Vote Labour on 4 July

Help us win

Gwasanaethu’r wlad

Vaughan Gething speaking, sitting beside Keir Starmer
  • Comisiwn Moeseg a Gonestrwydd newydd
  • Moderneiddio Tŷ’r Cyffredin
  • Diwygio Tŷ’r Arglwyddi ar unwaith
  • Ailosod y berthynas rhwng San Steffan a Bae Caerdydd, Holyrood, a Stormont
  • Pleidleisio yn 16 oed

Dros y 14 mlynedd diwethaf, mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth wedi cael ei chwalu. Partis yn Stryd Downing tra bod y wlad gyfan wedi aberthu eu rhyddid. Rhoi contractau Covid proffidiol i ffrindiau a rhoddwyr.

Methu â diarddel ASau a ddaliwyd yn torri’r rheolau. Yn ddealladwy, mae ymddygiad y Ceidwadwyr wedi arwain at gred gyffredinol bod llawer o wleidyddion yn gweithredu er eu budd eu hunain. O ganlyniad, mae argyfwng hyder yn awr yn y system wleidyddol ac yng ngallu San Steffan i gyflawni unrhyw newid.

Nid llygredd a sgandal yn unig sydd wedi erydu ymddiriedaeth. Yr un mor niweidiol fu anallu gwleidyddion i gadw at addewidion a wnaed i bobl Prydain. Dros y 14 mlynedd diwethaf, mae’r gagendor enfawr rhwng sloganau Ceidwadol a realiti wedi dangos dirmyg tuag at ddemocratiaeth. O honni “mae pawb yn yr un cwch” tra’n dinistrio gwasanaethau cyhoeddus, i’r addewidion gwag i “godi’r gwastad”, mae gimigau a siarad gwag cywilyddus wedi disodli’r gwaith caled o lywodraethu yn San Steffan. Tra bo’r Ceidwadwyr yn cynnal partis yn Stryd Downing, bu Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithio bob awr o’r dydd i gadw Cymru’n ddiogel gyda’n GIG, ein cynghorau a’n partneriaid undeb llafur rhagorol.

I’r gwrthwyneb, mae Llafur wedi’i thrawsnewid o fod yn blaid brotest i fod yn blaid sydd bob amser yn rhoi buddiannau’r wlad yn gyntaf. Yn awr, yr ydym yn benderfynol o wneud yr un peth gyda’n gwleidyddiaeth, gan ddychwelyd llywodraeth at wasanaethu pobl sy’n gweithio. Bydd hyn yn golygu ailosod ein bywyd cyhoeddus; proses o lanhau sy’n sicrhau’r safonau uchaf o uniondeb a gonestrwydd. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ASau yn canolbwyntio ar wasanaethu eu hetholwyr. Byddwn yn cryfhau ein democratiaeth drwy ddiwygio’r senedd yn San Steffan a datganoli grym i gymunedau. Ac yn hytrach nag annog ymrannu, byddwn yn sicrhau bod parch a chydweithrediad ar draws y gwahanol lywodraethau sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig.

Mae gosod y safonau uchaf mewn bywyd cyhoeddus yn golygu mwy na dim ond gwell ymddygiad neu well penderfyniadau, er y bydd yn gwella hynny hefyd.

Mae hefyd yn ganolog i adfer ymddiriedaeth rhwng y cyhoedd a gwleidyddiaeth. Ar ôl 14 mlynedd o anhrefn, ymrannu ac amarch y Ceidwadwyr, mae pobl Prydain, yn ddealladwy, yn sinigaidd ynghylch galwadau i ddod ynghyd er budd y genedl. Ond nid yw’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu yn mynnu dim llai – dyma yw anadl einioes adnewyddiad cenedlaethol. Mae’r cynllun hwn yn cydnabod bod yn rhaid i wleidyddiaeth wneud y cam cyntaf i atgyweirio’r cwlwm hwnnw.

