Creu GIG sy’n addas ar gyfer y dyfodol

- Lleihau amseroedd aros y GIG
- Hyfforddi mwy o feddygon a nyrsys
- Buddsoddi mewn offer newydd
- Symud gofal yn nes at adref
- Darparu gwell mynediad at ddeintyddiaeth
- Gwella cymorth iechyd meddwl
Skip to:
Rydym yn hynod falch mai llywodraeth Lafur 1945 a sefydlodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Fe’i crëwyd yng Nghymru. Mae ei egwyddorion sylfaenol wedi goroesi ac mae hynny yn arbennig o wir yng Nghymru heddiw:
Dylai’r gwasanaethau iechyd gorau fod ar gael, yn rhad ac am ddim i bawb. Ni ddylai arian fod yn basbort i’r driniaeth orau mwyach. Dylai pobl gael y gorau y gall gwyddoniaeth fodern ei gynnig.
Ers bron i 80 mlynedd mae’r GIG wedi parhau i’n gwasanaethu’n dda. Fodd bynnag, mae’n wir dweud hefyd bod y GIG – a gofal cymdeithasol – dan bwysau sylweddol yng Nghymru ac yng ngweddill y DU. Bu ein staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio’n arwrol drwy’r pandemig i’n cadw ni i gyd yn ddiogel, a bob dydd maent yn darparu gofal o ansawdd uchel sy’n achub bywydau ac yn newid bywydau degau o filoedd o bobl.
Mae’r GIG yng Nghymru heddiw yn wynebu galw cynyddol wrth i fwy o bobl fyw bywydau hirach, gyda chyflyrau cronig mwy hirdymor, ac amseroedd aros hirach am driniaeth, o ganlyniad i’r pandemig.
Bydd Llywodraeth Lafur Cymru bob amser yn cefnogi’r GIG – a bydd bob amser yn cefnogi’r GIG i newid a moderneiddio.
Mae hynny’n golygu parhau i fuddsoddi yn y GIG, hyd yn oed yn wyneb 14 mlynedd o gyni’r Ceidwadwyr. Yn ystod y cyfnod mwyaf anodd hwn, pan fu’n rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru wneud penderfyniadau gwario anodd iawn, mae’n buddsoddi mwy yn y GIG.
Mae’r diwygiadau y mae Llafur Cymru wedi’u gwneud wedi adlewyrchu natur newidiol clefydau, gyda mwy o ffocws ar reoli cyflyrau cronig, hirdymor, ac ymgyrch i fynd i’r afael â’r lladdwyr mwyaf – lleihau’r bywydau a gollir oherwydd canser, clefyd cardiofasgwlaidd a hunanladdiad, gan gefnogi pobl i fyw’n dda am fwy o amser. Mae diwygiadau hefyd wedi canolbwyntio ar ddarparu mwy o ofal a gwasanaethau’r GIG y tu allan i’r ysbyty ac mewn cymunedau lleol, fel nad oes angen i chi deithio ar gyfer apwyntiadau a gofal arferol.

Cefnogi GIG Cymru
Rydym yn ymddiried yn fawr yn y GIG, a bob mis mae gan ein GIG yng Nghymru ddwy filiwn o gysylltiadau â chleifion drwy feddygfeydd teulu a gwasanaethau
ysbyty – llawer iawn o weithgarwch ar gyfer gwlad sy’n cynnwys ychydig dros dair miliwn o bobl.
Mae Llafur am i bobl gael y gofal gorau posibl gan y person iawn pan fydd ei angen arnynt. Mae hynny’n golygu sicrhau bod gennym y gwasanaethau GIG cywir ar gael, y mae pobl yn eu deall, a’u bod yn gallu cael gafael arnynt yn rhwydd, ar yr un pryd â lleihau amseroedd aros i bobl mewn poen.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi creu gwasanaethau newydd i atal mynd â phobl i adrannau achosion brys, a gwasanaethau gofal argyfwng newydd yr un diwrnod i atal pobl rhag cael eu derbyn i ysbytai pan nad oes angen iddynt fod yno. Ac mae’n gwneud mwy i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol gyda chronfa bum mlynedd gwerth £145 miliwn y flwyddyn.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn buddsoddi £1 biliwn yn ystod tymor y Senedd hon i adfer ar ôl y pandemig a lleihau amseroedd aros hir. Diolch i ymroddiad a gwaith caled staff y GIG, mae amseroedd aros hir yn gostwng bob mis. Gan weithio gyda llywodraeth Lafur yn y DU a gyda chyllid ychwanegol ar gyfer y GIG, y telir amdano drwy fynd i’r afael ag osgoi trethi a diangfeydd ‘non-doms’, bydd Llafur Cymru yn gallu mynd ymhellach ac yn gyflymach.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi’r lefelau uchaf erioed yng ngweithlu’r GIG ar gyfer y dyfodol am naw mlynedd yn olynol. Yn 2023-24, cynyddwyd cyllideb hyfforddi’r GIG i bron i £282 miliwn, gan greu 527 o leoedd hyfforddi ychwanegol, gan gynnwys mwy na 380 o leoedd hyfforddi ychwanegol i nyrsys. Mae’r lefel hon o fuddsoddiad wedi cael ei chynnal yn 2024-25.
