Hawlio’n ôl ein strydoedd
- Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda mwy o heddlu cymdogaeth
- Cosbau llym newydd i droseddwyr
- Cynllun i gael cyllyll oddi ar ein strydoedd
- Uned trais rhywiol arbenigol ym mhob heddlu
- Buddsoddi mewn gwasanaethau ieuenctid
Skip to:
Mae gan Lafur weledigaeth syml ar gyfer plismona a chyfiawnder troseddol.
Pan fyddwch yn galw’r heddlu, dylent ddod. Pan fyddwch yn rhoi gwybod am drosedd, dylid ymchwilio’n briodol iddi ni waeth pwy ydych chi, neu ble rydych chi’n byw. Dylai cymunedau ymddiried yn yr heddlu. Rhaid i ddioddefwyr fod yn ffyddiog y bydd cyfiawnder yn cael ei gyflawni, ac y bydd troseddwyr yn cael eu cosbi. Ni ddylai carchardai fod yn academïau troseddu. Nid yw’r rhain yn ddisgwyliadau eithafol. Dyma hanfodion cymdeithas ddiogel sy’n parchu’r gyfraith.
Yn anffodus, mae’r weledigaeth hon yn wahanol iawn i Brydain heddiw. Mae ein hymdeimlad o ddiogelwch wedi cael ei erydu’n ddrwg. Mae trais difrifol yn rhy uchel. Mae niferoedd cynyddol o bobl ifanc yn cael eu denu at gangiau, i ddelio cyffuriau a thrais yn gynharach fyth.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn difetha canol ein trefi a’n dinasoedd. Mae llai o droseddwyr yn cael eu dal a’u cosbi. Mae mwy o ddioddefwyr yn cael eu siomi.
Nid damwain yw hyn, ond canlyniad dewisiadau’r Ceidwadwyr dros y 14 mlynedd diwethaf. Mae plismona cymunedol wedi cael ei israddio, gyda swyddogion cymdogaeth yn cael eu tynnu oddi ar y strydoedd i fynd i’r afael â phrinder mewn mannau eraill, gan wanhau’r cysylltiadau â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae ymddiriedaeth yn yr heddlu wedi cael ei danseilio gan fethiannau mewn fetio a chamymddwyn gwarthus gan rai swyddogion. Mae’r pwerau i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a dwyn o siopau wedi cael eu gwanhau, gan adael canol ein trefi yn agored i hyn. Gadawyd i’n system gyfiawnder ddod i stop.
Rhaid i hyn newid. Bydd Llafur yn adfer plismona cymdogaeth gyda miloedd o swyddogion ychwanegol, a byddwn yn arfogi swyddogion â’r pwerau y mae arnynt eu hangen. Byddwn yn mynd i’r afael â’r epidemig o drais difrifol, gyda mwy o ffocws ar atal, gan gynnwys drwy ddal y cwmnïau a’r swyddogion gweithredol hynny, sy’n elwa o droseddau cyllyll, i gyfrif yn bersonol. Ni fyddwn mwyach yn goddef y trais yn erbyn menywod a merched sy’n staen ar ein cymdeithas. A byddwn yn diwygio’r system gyfiawnder i roi anghenion dioddefwyr yn gyntaf, i fynd i’r afael â’r argyfwng carchardai ac i leihau aildroseddu.
Yn fyr, bydd Llafur yn rhoi terfyn ar anrhefn y Ceidwadwyr ac yn dod â chyfraith a threfn yn ôl i’n strydoedd.
Plismona cymdogaeth gweladwy
Plismona cymdogaeth gweladwy oedd conglfaen y model seiliedig ar gydsyniad ym Mhrydain. Mewn gormod o ardaloedd, mae wedi cael ei erydu, gan adael yr heddlu’n wasanaeth adweithiol sy’n canolbwyntio ar ymateb i argyfwng, yn hytrach nag atal troseddu.
Bydd Llafur yn cyflwyno Gwarant Plismona Cymdogaeth newydd, gan adfer patrolau i ganol ein trefi drwy recriwtio miloedd o swyddogion heddlu newydd, swyddogion cymorth cymunedol, a chwnstabliaid arbennig. Bydd gan gymunedau a thrigolion swyddog penodedig i droi ato pan fydd pethau’n mynd o chwith. Mae Llafur Cymru wedi camu i mewn i roi swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol ar strydoedd Cymru tra bod y Ceidwadwyr wedi gwanhau plismona yn y gymdogaeth. Bydd dwy lywodraeth Lafur yn gallu cydweithio i gadw cymunedau yng Nghymru yn ddiogel.
