Prydain wedi’i hailgysylltu
- Ymrwymiad diwyro i NATO a’n arfau niwclear ataliol
- Sefyll dros ein lluoedd arfog a chyn-filwyr
- Cytundebau masnach newydd
- Prydain yn arwain Cynghrair Ynni Glân
- Moderneiddio datblygiad rhyngwladol
Skip to:
Gyda Llafur, bydd Prydain unwaith eto’n gryf ar lwyfan y byd, yn hyderus wrth fynd ar drywydd ein buddiannau cenedlaethol, ac yn flaengar ond yn realistig ynghylch yr heriau a wynebwn. Byddwn yn ailgysylltu â chynghreiriaid ac yn ffurfio partneriaethau newydd i sicrhau diogelwch a ffyniant gartref a thramor.
Mae Cymru’n falch o fod yn wlad glyfar ac arloesol, gydag enw da sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’n ffiniau.
Mae’r enw da hwn yn seiliedig ar gynifer o’r elfennau sy’n gwneud Cymru yn wlad hynod; o harddwch naturiol ac iaith unigryw, i gyflawniadau chwaraeon a diwylliant, treftadaeth unigryw a’r amrywiaeth gyfoethog o gymunedau sy’n gwneud hwn yn lle mor fywiog i fyw ynddo. Ac mae rhagoriaeth ein busnesau, ein hacademyddion a’n gweithlu yn golygu bod Cymru ar flaen y gad mewn sectorau fel gwyddor yr hinsawdd a seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a chynhyrchu ffilm a theledu. Gyda’r gefnogaeth briodol, mae gan y sectorau hyn – a llawer o sectorau eraill – y potensial i sicrhau twf economaidd a swyddi da’r dyfodol yma yng Nghymru.
Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar gryfderau unigryw ein cenedl a’u hyrwyddo i’r byd. Mae Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Lafur Cymru yn nodi uchelgais i Gymru, i godi ein henw da a’n proffil yn rhyngwladol, i sefydlu ein henw da fel cenedl sydd wedi ymrwymo i greadigrwydd, cynaliadwyedd a thechnoleg.
Mae Cymru eisoes yn gartref i fuddsoddwyr a busnesau rhyngwladol mawr, gan gynnwys cwmnïau o’r Unol Daleithiau, yr Almaen, Ffrainc, Sbaen, Japan, Canada ac India ac, yn eu tro, mae cwmnïau o Gymru yn allforio ledled y byd. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i weithio’n rhyngwladol i agor cyfleoedd masnachu a sbarduno mewnfuddsoddiad, yn union fel yr ydym wedi’i wneud yn llwyddiannus gyda KLA ar led- ddargludyddion.
Bydd yr uchelgeisiau yn y maniffesto hwn i sefydlu Prydain fel arweinydd byd-eang mewn sectorau adnewyddadwy fel ynni gwynt arnofiol ar y môr, pŵer niwclear a hydrogen, hefyd yn darparu cyfleoedd hanfodol i ddatblygu swyddi a chyfleoedd allforio’r dyfodol. A bydd ymrwymiad llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol i fynd i’r afael â rhwystrau masnach gyda’r UE hefyd yn helpu i ryddhau mwy o gyfleoedd allforio i fusnesau Cymru.
Dros y 14 mlynedd diwethaf, mae’r byd wedi tyfu’n fwy ansefydlog ac ansicr. Mae rhyfel wedi dychwelyd i Ewrop am y tro cyntaf ers cenhedlaeth, mae trais dinistriol yn y Dwyrain Canol, mae newid technolegol cyflym ac argyfwng yr hinsawdd yn achosi tensiynau geowleidyddol, ac mae gweithredwyr niweidiol yn ceisio ein gwahanu.
Mae’r dirwedd fyd-eang dywyll hon yn gofyn am Brydain gref a chysylltiedig.
Yn hytrach, mae polisi tramor anhrefnus y Ceidwadwyr wedi gwanhau ein cynghreiriau, wedi difetha ein harweinyddiaeth ar yr hinsawdd – cyfle diplomyddol enfawr – ac wedi tanseilio ein henw da fel cynheiliaid cyfraith ryngwladol. Gartref, mae ymosodiadau’r Ceidwadwyr ar ein sefydliadau sy’n cael eu parchu’n fyd-eang – prifysgolion, llysoedd a’r BBC – wedi tanseilio ein pŵer meddal, a oedd yn draddodiadol yn ffynhonnell o gryfder mawr, ac wedi lleihau ein dylanwad.