Mae Llafur Cymru wedi ymgorffori’r dull partneriaeth gymdeithasol unigryw mewn cyfraith, gan roi llais i weithwyr a chyflogwyr wrth lywio trafodaethau anodd ynghylch cyflogau ac amodau a waethygwyd gan anhrefn economaidd y Ceidwadwyr yn ystod y 14 mlynedd diwethaf.
Moderneiddio’r GIG
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi buddsoddi’n helaeth yn ystâd y GIG yn ystod datganoli – gan adeiladu ysbytai newydd, gan gynnwys Ysbyty Athrofaol y Faenor yn Ne Cymru a moderneiddio ysbytai presennol ac uwchraddio offer diagnostig o’r radd flaenaf. Mae wedi creu cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd modern ledled Cymru ac wedi uwchraddio fflyd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae wedi buddsoddi mewn Gwasanaeth Adalw Meddygol Brys a Gwasanaeth Trosglwyddo modern newydd ar gyfer Cymru gyfan ac wedi agor ysgol feddygol newydd yng Ngogledd Cymru, yn barod i hyfforddi meddygon y dyfodol.
Ond mae gallu Llywodraeth Lafur Cymru i barhau i fuddsoddi yng ngwead y GIG wedi’i danseilio’n ddifrifol gan y ffordd y mae’r Ceidwadwyr wedi camreoli’r economi a chyllid cyhoeddus.
Bydd cronfa parod at y dyfodol Llywodraeth Lafur y DU i fuddsoddi mewn sganwyr CT ac MRI yn Lloegr, yn golygu cyllid ychwanegol i Gymru, a bennir drwy fformiwla Barnett.
Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn technoleg ddigidol i gefnogi trawsnewid ac arloesi ar draws y GIG a gofal cymdeithasol ac yn y gwyddorau bywyd. Mae’r Gronfa Triniaethau Newydd nodedig yn sicrhau mynediad cyflymach at feddyginiaethau a thriniaethau newydd a gymeradwyir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Ers ei chyflwyno yn 2016, 13 diwrnod yw’r amser cyfartalog rhwng cymeradwyo a chyflwyno. Bydd Ap GIG Cymru, sy’n destun profion cyhoeddus beta ar hyn o bryd, yn parhau i gael ei ddatblygu i roi mynediad i bobl at ofal iechyd ar flaenau eu bysedd. Bydd Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn digideiddio cofnod Llyfr Coch o iechyd plant ac yn gwella’r gefnogaeth i deuluoedd newydd.

Sicrhau diogelwch cleifion
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cymryd diogelwch cleifion o ddifri, ac mae ganddi fesurau cadarn ar waith i gefnogi gwella ansawdd a diogelwch gwasanaethau lle mae pryderon yn cael eu nodi.
Mae cymaint o’r triniaethau yn y GIG yn dibynnu ar weinyddu gwasanaethau. Mae angen cefnogaeth ac atebolrwydd ar reolwyr. Bydd y Blaid Lafur yn gweithredu safonau proffesiynol ac yn rheoleiddio rheolwyr y GIG, gan sicrhau na fydd y rheini sy’n camymddwyn yn ddifrifol byth yn gallu gwneud hynny eto, ac yn sefydlu Coleg Arweinyddiaeth Glinigol Brenhinol i hyrwyddo llais clinigwyr.
Byddwn yn gweithio i weithredu argymhellion arbenigol adolygiad Cass, i sicrhau bod pobl ifanc sy’n troi at y GIG gyda dysfforia rhywedd yn cael gofal priodol o ansawdd uchel, ochr yn ochr â bwrw ymlaen â’r Cynllun Gweithredu LHDTC+.
Gofal iechyd yn nes at adref
Mae Llywodraeth Lafur Cymru am symud mwy o ofal yn nes at adref fel nad oes rhaid i bobl deithio i’r ysbyty i gael gofal arferol.
Meddygon teulu yw drws ffrynt y gwasanaeth iechyd i’r rhan fwyaf o bobl ond nid oes angen i bawb weld eu
meddyg teulu pan fyddant yn sâl. Agwedd Llafur Cymru fu cryfhau’r tîm gofal sylfaenol cyfan, fel bod pobl yn gweld y person mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion gofal iechyd.