Byddwn yn gallu talu am ragor o recriwtiaid newydd drwy fynd i’r afael â gwastraff drwy raglen Effeithlonrwydd a Chydweithredu Heddlu newydd ar gyfer Cymru a Lloegr.
Bydd y rhaglen yn gosod safonau ar gyfer caffael ar draws y wlad ac yn sefydlu gwasanaethau a rennir a swyddogaethau arbenigol i leihau costau.
Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Nid dim ond niwsans ‘lefel isel’ yw ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’n taro’r cymunedau tlotaf galetaf, ac os na chaiff ei fonitro mae’n arwain at droseddu mwy difrifol. Eto i gyd, mae’r Ceidwadwyr wedi gwanhau pwerau gorfodi. Bydd Llafur yn datrys hyn drwy gyflwyno Gorchmynion Parch newydd – pwerau i wahardd troseddwyr cyson sy’n oedolion o ganol trefi, a fydd yn rhoi terfyn ar broblemau megis yfed a defnyddio cyffuriau yn gyhoeddus. Bydd pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon a fandaliaid hefyd yn cael eu gorfodi i lanhau’r llanast maen nhw wedi’i greu.
Gyda mwy a mwy o ddwyn o siopau, mae gweithwyr manwerthu yn wynebu perygl cynyddol. Bydd Llafur yn cael gwared â’r breintryddid i bob pwrpas, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr, ar gyfer rhywfaint o ddwyn o siopau, ac yn creu trosedd benodol newydd ar gyfer ymosodiadau ar weithwyr siopau a fydd yn eu hamddiffyn rhag bygythiadau a thrais.
Cynllun gweithredu ar droseddau cyllyll
Mae troseddau cyllyll wedi bod yn cynyddu ers degawd, gan gymryd llawer gormod o fywydau ifanc. Mae’n argyfwng cenedlaethol, sy’n galw am weithredu ar frys. Ac eto, dan y Ceidwadwyr, yn rhy aml pan ganfyddir person yn ei arddegau gyda chyllell, nid oes dim yn digwydd, ac mae cario cyllell yn cael ei normaleiddio.
Bydd y llywodraeth Lafur nesaf yn newid hyn. Ein nod yw haneru troseddau cyllyll mewn degawd.
Bydd Llafur yn rhoi terfyn ar yr arfer o rybuddion gwag drwy sicrhau bod cario cyllell yn sbarduno ymyrraeth gyflym a chanlyniadau llym. Bydd pob person ifanc sy’n cael ei ddal gyda chyllell yn cael ei gyfeirio at Dîm Troseddau Ieuenctid a bydd yn cael cynllun gorfodol i atal aildroseddu, gyda chosbau’n cynnwys cyrffyw, tagio, a charcharu ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol.
Er mwyn cael cyllyll oddi ar ein strydoedd, bydd Llafur yn gwahardd cleddyfau ‘ninja’, llafnau ‘zombie’ a machetes, ac yn cryfhau rheolau i atal gwerthiant ar-lein. Bydd swyddogion gweithredol cwmnïau ar-lein sy’n torri’r rheolau hyn yn cael eu dwyn i gyfrif yn bersonol drwy sancsiynau llym.
Bydd yna bartneriaeth newydd rhwng dwy lywodraeth Lafur i gadw ein strydoedd yn ddiogel a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn buddsoddi’n barhaus mewn gwasanaethau ieuenctid i’w helpu i ddiwallu anghenion pobl ifanc sy’n newid a’u helpu i fagu hyder, a datblygu cysylltiad a sgiliau gwerthfawr.
Ni fyddwn yn aros i’r rhai sy’n wynebu risg wneud cysylltiad. Bydd partneriaethau atal lleol yn nodi pobl ifanc y gallai gael eu denu at drais, ac yn ymyrryd.
Bydd Llafur hefyd yn cyflwyno trosedd newydd o gam- fanteisio’n droseddol ar blant, i fynd ar ôl y gangiau sy’n hudo pobl ifanc i mewn i drais a throseddu.
Mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched
Ers gormod o amser, mae trais yn erbyn menywod a merched wedi cael ei anwybyddu. Bydd ein cenhadaeth allweddol i haneru trais yn erbyn menywod a merched mewn degawd yn gofyn am ymdrech genedlaethol. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau â’i ‘dull glasbrint’ cydweithredol o fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, gan ganolbwyntio ar ffrydiau gwaith penodol a’u cryfhau drwy weithio mewn partneriaeth â llywodraeth Lafur y DU a fydd yn defnyddio pob arf fydd ar gael i dargedu drwgweithredwyr a mynd i’r afael ag achosion gwaelodol cam-drin a thrais.
Mae hynny’n dechrau gyda gorfodaeth ac amddiffyniad mwy cadarn. Gyda Llafur, bydd timau trais a throseddau rhywiol arbenigol ym mhob heddlu. Bydd y drwgweithredwyr mwyaf cyson a niweidiol yn cael eu targedu’n ddi-baid, gan ddefnyddio tactegau sydd fel arfer wedi’u cadw ar gyfer terfysgwyr a throseddu cyfundrefnol.
Mae cyfraddau erlyn am drais rhywiol yn gywilyddus o isel gyda llawer o ddioddefwyr yn gadael y system gyfiawnder pan fyddant yn wynebu blynyddoedd o oedi. Bydd Llafur yn cyflymu achosion trais rhywiol, gyda llysoedd arbenigol ym mhob un o leoliadau Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr.
Mae dioddefwyr yn haeddu gwell cefnogaeth. Gan adeiladu ar lwyddiant y dull gweithredu a fabwysiadwyd gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Llafur, byddwn yn cyflwyno arbenigwyr ar gam-drin domestig mewn ystafelloedd rheoli 999 er mwyn i ddioddefwyr allu siarad yn uniongyrchol ag arbenigwr, a sicrhau bod eiriolwr cyfreithiol ym mhob ardal heddlu i gynghori dioddefwyr o’r eiliad y byddant yn riportio hyd at y treial.
Nid yw trais a cham-drin menywod a merched yn dod o unman. Mae casineb at fenywod yn un o’r prif achosion, a dyna pam mae’r cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd yng Nghymru yn addysgu pobl ifanc am berthnasoedd iach a chydsyniad.
Bydd llywodraeth Lafur yn y DU yn sicrhau bod gan heddluoedd y pwerau sydd eu hangen arnynt i dracio a mynd i’r afael â’r broblem.
Nid yw ystelcio wedi cael ei drin gyda’r difrifoldeb y mae’n ei haeddu. Bydd Llafur yn cryfhau’r defnydd o Orchmynion Amddiffyn rhag Ystelcio ac yn rhoi’r hawl i fenywod wybod pwy yw’r bobl sy’n ystelcio ar-lein. Mae sbeicio yn drosedd ddifrifol i ddioddefwyr, sy’n golygu bod llawer o fenywod yn teimlo’n fregus pan fyddant yn mynd allan. Bydd Llafur yn cyflwyno trosedd newydd ar gyfer sbeicio er mwyn helpu’r heddlu i ymateb yn well i’r trosedd hwn.
Byddwn yn cryfhau’r hawliau a’r amddiffyniadau sydd ar gael i fenywod mewn cyplau sy’n cyd-fyw, yn ogystal ag i chwythwyr chwiban yn y gweithle, gan gynnwys ynghylch aflonyddu rhywiol.
Gwell plismona
Dan y Ceidwadwyr, mae perfformiad plismona gwael wedi cael ei oddef, gyda heddluoedd yn treulio blynyddoedd mewn mesurau arbennig. Mae ymddiriedaeth yn yr heddlu wedi’i thanseilio gan weithredoedd gwarthus rhai swyddogion. Bydd Llafur yn agor pennod newydd ac yn codi safonau drwy ddiwygio’r heddlu.
Bydd Llafur yn rhoi pwerau newydd i Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi, ac i’r Gwasanaethau Tân ac Achub ymyrryd â lluoedd sy’n methu. Byddwn yn cyflwyno safonau proffesiynol gorfodol ar fetio, gwirio a chamymddwyn ar gyfer swyddogion unigol; a hyfforddiant cryfach ar hiliaeth a thrais yn erbyn menywod a merched. Bydd unrhyw un sydd â hanes o drais yn erbyn menywod a merched yn cael ei wahardd o’r gwasanaeth a byddwn yn cyflwyno gwaharddiadau awtomatig os bydd swyddogion yn destun ymchwiliad am gam-drin domestig a throseddau rhywiol. Mae angen bod yn arbennig o ofalus wrth ymchwilio i blant.