Mae’r methiant hwn ar y llwyfan rhyngwladol wedi costio i bobl Prydain. Rydym yn llai diogel, gyda theuluoedd yn wynebu biliau ynni uchel a phrisiau bwyd uchel o ganlyniad.
Bydd Llafur yn agor pennod newydd ac yn gwrthdroi hyn, gan adfywio cynghreiriau a chreu partneriaethau newydd. Mae ein hymrwymiad i NATO fel conglfaen diogelwch Ewropeaidd a byd-eang yn ddiwyro. Byddwn yn hyderus yn ein statws y tu allan i’r UE, ond yn genedl flaenllaw yn Ewrop unwaith eto, gyda pherthynas well ac uchelgeisiol gyda’n partneriaid Ewropeaidd. Unwaith eto, byddwn yn bartner da ar gyfer datblygu rhyngwladol, ac yn amddiffynnydd rheol y gyfraith yn rhyngwladol. A byddwn yn dychwelyd i flaen y gad o ran gweithredu ar yr hinsawdd drwy greu swyddi gwyrdd y dyfodol gartref ac yn bwrw ymlaen â’r trawsnewid i ynni adnewyddadwy ar y llwyfan byd-eang.
Bydd Prydain yn bartner dibynadwy, yn gynghreiriad dibynadwy, ac yn gymydog da. Gwlad optimistaidd ar ddechrau cyfnod o adnewyddu.
Ailadeiladu perthnasoedd
Mae Prydain bob amser yn gryfach pan fyddwn yn gweithio gydag eraill. Mae’r Unol Daleithiau yn
gynghreiriad anhepgor. Mae ein perthynas arbennig yn hanfodol ar gyfer diogelwch a ffyniant, ac mae’n mynd y tu hwnt i ba bynnag bleidiau gwleidyddol ac unigolion sydd mewn grym. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Unol Daleithiau ar sail ein gwerthoedd cyffredin a’n buddiannau cyffredin, gan gynnwys ar gydweithrediad economaidd, amddiffyn a chudd-wybodaeth.
Gyda Llafur, bydd Prydain yn aros y tu allan i’r UE. Ond er mwyn manteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau, rhaid i ni wneud i Brexit weithio. Byddwn yn ailosod y berthynas ac yn ceisio dyfnhau cysylltiadau â’n cyfeillion, ein cymdogion a’n cynghreiriaid yn Ewrop. Nid yw hynny’n golygu ailagor rhaniadau’r gorffennol. Ni fyddwn yn dychwelyd i’r farchnad sengl, i’r undeb tollau na rhyddid i symud.
Yn hytrach, bydd Llafur yn gweithio i wella perthynas masnach a buddsoddi’r DU â’r UE, drwy chwalu rhwystrau diangen i fasnach. Byddwn yn ceisio negodi cytundeb milfeddygol i atal archwiliadau diangen ar y ffin a helpu i fynd i’r afael â chost bwyd;
byddwn yn helpu ein hartistiaid teithiol; a byddwn yn sicrhau cytundeb cydnabyddiaeth ar y cyd ar gyfer cymwysterau proffesiynol i helpu i agor marchnadoedd i allforwyr gwasanaethau yn y DU.
Bydd y Blaid Lafur yn ceisio cytundeb diogelwch newydd uchelgeisiol rhwng y DU a’r UE i gryfhau cydweithrediad ar y bygythiadau sy’n ein hwynebu. Byddwn yn ailadeiladu’r berthynas â chynghreiriaid Ewropeaidd allweddol, gan gynnwys Ffrainc a’r Almaen, drwy fwy o gydweithrediad ar amddiffyn a diogelwch. Byddwn yn ceisio cael cytundebau dwyochrog newydd a gweithio’n agosach gyda phartneriaid y Cyd-fyddin Ymgyrchol.
Bydd hyn yn cryfhau NATO ac yn cadw Prydain yn ddiogel.
Mae sefydliadau amlochrog yn parhau i fod yn anhepgor, ond maent yn wynebu anawsterau o ganlyniad i straen heriau byd-eang newydd. Bydd Llafur yn gweithio gyda chynghreiriaid i adeiladu, cryfhau a diwygio’r sefydliadau hyn. Byddwn yn defnyddio safle unigryw’r DU yn NATO, y Cenhedloedd Unedig, G7, G20 a’r Gymanwlad i fynd i’r afael â’r bygythiadau rydym
yn eu hwynebu, ac i gynnal hawliau dynol a chyfraith ryngwladol. Mae Llafur yn gwerthfawrogi cyfraith ryngwladol oherwydd y diogelwch a ddaw yn ei sgil. Bydd Prydain yn parhau i fod yn aelod o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ddigamsyniol.
