Gan mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd a natur, bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chreu diogelwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd yn parhau i sbarduno datgarboneiddio yn y sector cyhoeddus, ôl-osod cartrefi, a gweithio gyda phartneriaid ar draws pob sector o gymdeithas i gyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd mewn ffordd deg, lle mae pawb yn rhannu’r manteision. Mae rhyddhau potensial swyddi gwyrdd o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy ledled Cymru, gan gynnwys yn y Môr Celtaidd, yn allweddol i hyn.

Mae diwydiant Prydain hefyd yn cael ei ddal yn ôl gan gostau trydan uchel, sydd yn aml wedi golygu nad yw

buddsoddi yma’n gystadleuol. Bydd cenhadaeth ynni glân y Blaid Lafur yn lleihau’r biliau hynny, gan wneud busnesau Prydain yn gystadleuol yn rhyngwladol, ac mae ein Cronfa Cyfoeth Cenedlaethol yn cefnogi’r sectorau mwyaf ynni-ddwys i ddatgarboneiddio.

Mae Llafur yn cefnogi cyflwyno mecanwaith addasu pris carbon ar draws ffiniau. Bydd hyn yn diogelu diwydiannau Prydain wrth i ni ddatgarboneiddio, yn atal gwledydd rhag gwaredu nwyddau o ansawdd is i farchnadoedd Prydain, ac yn cefnogi’r DU i gyflawni ein hamcanion hinsawdd.

Bydd Llafur yn sicrhau bod y fframwaith sefydliadol ar gyfer llunio polisïau yn adlewyrchu ein hymrwymiadau i gyrraedd sero net a chyrraedd ein cyllidebau carbon. Bydd penderfyniad y Ceidwadwyr i atal Banc Lloegr rhag rhoi ystyriaeth briodol i newid yn yr hinsawdd yn ei fandadau yn cael ei wrthdroi.

Mae gan ddiwydiant gwasanaethau ariannol Prydain, sy’n flaenllaw yn fyd-eang, rôl bwysig i’w chwarae o ran defnyddio triliynau o bunnoedd mewn cyfalaf preifat i fynd i’r afael â her hirdymor fwyaf ein hoes. Bydd Llafur yn gwneud y DU yn bencadlys cyllid gwyrdd y byd, gan orfodi sefydliadau ariannol sy’n cael eu rheoleiddio yn y DU – gan gynnwys banciau, rheolwyr asedau, cronfeydd pensiwn ac yswirwyr – a chwmnïau FTSE 100 i ddatblygu a gweithredu cynlluniau pontio credadwy sy’n cyd-fynd â nod 1.5°C Cytundeb Paris.

Keir Starmer and Vaughan Gething talk to a group of women in the Port of Holyhead, in North Wales

Mae paratoi ar gyfer y dyfodol nid yn unig yn golygu mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ond hefyd addasu i’r newidiadau y maent yn eu hachosi i’n hamgylchedd. Heb weithredu, bydd llifogydd ac erydu arfordirol yn peri mwy o risgiau i fywydau, bywoliaeth a lles pobl. Mae dulliau gwael y Ceidwadwyr o reoli risg, a dull gweithredu digyswllt ar draws y llywodraeth a rheoleiddwyr, wedi gadael Prydain yn agored iawn i risg.

Bydd Llafur yn gwella gwydnwch a pharatoadau, gyda Llywodraeth Lafur Cymru a llywodraeth Lafur y DU yn gweithio mewn partneriaeth, a hefyd gydag awdurdodau lleol, cymunedau lleol a’r gwasanaethau brys. Mae hyn yn cynnwys gweithio’n ffurfiol gyda’r holl randdeiliaid yn y gwasanaethau Tân ac Achub i hysbysu polisïau a sefydlu safonau cenedlaethol.

Mae’r argyfyngau hinsawdd a natur yn mynd law yn llaw, a rhaid inni fynd i’r afael â’r ddau gyda’n gilydd. Mae pobl ledled y wlad ac ymwelwyr â Chymru yn mwynhau ein harfordir a’n tirweddau godidog, ac eto mae’r Ceidwadwyr wedi gadael Prydain yn un o’r

gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf yn y byd.

Gan weithio ochr yn ochr â llywodraeth Lafur yn y DU, bydd Llafur Cymru yn parhau i gyflawni dros fyd natur. Mae wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i greu

lleoedd ar gyfer byd natur ar garreg drws pobl ledled Cymru drwy rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Ochr yn ochr â hyn, mae rhaglen Rhwydweithiau Natur wedi buddsoddi dros £30 miliwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda mwy i ddod. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi adfer 3,000 hectar o fawndir ers 2020 ac

wedi helpu i greu cynefin cyfoethog, storio dŵr, sicrhau storfeydd carbon hanfodol, a chreu swyddi medrus iawn.