Bydd Llafur yn cyflwyno mesurau diogelu cyfreithiol newydd ynghylch noeth-chwilio plant a phobl ifanc.
Twyll yw bron i ddau o bob pum trosedd, ond mae’r Ceidwadwyr wedi methu ag ymateb i faint yr her. Bydd Llafur yn cyflwyno strategaeth dwyll estynedig newydd i fynd i’r afael â’r ystod lawn o fygythiadau, gan gynnwys twyll ar-lein, twyll yn y sector cyhoeddus a thwyll difrifol. Byddwn yn gweithio gyda chwmnïau technoleg i atal twyllwyr rhag camddefnyddio eu llwyfannau.
Nid yw troseddwyr byth yn rhoi’r gorau i chwilio am ffyrdd newydd o dargedu dioddefwyr. Rhaid i’r heddlu newid y ffordd y maent yn gweithredu hefyd, gyda thechnoleg a thechnegau ymchwilio yn cyd-fynd â bygythiadau modern. Byddwn yn gweithio gyda chyrff plismona cenedlaethol a staff yr heddlu i safoni dulliau caffael, TG, safonau proffesiynol a hyfforddiant. A byddwn yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei drefnu er mwyn gallu buddsoddi mewn galluoedd arbenigol, fel gwaith fforensig digidol, ac i fynd i’r afael yn fwy effeithiol â materion trawsffiniol fel troseddau cyfundrefnol difrifol.
Datrys troseddau
Dan y Ceidwadwyr, mae’r gostyngiad mawr mewn cyfraddau cyhuddo ac erlyn wedi creu troseddwyr mwy hyf. Yn hytrach na chydweithio, mae’r heddlu ac erlynwyr yn aml yn chwarae gêm o feio ei gilydd, sy’n gwneud cam â dioddefwyr.
Bydd Llafur yn gwrthdroi hyn, gan gynyddu cyfran y troseddau a ddatrysir drwy leihau’r rhwystrau rhag dwyn cyhuddiadau, lleihau biwrocratiaeth, a gwella cydweithio. Byddwn yn ei gwneud yn haws i heddluoedd sy’n perfformio’n dda gyhuddo troseddwyr a amheuir o gam-drin domestig, er mwyn cyflymu’r broses.
Mae Llafur yn cydnabod heriau recriwtio, yn enwedig ar gyfer ditectifs, felly byddwn yn cyflwyno cynllun mynediad uniongyrchol ar gyfer ditectifs i hybu sgiliau ymchwilio.
System gyfiawnder sy’n rhoi dioddefwyr yn gyntaf
Ar ôl 14 mlynedd o esgeulustod, mae’r system cyfiawnder troseddol wedi torri. Mae dioddefwyr yn aros misoedd, blynyddoedd weithiau, i’w hachos ddod i dreial, ac yn methu symud ymlaen â’u bywydau. Fel cam cychwynnol i fynd i’r afael ag ôl-groniad yn y llysoedd, bydd Llafur yn sicrhau bod mwy o erlynwyr ar gael drwy ganiatáu i Erlynwyr Cyswllt weithio ar achosion priodol.
Byddwn yn cyflwyno mesurau diogelu newydd ar gyfer dioddefwyr troseddau ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol parhaus, drwy gynyddu pwerau’r Comisiynydd Dioddefwyr, a sicrhau bod dioddefwyr yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Hyd yn oed pan geir troseddwyr yn euog, yn aml nid yw’r dedfrydau a gânt yn gwneud synnwyr i ddioddefwyr na’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae hyn yn peri pryder arbennig yn achos troseddau yn erbyn menywod a merched.
Bydd Llafur yn cynnal adolygiad o ddedfrydu i sicrhau bod hynny’n cael ei ddiweddaru.
Mynd i’r afael â’n carchardai a lleihau aildroseddu
Mae carchardai yng Nghymru a Lloegr mewn argyfwng. Mae methiant y Ceidwadwyr i adeiladu digon o leoedd wedi arwain at orlenwi ac anhrefn. Cynghorir barnwyr i oedi cyn dedfrydu. Mae carcharorion yn cael eu rhyddhau’n gynnar. Ac mae llai o droseddwyr peryglus yn cael eu cloi oherwydd diffyg lle.
Mae’r Ceidwadwyr wedi methu ag adeiladu carchardai. Mae Llafur yn cydnabod bod carchardai o bwysigrwydd cenedlaethol ac felly byddwn yn defnyddio’r holl bwerau perthnasol i adeiladu’r carchardai y mae eu hangen mor ddybryd.