A view of the Houses of Parliament from across the Thames.

Bydd Llafur yn adfer hyder mewn llywodraeth ac yn sicrhau bod gweinidogion yn cael eu dal i gyfrif yn erbyn y safonau uchaf. Byddwn yn sefydlu Comisiwn Moesega Gonestrwydd annibynnol newydd, gyda’i Gadeirydd annibynnol ei hun, i sicrhau uniondeb yn y llywodraeth.

Bydd Llafur yn adolygu ac yn diweddaru rheolau cyflogaeth ôl-lywodraeth i roi terfyn ar y cam-drin cywilyddus a welwyd o dan y Ceidwadwyr. Mae hyn yn cynnwys gorfodi cyfyngiadau ar weinidogion yn lobïo dros y cwmnïau roeddent yn arfer eu rheoleiddio, gyda sancsiynau ystyrlon am dorri’r rheolau. Byddwn yn rhoi pwerau i’r Cynghorydd Annibynnol ar Fuddiannau Gweinidogion ddechrau ymchwilio i gamymddygiad a sicrhau ei fod yn gallu cael gafael ar y dystiolaeth sydd ei hangen arno.

Mae’r rhan fwyaf o ASau yn gweithio’n galed i wasanaethu eu hetholwyr ond gallant gael eu llethu gan weithdrefnau arcên ac arferion gweithio hen ffasiwn. Bydd Llafur yn sefydlu Pwyllgor Moderneiddio newydd fydd yn gyfrifol am ddiwygio gweithdrefnau Tŷ’r Cyffredin, gwella safonau, a gwella arferion gweithio.

Mae diffyg rheolau ar ail swyddi hefyd yn golygu bod gan rai etholwyr ASau sy’n treulio mwy o amser ar eu hail swydd, neu’n lobïo dros fuddiannau allanol, nag ar eu cynrychioli. Felly, fel cam cyntaf, bydd Llafur yn cefnogi gwaharddiad ar unwaith ar ASau rhag ymgymryd â rolau cynghori neu ymgynghori cyflogedig. Byddwn yn pwyso ar y Pwyllgor Moderneiddio i fwrw ymlaen â gwaith brys ar y cyfyngiadau y mae angen eu rhoi ar waith i atal ASau rhag ymgymryd â rolau sy’n eu hatal rhag gwasanaethu eu hetholwyr a’r wlad.

Er bod Llafur yn cydnabod gwaith da llawer o arglwyddi sy’n craffu ar y llywodraeth ac yn gwella ansawdd y ddeddfwriaeth sy’n cael ei phasio yn y senedd San Steffan, mae gwir angen diwygio ers amser maith, ac mae hynny’n hanfodol. Mae yna ormod o arglwyddi nad ydynt chwarae rhan briodol yn ein democratiaeth. Mae arglwyddi etifeddol yn parhau i fod yn anamddiffynadwy. Ac oherwydd bod penodiadau am oes, mae ail siambr y senedd yn San Steffan wedi mynd yn rhy fawr.

Felly, bydd y llywodraeth Lafur nesaf yn moderneiddio ar unwaith, drwy gyflwyno deddfwriaeth i ddileu hawl arglwyddi etifeddol i eistedd a phleidleisio yn Nhŷ’r Arglwyddi. Bydd Llafur hefyd yn cyflwyno oedran ymddeol gorfodol. Ar ddiwedd tymor y senedd yn San Steffan pan fo aelod yn cyrraedd 80 oed, bydd yn ofynnol iddo ymddeol o Dŷ’r Arglwyddi.

Bydd Llafur yn sicrhau bod yr holl arglwyddi yn bodloni’r safonau uchel y mae’r cyhoedd yn eu disgwyl ganddynt, a byddwn yn cyflwyno gofyniad cyfranogi newydd yn ogystal â chryfhau’r amgylchiadau lle gellir diarddel aelodau sydd wedi dwyn gwarth arnynt eu hunain.

