Vote Labour on 4 July

Help us win

Chwe cham Llafur i newid Cymru

  1. Sicrhau sefydlogrwydd economaidd gyda rheolau gwario llym, er mwyn i ni allu tyfu ein heconomi a chadw trethi, chwyddiant a morgeisi mor isel â phosib.
  1. Lleihau amseroedd aros y GIG drwy dargedu’r rheini sy’n aros hiraf ac sydd fwyaf mewn angen. Byddwn yn talu am hyn drwy gosbi’r rheini sy’n osgoi trethi yn llym, a mynd i’r afael â’r mannau gwan yn y rheolau ar gyfer y rheini nad yw eu domisil yn y DU (non-dom).
  1. Lansio Rheolaeth Diogelwch y Ffin newydd drwy gael cannoedd o ymchwilwyr arbenigol newydd, a defnyddio pwerau gwrthderfysgaeth i chwalu gangiau troseddol ar gychod.
  1. Sefydlu Great British Energy, cwmni ynni glân ym mherchnogaeth y cyhoedd sy’n gweithio gyda Llywodraeth Llafur Cymru i leihau biliau am byth, a rhoi hwb i ddiogelwch ynni a chreu swyddi newydd. Byddwn yn talu am hyn drwy osod treth ffawddelw ar gwmnïau olew a nwy mawr.
  1. Cosbi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn llym drwy gael mwy o heddlu mewn cymdogaethau. Byddwn yn talu am hyn drwy roi diwedd ar gontractau gwastraffus, cyflwyno cosbau newydd llym i droseddwyr, a buddsoddi mewn gwasanaethau ieuenctid.
  1. Recriwtio athrawon newydd mewn pynciau allweddol i baratoi plant ar gyfer bywyd, gwaith a’r dyfodol. Byddwn yn talu am hyn drwy roi diwedd ar gymorth treth i ysgolion preifat.

Dwy lywodraeth Lafur; yn cydweithio ar gyfer Dyfodol Cymru a Phrydain.