Llywodraeth a sbardunir gan genhadaeth

Keir Starmer stood in a factory in front of two train carriages, looking to the right of the camera shot

Mae atal anhrefn y Ceidwadwyr yn hanfodol, ond nid yw troi’r ddalen gyda llywodraeth newydd yn San Steffan yn ddigon ynddo’i hun i fynd i’r afael â’r heriau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn y mae ein gwlad yn eu hwynebu bellach. I ailadeiladu Prydain, mae angen i ni newid sut mae Prydain yn cael ei llywodraethu.

Mae Prydain wedi cael ei dal yn ôl yn rhy hir gan lywodraethau Ceidwadol sy’n cael eu hysgwyd yma a thraw gan ddigwyddiadau oherwydd nad ydynt yn canolbwyntio’n ddiysgog ar amcanion tymor hir. Mae gan wleidyddiaeth botensial enfawr i newid bywydau er gwell, ond yn rhy aml mae gwahanol rannau o’r llywodraeth wedi dilyn eu nodau cul eu hunain yn hytrach na chydweithio. Ac, yn rhy aml, rydyn ni wedi gweld y Llywodraeth Geidwadol hon yn San Steffan yn ceisio ymraniad ac anundod yn weithredol ar draws ein gwlad, gan ddifrïo Cymru a chynifer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn ddidostur.

Mae llywodraeth ar ei gorau pan fydd yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau, busnes, undebau llafur, cymdeithas sifil, grwpiau ffydd, a chymunedau. Wrth i ni nodi 25 mlynedd ers datganoli Cymreig – a gyflawnwyd gan lywodraeth Lafur – mae partneriaethau newydd wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch ar draws ein gwledydd a’n rhanbarthau yn hanfodol i gyflawni newid a gwasanaethu’r Deyrnas Unedig gyfan. Ond heb brosiect cyffredin, nid yw’r partneriaethau hynny’n cychwyn yn iawn. Mae hynny’n golygu bod rhaid i ni weld San Steffan yn rhoi’r gorau i ddechrau dadleuon diangen â Llywodraeth Llafur Cymru ac, yn lle hynny, partneriaeth newydd ar gyfer ffyniant.

Felly, yn ogystal â gweinyddiaeth newydd â blaenoriaethau newydd, mae angen ymagwedd newydd ar Brydain: llywodraeth a sbardunir gan genhadaeth.

Mae llywodraeth a sbardunir gan genhadaeth yn golygu anelu’n uwch fel cenedl a chanolbwyntio ar amcanion uchelgeisiol, mesuradwy, tymor hir sy’n darparu ymdeimlad ysgogol o ddiben i’r wlad. Mae’n golygu ffordd newydd o lywodraethu sy’n fwy cydgysylltiedig, sy’n gwthio pŵer allan i gymunedau ac yn manteisio ar dechnoleg newydd, a hynny oll gydag un nod mewn golwg – dychwelyd y wlad i wasanaethu pobl sy’n gweithio.

un sydd wedi’i hadeiladu ar swyddi da fel bod incwm pobl yn tyfu’n gyflymach na threuliau.

i gael biliau rhatach, swyddi newydd sy’n talu’n dda, a diogelwch rhag gormeswyr fel Putin.

trwy fuddsoddi yng ngweithlu GIG y dyfodol, gydag ysgol feddygol newydd yng Ngogledd Cymru.

gyda mwy o heddweision a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ein cymunedau.

trwy warantu gwaith, addysg, hyfforddiant, neu hunangyflogaeth i bawb sy’n iau na 25 oed.


Bydd angen dyfalbarhad i gyflawni’r newid y mae ei angen ar Brydain. Y man cychwyn ar gyfer cyflawni’r cenadaethau hyn yw sicrhau bod sylfeini llywodraeth dda yn iawn. Bydd Llafur yn sicrhau bod gennym ddiogelwch cenedlaethol cryf, ffiniau diogel, a sefydlogrwydd economaidd. Gan adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn, rydym eisoes wedi amlinellu’r camau cyntaf ar gyfer newid. Heddiw, cyflwynwn bolisïau ychwanegol yn y maniffesto hwn, yn rhan o’r daith i ailadeiladu ei gwlad.