Byddwn yn diwygio’r broses benodi i sicrhau ansawdd penodiadau newydd a byddwn yn ceisio gwella cydbwysedd cenedlaethol a rhanbarthol yr ail siambr.

Er y bydd y cam hwn i foderneiddio Tŷ’r Arglwyddi yn welliant, mae Llafur wedi ymrwymo i ddisodli Tŷ’r
Arglwyddi ag ail siambr arall sy’n fwy cynrychioliadol o’r gwledydd a’r rhanbarthau. Bydd Llafur yn ymgynghori ar gynigion, gan geisio mewnbwn gan y cyhoedd ym Mhrydain ynghylch y ffordd orau i wleidyddiaeth eu gwasanaethu.

Keir Starmer and Vaughan Gething sitting side by side talking

Mae Llafur wedi ymrwymo i gryfhau ein democratiaeth a chynnal uniondeb etholiadau. Yn hytrach nag annog cyfranogiad llawn yn ein democratiaeth, mae’r Ceidwadwyr wedi cyflwyno newidiadau pleidiol sy’n ei gwneud yn anoddach pleidleisio, gan wneud dim i gryfhau amddiffyniadau yn erbyn ymyriant tramor.

Er mwyn annog cyfranogiad yn ein democratiaeth, bydd Llafur yn gwella’r broses o gofrestru pleidleiswyr ac yn mynd i’r afael â’r anghysondebau mewn rheolau adnabod pleidleiswyr sy’n atal pleidleiswyr dilys rhag pleidleisio. Er enghraifft, yn achos Cardiau Cyn-filwyr Lluoedd Arfog EF. Byddwn yn cynyddu ymgysylltiad pobl ifanc yn ein democratiaeth fywiog, a byddwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan Lywodraeth Lafur Cymru ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru, drwy roi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio ym mhob etholiad. A byddwn yn diogelu democratiaeth drwy gryfhau’r rheolau sy’n ymwneud â rhoddion i bleidiau gwleidyddol.

Fel rhan o gynlluniau Llafur i lanhau gwleidyddiaeth a’i hadfer i wasanaethu pobl sy’n gweithio, byddwn yn ailosod perthynas llywodraeth y DU â llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r Ceidwadwyr wedi gwanhau ein gwlad drwy amharchu rôl ddilys llywodraethau a seneddau datganoledig dro ar ôl tro. Byddwn yn sicrhau bod aelodau o ddeddfwrfeydd datganoledig yn cael yr un amddiffyniadau rhyddid mynegiant ag sydd gan Aelodau Seneddol yn San Steffan, er mwyn i gynrychiolwyr etholedig allu dal grym i gyfrif.

Bydd Llafur yn sicrhau bod strwythurau a sefydliadau gwaith rhynglywodraethol yn gwella cysylltiadau a chydweithio ar bolisi. Bydd Llafur yn cryfhau Confensiwn Sewel drwy amlinellu memorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd sy’n amlinellu sut y bydd y cenhedloedd yn cydweithio er lles pawb.

Bydd Llafur yn adnewyddu cyfleoedd i’r Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Ddatganoledig gydweithio â’i gilydd. Fel yr argymhellwyd yn Adroddiad y Comisiwn ar ddyfodol y DU, byddwn yn sefydlu Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau newydd. Bydd hyn yn dwyn ynghyd y Prif Weinidog, Prif Weinidogion Cymru a’r Alban, Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, a Meiri Awdurdodau Cyfun.