Fel rhan o Fodel Gofal Sylfaenol Cymru, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud newidiadau i’r contract meddygon teulu i gael gwared ar y dagfa 8am a’i gwneud yn haws cael apwyntiad – gyda’ch meddyg teulu a’r tîm gofal sylfaenol ehangach, wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae Cymru’n hyfforddi mwy o feddygon teulu, gan gynnwys cymell meddygon teulu dan hyfforddiant i weithio yng nghefn gwlad Cymru.
Mae eich Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi trawsnewid gofal llygaid, felly mae mwy o wasanaethau ar gael yn eich optegydd ar y stryd fawr. Mae’r cynllun
anhwylderau cyffredin mewn fferyllfeydd lleol yn darparu triniaeth am ddim ar gyfer 27 o gyflyrau, o’i gymharu â dim ond saith yn Lloegr, ac mae nifer y presgripsiynwyr annibynnol wedi cynyddu.

Deintyddiaeth
Gwyddom fod dod o hyd i ddeintydd y GIG yn gallu bod yn anodd. Mae eich Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwneud yn haws.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i wneud newidiadau i gontract y GIG i wella mynediad a gwella amodau gwaith deintyddion. Mae hyn wedi rhoi ffocws ar atal a gofal sy’n seiliedig ar anghenion. Mae’r newidiadau hyn wedi golygu bod dros 320,000 o apwyntiadau newydd ar gael ers mis Ebrill 2022.
Ond gwyddom fod hyd yn oed mwy i’w wneud i wella mynediad ac mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio ar y contract gyda’r proffesiwn.
Lansiwyd rhaglen iechyd y geg a brwsio dannedd Cynllun Gwên yn 2009 ac mae wedi helpu i leihau cyfraddau pydredd dannedd ymysg plant ifanc.
Diwygio gofal cymdeithasol
Mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i’r cynllun hirdymor ar gyfer sefydlu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol, am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, gyda gofal cymdeithasol yn parhau fel gwasanaeth cyhoeddus. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl yn gallu byw bywydau hapus ac annibynnol a’u bod yn cael eu grymuso i leisio’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’u bod yn cael adnoddau i wella eu llesiant a sicrhau rheolaeth yn eu bywydau bob dydd a’u dyheadau.
Mae Llafur Cymru eisoes wedi cyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal ac mae’n cydnabod pwysigrwydd gwella telerau ac amodau’r sector ymhellach er mwyn gwella lefelau cadw a recriwtio’r gweithlu. Mae Llafur Cymru hefyd wedi sicrhau bod gan weithwyr gofal cymdeithasol yr hawl i symud i oriau sefydlog o gontractau dim oriau ar ôl tri mis, ac mae wedi sefydlu’r Fforwm Gwaith Teg a’r Bartneriaeth Gofal Cymdeithasol Genedlaethol gan ddod â chynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr at ei gilydd gyda chomisiynwyr a rhanddeiliaid eraill i symud yr agenda hon yn ei blaen.
Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn ystyried pa gyfleoedd pellach y bydd llywodraeth Lafur y DU, wrth sefydlu Cytundeb Cyflog Teg yn y sector, yn eu cynnig.
Sefydlodd Llafur Cymru swydd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol yn 2021 a’r Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth ym mis Ebrill 2024 fel camau cyntaf ein Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol. Bydd y Fframwaith Cenedlaethol yn dod i rym ym mis Medi a bydd yn gosod safonau ar gyfer arferion comisiynu, yn lleihau cymhlethdod ac yn ailgydbwyso comisiynu i ganolbwyntio ar ansawdd a chanlyniadau. Mae deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno drwy’r Senedd ar hyn o bryd i alluogi taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyflwyno cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol a bydd yn parhau i weithio i broffesiynoli’r gweithlu ymhellach. Mae wedi sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddod â’r GIG, llywodraeth leol a phartneriaid eraill at ei gilydd i wella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu ac i wella llesiant poblogaethau lleol.
O dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mae gan ofalwyr di-dâl yr hawl i ofyn am asesiad o’u hanghenion. Mae gan Lywodraeth Lafur Cymru raglen gwyliau byr gwerth £9 miliwn ar gyfer gofalwyr di-dâl, sy’n ceisio cynnig 30,000 o wyliau dros dair blynedd a chynllun grant gwerth £4.5 miliwn i helpu gofalwyr ar incwm isel i brynu eitemau sylfaenol hanfodol.
Gwella iechyd meddwl
Iechyd meddwl yw’r maes gwariant unigol mwyaf yn GIG Cymru, ac mae Llafur Cymru wedi clustnodi’r gyllideb.