Bydd Llafur Cymru yn parhau i ehangu cynefinoedd sy’n gyforiog o natur a bydd yn sicrhau bod 30% o diroedd a moroedd Cymru yn cael eu gwarchod erbyn 2030 fel rhan o dargedau bioamrywiaeth newydd, uchelgeisiol wedi’u rhwymo mewn cyfraith ar gyfer atal a gwrthdroi colli natur. Bydd deddfwriaeth ar gyfer fframwaith llywodraethiant amgylcheddol newydd yng Nghymru. Bydd camau gorfodi cryfach i ddiogelu’r amgylchedd a chosbau llymach i’r rheini sy’n torri

rheolau amgylcheddol. Bydd dwy lywodraeth Lafur sy’n gweithio gyda’i gilydd yn gweithio mewn partneriaeth â chymdeithas sifil, cymunedau a busnesau i adfer a gwarchod ein byd naturiol. Mae gan Gymru hanes balch o wella mynediad at natur, a adlewyrchir gan Lwybr Arfordir Cymru. Gan adeiladu ar y llwyddiannau hyn, byddwn yn parhau i ymdrechu i wneud natur yn fwy hygyrch drwy’r Goedwig Genedlaethol a thrwy barhau i weithio tuag at greu Parc Cenedlaethol newydd.

Ledled Prydain, mae llygredd anghyfreithlon yn effeithio ar arfordiroedd, afonydd a llynnoedd. Yn Lloegr, mae’r Ceidwadwyr wedi anwybyddu hyn, wedi gwanhau rheoleiddio, gyda niwed difrifol yn cael ei wneud i iechyd pobl, ein cefn gwlad a’r diwydiant twristiaeth.

Yng Nghymru, mae tair gwaith yn fwy o afonydd yn cael statws ecolegol da neu well, nag yn Lloegr, ond gwyddom fod mwy i’w wneud. Yn ogystal â’r Tasglu Ansawdd Afonydd Gwell, sy’n canolbwyntio ar lygredd carthion,

a byrddau rheoli maetholion, fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru arloesi gyda’r Uwchgynadleddau Afonydd, sy’n cael eu cadeirio gan Brif Weinidog Cymru ac sy’n dod â’r holl randdeiliaid at ei gilydd i fynd i’r afael â phob ffynhonnell llygredd. Mae’r dull hwn yn allweddol i sicrhau bod y duedd o wella ansawdd dŵr yng Nghymru yn parhau. Mae Llafur Cymru hefyd wedi ymrwymo i wella ansawdd dŵr drwy adolygu rheoliadau llygredd amaethyddol a mynd i’r afael â llygredd mwyngloddiau metel. Mae Llywodraeth Lafur Cymru bellach wedi

buddsoddi £15 miliwn ers 2020, gyda £5 miliwn arall wedi’i gynllunio ar gyfer 2024-25.

Bydd Llywodraeth Lafur y DU yn rhoi pwerau newydd i reoleiddwyr atal taliadau bonws i swyddogion gweithredol sy’n llygru ein dyfrffyrdd.

Keir Starmer stands in front of some wind turbines at an on-shore wind farm near Grimsby.

Mae paratoi Cymru a Phrydain ar gyfer y dyfodol nid yn unig yn golygu mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ond hefyd addasu i’r newidiadau a fyddwn yn eu gweld yn ein hamgylchedd. Heb weithredu, bydd llifogydd ac erydu arfordirol yn peri mwy o risgiau i fywydau, bywoliaeth a lles pobl. Fodd bynnag, mae Prydain gyfan yn cael ei gadael yn agored i reoli risg diffygiol, a dull gweithredu digyswllt ar draws y llywodraeth a rheoleiddwyr.

Gan adeiladu ar waith blaenorol, mae Llywodraeth Lafur Cymru ar fin buddsoddi £75 miliwn mewn gwelliannau cyfalaf eleni, gan weithio gyda chynghorau i leihau’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i gymunedau ledled Cymru. Mae hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda natur i wella’r gwaith o reoli llifogydd ym mhob un o’r prif ddalgylchoedd afonydd, gan ehangu cynefinoedd gwlypdir a choetir yn y broses. Wrth symud ymlaen, bydd cyllid ar gael ar gyfer dros 20 yn rhagor o’r prosiectau hyn ledled Cymru, gan weithio gyda ffermwyr, tirfeddianwyr a chymdeithas sifil Cymru.