Bydd y llywodraeth Lafur nesaf hefyd yn sicrhau bod cyrff ar draws y DU yn fwy cynrychioliadol o’n gwledydd a’n rhanbarthau. Bydd negodwyr masnach y DU yn gweithio gyda llywodraethau datganoledig i hyrwyddo ein busnesau a’n gwasanaethau gwych yn rhyngwladol. Bydd Llafur yn adfer y broses o wneud penderfyniadau ynghylch dyrannu cronfeydd strwythurol i gynrychiolwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd y buddsoddiadau arfaethedig mewn gwasanaethau cyhoeddus a amlinellir yn y maniffesto hwn gan Lywodraeth y DU yn arwain at gyllid ychwanegol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

The Welsh Assembly Building in Cardiff Bay.

Mae Cymru wedi cael cam gan Lywodraeth anhrefnus a chynhennus nad yw’n deall uchelgais pobl Cymru ac sy’n gwrthod gweithio gyda Llywodraeth Cymru

i’w cyflawni. Bydd Llafur yn gwasanaethu Cymru gyda chynllun sy’n cyfateb i’r uchelgeisiau hynny.

Byddwn yn cryfhau’r berthynas rhwng y llywodraethau yn San Steffan a Chymru. Bydd y ddwy lywodraeth yn cydweithio i gyflawni cenadaethau cenedlaethol y Blaid Lafur. Mae Llafur yn cydnabod bod Fframwaith Cyllidol Cymru wedi dyddio. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth rhwng y ddwy lywodraeth i sicrhau bod y fframwaith yn sicrhau gwerth am arian, gyda dwy lywodraeth Lafur wedi ymrwymo i gyfrifoldeb ariannol.

Bydd buddsoddiadau arfaethedig mewn gwasanaethau

cyhoeddus gan lywodraeth Lafur yn y DU yn golygu

£195m ychwanegol o gyllid i Gymru.

Mae Llafur yn cydnabod gwerth gwasanaethau cyhoeddus integredig, sy’n fwy effeithlon ac sy’n creu canlyniadau gwell. Fel rhan o adolygiad strategol o’r gwasanaeth prawf, bydd Llywodraeth Lafur nesaf y DU yn edrych ar ddatganoli gwasanaethau er mwyn eu galluogi i fod yn fwy ymatebol yn lleol. Bydd Llywodraeth Lafur y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru

i ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid. Yn unol â’n hymrwymiad i ddatganoli cymorth cyflogaeth yn Lloegr, bydd Llafur yn datganoli cyllid cymorth cyflogaeth i Lywodraeth Cymru.

Mae diwylliant, cynhyrchion a gwasanaethau Cymru yn enwog ledled y byd – o’r sector twristiaeth ffyniannus

i ddur o’r safon uchaf, i deledu a ffilm arloesol, i dechnoleg a lled-ddargludyddion. Bydd y Blaid Lafur yn harneisio rhwydweithiau diplomyddol a masnach

Llywodraeth y DU, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru ar draws y byd. Gyda Llafur, bydd Swyddfa Cymru unwaith eto’n dod yn eiriolwr dros Gymru gartref a thramor ac yn hwyluso cydweithio agosach rhwng ein llywodraethau. Bydd Swyddfa Cymru yn sicrhau, o ran materion o dan gymhwysedd llywodraeth y DU, bod llais Cymru yn cael ei glywed yn iawn.

Mae pobl yr Alban yn haeddu cael llywodraethau sy’n canolbwyntio ar gyflawni ar eu rhan. Nid yw Llafur yn cefnogi annibyniaeth na refferendwm arall, ond gwyddom fod angen newid ar bobl yr Alban ar ôl 14 mlynedd o’r Ceidwadwyr. Bydd y Blaid Lafur yn gweithredu mewn ffordd wahanol yn yr Alban: byddwn yn diogelu ac yn parchu datganoli ac yn ailosod y cysylltiadau rhwng llywodraethau.

Bydd Llafur yn cryfhau democratiaeth a datganoli yn yr Alban, gan hyrwyddo’r Alban gartref a thramor. Byddwn yn sicrhau bod y setliad datganoli ar gyfer yr Alban yn galluogi cydweithio ar genhadaeth genedlaethol y Blaid Lafur ar gyfer llywodraeth. Byddwn yn cynnal y trefniadau yn fframwaith cyllidol newydd yr Alban.