Rydyn ni’n credu mewn cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ymgynghori ar ei strategaethau iechyd meddwl ac atal hunanladdiad diweddaraf – mae’r ddau’n seiliedig ar y syniad bod pobl yn cael eu cefnogi a’u grymuso i wella eu hiechyd
meddwl; i geisio cymorth pan fydd ei angen arnynt ac i fyw heb ofn a stigma.
Mae hybiau iechyd meddwl wedi cael eu sefydlu ym mhob bwrdd iechyd ac mae Llafur Cymru yn gwneud yn siŵr nad oes drws anghywir os, a phan fydd angen cymorth iechyd meddwl arnoch chi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn gwasanaethau hawdd eu defnyddio, nad oes angen atgyfeiriad, ac mae ein gwasanaeth ‘111 gwasgu 2’ ar gyfer gofal iechyd meddwl brys yn unigryw i Gymru, gan gefnogi miloedd o bobl ledled Cymru
bob mis.
Mae deddfwriaeth iechyd meddwl yn druenus o hen ffasiwn. Bydd Llafur yn moderneiddio deddfwriaeth iechyd meddwl ar gyfer Cymru a Lloegr er mwyn rhoi mwy o ddewis ac ymreolaeth i bobl, gwell hawliau a chefnogaeth a sicrhau bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch drwy driniaeth.

Gweithredu ar iechyd y cyhoedd
Bydd atal bob amser yn well, ac yn rhatach, na gwella. Felly, rhaid inni gymryd camau iechyd cyhoeddus ataliol i fynd i’r afael â’r lladdwyr mwyaf a chefnogi pobl i fyw bywydau hirach ac iachach.
Mae hynny’n dechrau drwy leihau lefelau ysmygu. Bydd Llafur yn sicrhau na all y genhedlaeth nesaf byth brynu sigarennau yn gyfreithlon. Bydd Llafur yn gwahardd fêps
rhag cael eu brandio a’u hysbysebu i apelio i blant, er mwyn atal y genhedlaeth nesaf rhag mynd yn gaeth i nicotin.
Mae Llafur wedi ymrwymo i wahardd hysbysebu bwyd sothach i blant a gwerthu diodydd egni caffein-uchel i blant dan 16 oed yng Nghymru a Lloegr.
Mae plant a phobl ifanc yn wynebu niwed sylweddol
ar-lein, gyda chynnwys amhriodol ar gael yn rhy hawdd ar flaenau eu bysedd ar ffôn clyfar. Rydym wedi gweld cynnydd mewn cynnwys casineb eithafol at fenywod
ar-lein sy’n ysgogi diwylliant o drais yn erbyn menywod. Bydd Llafur yn adeiladu ar y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, gan gyflwyno darpariaethau cyn gynted â phosibl,
ac yn edrych ar fesurau pellach i gadw pawb yn ddiogel ar-lein, yn enwedig wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Byddwn hefyd yn rhoi mwy o bwerau
i grwneriaid gael gafael ar wybodaeth a gedwir gan gwmnïau technoleg ar ôl marwolaeth plentyn.
Mae Llafur wedi ymrwymo i leihau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. Gan gydnabod esblygiad y dirwedd gamblo ers 2005, bydd Llafur yn diwygio rheoleiddio gamblo, gan gryfhau mesurau gwarchod. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r diwydiant ar sut i sicrhau
gamblo cyfrifol.
Lleihau anghydraddoldebau iechyd
Mae gan Brydain anghydraddoldebau iechyd difrifol.
Ni all fod yn iawn bod disgwyliad oes yn amrywio mor eang ar draws ac o fewn cymunedau. Fel rhan o’n cenhadaeth iechyd, bydd Llywodraeth Lafur Cymru a llywodraeth Lafur yn San Steffan yn cydweithio i fynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd.
Ni fydd iechyd menywod byth yn cael ei esgeuluso. Yn dilyn cyhoeddi’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched, bydd Cynllun Iechyd Menywod yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn, gan ddefnyddio profiadau menywod o wasanaethau yng Nghymru.
Drwy ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, byddwn yn gwneud newidiadau i wasanaethau mamolaeth
i wella canlyniadau a phrofiadau menywod a theuluoedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n profi anghydraddoldebau iechyd.
Roedd Llywodraeth Lafur Cymru yn falch iawn o fod y cyntaf yn y DU i sicrhau bod PrEP ar gael ar y GIG. Bydd ei Gynllun Gweithredu uchelgeisiol ar HIV yn parhau i leihau heintiau newydd, diagnosis hwyr a lleihau stigma.
Bydd Llywodraeth Lafur y DU yn bartner gwirioneddol i Lywodraeth Lafur Cymru, a fydd yn parhau i foderneiddio’r GIG a gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, yn unol ag egwyddorion y GIG a sefydlodd Llafur.
Help deliver change to Wales.