Bydd Llafur yn gwella cydnerthedd a pharatoadau ar draws llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol, cymunedau lleol a’r gwasanaethau brys, gan gynnwys Tân ac Achub.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth arloesol ar ddiogelwch tomenni glo.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cydnabod bod diogelwch bwyd yn ddiogelwch cenedlaethol, ac yn cydnabod pwysigrwydd ffermio o ran diogelu ein cymunedau, ein hiaith a’n diwylliant.

Mae dyfodol llwyddiannus ffermio yng Nghymru yn ymwneud â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gofalu am yr amgylchedd ac ategu cymunedau gwledig Cymru, a goresgyn yr argyfyngau hinsawdd a natur rydym ni a chenedlaethau’r dyfodol yn eu hwynebu.

Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn allweddol i gyflawni hyn a bydd Llafur Cymru yn parhau i wrando a gweithio mewn partneriaeth ag undebau ffermio, cymdeithas sifil ac eraill. Gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol lle mae ein ffermwyr yn cynhyrchu’r bwyd gorau o Gymru yn unol â’r safonau uchaf ac yn diogelu ein hamgylchedd gwerthfawr. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru hefyd yn parhau i weithio i gefnogi’r economi wledig.

Gan weithio ochr yn ochr ag uchelgais llywodraeth Lafur y DU i gynyddu cyfran y bwyd a brynir ar draws y sector cyhoeddus sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol neu sydd wedi’i ardystio yn unol â safonau uwch o ran diogelu’r amgylchedd, mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cadwyni cyflenwi bwyd lleol a safonau amgylcheddol uchel.

Mae lladd gwartheg â TB ar ffermydd yn cael effaith enfawr ar les ffermwyr, gweithwyr fferm a’u teuluoedd. Bydd Llafur Cymru yn adeiladu ar y camau diweddar tuag at leihau nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd ar ffermydd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sydd yng nghamau olaf eu beichiogrwydd, a bydd yn parhau i weithio gyda ffermwyr a gwyddonwyr i sicrhau Cymru Ddi-TB. Bydd Llafur Cymru hefyd yn cefnogi iechyd meddwl a lles ffermwyr a’u teuluoedd drwy barhau i weithio gyda’r elusennau sy’n darparu cymorth mor rhagorol.

Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i weithio tuag at Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru a Bwyd o Bwys.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru am i Gymru gael ei chydnabod am ei safonau rhagorol o ran lles anifeiliaid.

Mae gan Lafur Cymru hanes balch o orfodi safonau lles anifeiliaid cryf, o hyrwyddo perchnogaeth cŵn cyfrifol, i ddeddfu ar gyfer teledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai, i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud.

Gyda dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio, gallwn wneud cymaint mwy. Byddwn yn gwahardd hela trywydd a mewnforio tlysau hela. Byddwn yn rhoi’r gorau i smyglo cŵn bach ac yn parhau â gwaith Llywodraeth Lafur Cymru gan gynnwys ar ficrosglodynnu, anifeiliaid fferm mewn cewyll, lles milgwn a thrwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid. Bydd y Blaid Lafur yn gweithio mewn partneriaeth â gwyddonwyr, diwydiant a chymdeithas sifil wrth i ni weithio tuag at ddileu profion ar anifeiliaid yn raddol.

Mae safle Cymru fel yr ail genedl ailgylchu uchaf yn y byd yn un o lwyddiannau mwyaf balch Llafur Cymru. Mae’r llwyddiant hwn yn dibynnu ar gyfraniad pob cartref, ac mae’n deillio o weledigaeth glir a buddsoddiad parhaus, ynghyd â fframwaith rheoleiddio cadarn a phartneriaeth gref. Bydd rheoliadau Llywodraeth Lafur Cymru ar ailgylchu yn y gweithle yn sbarduno rhagor o gynnydd, sy’n sail i’r uchelgeisiau ar gyfer yr economi gylchol a’r swyddi gwyrdd y mae’n eu creu. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni addewid deddfwriaeth ddiweddar y Senedd i wella ansawdd aer yng Nghymru.

Gan weithio gyda Llywodraeth Lafur y DU, bydd Llafur Cymru yn parhau i leihau problem sbwriel a mynd i’r afael â llygredd plastig er mwyn symud i economi gylchol sy’n gwarchod natur a phobl, yn glanhau ein cymunedau, yn ogystal â lleihau plastigau untro a rhoi mwy o gymorth i gynghorau leihau sbwriel a thipio anghyfreithlon. Bydd Llafur Cymru yn parhau i gefnogi mesurau uchelgeisiol ar gyfer ailddefnyddio, gan gynnwys cynlluniau dychwelyd ernes a hybiau ailddefnyddio ac atgyweirio, gyda’r nod o gefnogi hyb ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.