Bydd gan lywodraeth Lafur yn y DU ddull gweithredu mwy cydweithredol gyda Llywodraeth yr Alban o ran eu hymgysylltu rhyngwladol. Rydym yn cydnabod bod gan Lywodraeth yr Alban rôl bwysig i’w chwarae o fewn cymwyseddau datganoledig. O ran materion sydd wedi’u datganoli’n llwyr, bydd Llafur yn cefnogi Llywodraeth yr Alban i weithio mewn partneriaeth â chyrff rhyngwladol lle bo hynny’n berthnasol ac yn briodol, er enghraifft i gydweithio ar fentrau iechyd byd- eang. Bydd Llywodraeth y DU yn cadw’r cyfrifoldeb llawn dros bolisi tramor.

Bydd Swyddfa’r Alban yn manteisio i’r eithaf ar ddylanwad yr Alban, a gyda Llafur bydd unwaith eto’n dod yn eiriolwr dros yr Alban, gartref a thramor. Bydd Swyddfa’r Alban yn sicrhau bod llais yr Alban yn cael ei glywed yn briodol ar faterion o dan gymhwysedd Llywodraeth y DU. Mae gan yr Alban enw rhagorol yn rhyngwladol. Mae ei diwylliant, ei chynhyrchion a’i gwasanaethau yn enwog yn rhyngwladol – o wisgi ac eogiaid i ddatblygu gemau cyfrifiadurol, biowyddoniaeth a gwasanaethau ariannol. Bydd y Blaid Lafur yn hyrwyddo ‘Brand Scotland’ ledled y byd drwy Swyddfa’r Alban, a’n rhwydweithiau masnach a diplomyddol.

Mae angen sefydlogrwydd a sicrwydd hirdymor ar Ogledd Iwerddon ar ôl heriau’r blynyddoedd diwethaf. Bydd Llafur yn gweithio gyda’r Weithrediaeth a’r Cynulliad i wella gwasanaethau cyhoeddus a chreu twf economaidd, a gyda’r holl bleidiau gwleidyddol a chymunedau i sicrhau sefydlogrwydd llywodraeth ddatganoledig.

Mae Llafur wedi ymrwymo i weithredu Fframwaith Windsor yn ddidwyll a gwarchod marchnad fewnol y DU. Mae gan economi Gogledd Iwerddon gryfderau enfawr – gyda gweithlu medrus iawn, gwasanaethau cryf, gweithgynhyrchu a sectorau gwyddorau bywyd, a chyfleoedd gwych ar gyfer mewnfuddsoddi. Bydd llywodraeth Lafur yn hyrwyddo Gogledd Iwerddon ledled y byd ac yn gweithio gyda’r Weithrediaeth i annog mwy o fusnesau i fuddsoddi yn nyfodol Gogledd Iwerddon.

Mae Llafur wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â thrafodaethau gyda’r Weithrediaeth ynghylch fframwaith cyllidol ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Mae Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, a’r heddwch a’r ffyniant y mae wedi’i gyflwyno i Ogledd Iwerddon, yn un o lwyddiannau mwyaf balch y Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Fel gwarantwr Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, bydd llywodraeth Lafur yn cynnal ystyr ac ysbryd y Cytundeb, ynghyd â’r egwyddor o gydsyniad y mae’n seiliedig arni. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Iwerddon i gryfhau’r berthynas rhwng ein dwy wlad.

Mae’r Ddeddf Gwaddol yn gwadu cyfiawnder i deuluoedd a dioddefwyr y Trafferthion. Bydd Llafur yn ei diddymu ac yn ei disodli, drwy ddychwelyd at egwyddorion Cytundeb Tŷ Stormont, a cheisio cefnogaeth gan bob cymuned yng Ngogledd Iwerddon.