O ganlyniad i orlenwi, mae ein carchardai’n fwyfwy peryglus, ac mae defnyddio cyffuriau ac anhrefn treisgar yn rhemp – gan roi swyddogion carchardai mewn sefyllfa beryglus. Yn hytrach na bod yn llefydd lle mae troseddwyr yn cael eu cosbi a’u hadsefydlu, mae carchardai’n lle sy’n meithrin mwy o droseddu. Mae pobl sy’n gadael carchar yn fwy tebygol o aildroseddu os nad oes ganddynt yr adnoddau i gefnu ar droseddu, os nad oes ganddynt unman i fyw ac os nad oes ganddynt swydd ar ôl cael eu rhyddhau.
Bydd Llafur yn gweithredu i leihau aildroseddu. Byddwn yn gweithio gyda charchardai i wella mynediad troseddwyr at weithgarwch pwrpasol, fel dysgu, a sicrhau eu bod yn creu cynlluniau cyn-rhyddhau ar gyfer y rheini sy’n gadael y ddalfa. Byddwn yn cefnogi carchardai i gysylltu â chyflogwyr lleol a’r sector gwirfoddol i gael gwaith i gyn-droseddwyr. Mae plant carcharorion mewn mwy o berygl o gael eu denu i droseddu na’u cyfoedion. Byddwn yn sicrhau bod y bobl ifanc hynny’n cael eu hadnabod ac yn cael cynnig cymorth i dorri’r cylch.
Ar ôl 14 mlynedd o ad-drefnu anhrefnus, mae’r gwasanaeth prawf cenedlaethol yn ei chael yn anodd cadw’r cyhoedd yn ddiogel. Mae diffyg cydgysylltu rhwng carchardai, y gwasanaeth prawf a gwasanaethau lleol eraill hefyd yn golygu nad yw pobl sy’n gadael y carchar yn cael y cymorth iawn, gan gynyddu’r risg o droi’n ôl at droseddu yn syth.
Mewn rhai rhannau o’r wlad, rydym wedi gweld Meiri Llafur yn arloesi gyda dull mwy cydgysylltiedig o leihau aildroseddu. Ym Manceinion Fwyaf, mae’r gwasanaeth prawf wedi’i gysylltu â gwasanaethau tai ac iechyd i sicrhau bod troseddwyr sy’n gadael y ddalfa yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Bydd y Blaid Lafur yn cynnal adolygiad strategol o lywodraethu’r gwasanaeth prawf, gan gynnwys ystyried manteision modelau datganoledig.
Anghyfiawnderau hanesyddol
O dan y Ceidwadwyr, mae gormod o ddioddefwyr anghyfiawnderau hanesyddol wedi cael eu sarhau gan flynyddoedd o oedi cyfreithiol. Heb gyfiawnder a’r gwir, ni all dioddefwyr a’u teuluoedd symud ymlaen. Bydd Llafur yn cywiro’r anghyfiawnder hwn, yn gweithredu ar ganfyddiadau’r Ymchwiliad i Waed Heintus, ac yn ymateb i ganfyddiadau Ymchwiliad Grenfell ac Ymchwiliad Covid-19, er mwyn sicrhau datrysiad cyflym.
Bydd y Blaid Lafur yn cyflwyno ‘Cyfraith Hillsborough’ a fydd yn gosod dyletswydd gonestrwydd gyfreithiol ar weision cyhoeddus ac awdurdodau, ac yn darparu cymorth cyfreithiol i ddioddefwyr trychinebau neu farwolaethau sy’n gysylltiedig â’r wladwriaeth. Byddwn yn sicrhau bod lleisiau dioddefwyr sgandal Windrush yn cael eu clywed a bod y cynllun iawndal yn cael ei gynnal yn effeithiol, gyda Chomisiynydd Windrush newydd.
Bydd Llafur hefyd yn sicrhau, drwy ymchwiliad neu archwiliad, fod y gwir am y digwyddiadau yn Orgreave yn dod i’r amlwg.
Bydd Llafur yn rhoi terfyn ar yr anhrefn sy’n gadael i ormod o droseddwyr weithredu’n ddi-gosb, yn agor pennod newydd gyda phlismona cryfach, ac ailadeiladu ein system cyfiawnder troseddol.
Help deliver change to Wales.