Amddiffyn diogelwch y DU
Dyletswydd gyntaf y Blaid Lafur mewn llywodraeth fydd cadw ein gwlad yn ddiogel. Byddwn yn lansio Adolygiad Amddiffyn Strategol i asesu’r bygythiadau rydym yn eu hwynebu a’r galluoedd sydd eu hangen i fynd i’r afael
â nhw. Wrth wraidd ein diogelwch mae’r dynion a’r menywod sy’n gwasanaethu ac yn peryglu eu bywydau er mwyn y wlad hon. Byddwn yn cryfhau’r gefnogaeth
i gymunedau ein Lluoedd Arfog drwy roi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn llawn mewn cyfraith a sefydlu
Comisiynydd Annibynnol y Lluoedd Arfog i wella bywyd yn y lluoedd. Bydd Llafur yn sicrhau bod cyn-filwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Yng Nghymru, mae gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr Llywodraeth Lafur Cymru eisoes yn darparu gwasanaeth arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar unrhyw adeg yn eu bywydau ac sy’n profi anawsterau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig yn
benodol â’u gwasanaeth milwrol. Byddwn hefyd yn cael gwared ar ffioedd fisa ar gyfer cyn-filwyr o’r tu allan i’r DU a’u dibynyddion sydd wedi gwasanaethu am bedair blynedd neu fwy.
Mae cryfhau diogelwch Prydain yn gofyn am bartneriaeth hirdymor gyda’n diwydiant amddiffyn domestig. Bydd Llafur yn cyflwyno strategaeth ddiwydiannol amddiffyn sy’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau diogelwch ac economaidd. Byddwn yn sicrhau sector amddiffyn cryf a chadwyni cyflenwi
cadarn, gan gynnwys dur, ar draws y DU gyfan. Byddwn yn sefydlu partneriaethau hirdymor rhwng busnes
a’r llywodraeth, yn hyrwyddo arloesedd, ac yn gwella gwydnwch. Byddwn yn blaenoriaethu busnesau’r DU ar gyfer buddsoddi mewn amddiffyn ac yn diwygio
caffael i leihau gwastraff. Bydd y Blaid Lafur yn cefnogi’r diwydiant i elwa o gyfleoedd allforio, yn unol â threfn gadarn ar gyfer allforio arfau sydd wedi ymrwymo i gynnal cyfraith ryngwladol.
Mae cryfhau ein hamddiffynfeydd hefyd yn gofyn am arweinyddiaeth gryfach, atebolrwydd cliriach, darpariaeth gyflymach, llai o wastraff a gwell gwerth am arian. Bydd Llafur yn sefydlu pencadlys strategol
milwrol sy’n gweithredu’n llawn a chyfarwyddwr arfau cenedlaethol i greu canolfan amddiffyn gref sy’n gallu arwain Prydain wrth fynd i’r afael â’r bygythiadau cynyddol a wynebwn.
Gyda Llafur, bydd cefnogaeth filwrol, ariannol, diplomataidd a gwleidyddol y DU i Wcráin yn aros yn gadarn. Bydd Llafur yn cefnogi ymdrechion i ddal Rwsia Putin i gyfrif am ei rhyfel anghyfreithlon, gan gefnogi galwadau am Dribiwnlys Arbennig ar gyfer Trosedd Ymosodedd. Byddwn yn gweithio gyda’n cynghreiriaid
i alluogi atafaelu ac ail-bwrpasu asedau gwladwriaeth Rwsia sydd wedi’u rhewi i gefnogi Wcráin. A byddwn yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddarparu llwybr clir i Wcráin at fod yn aelod o NATO.
Bydd Llafur hefyd yn gweithio gyda’n cynghreiriaid a’n canolfannau ariannol rhyngwladol i fynd i’r afael â llygredd a gwyngalchu arian, gan gynnwys ym Mhrydain, Tiriogaethau Dibynnol y Goron, a Thiriogaethau Tramor Prydeinig.
Mae Llafur wedi ymrwymo’n llwyr i AUKUS, y bartneriaeth ddiogelwch dairochrog gydag Awstralia a’r Unol Daleithiau. Byddwn yn sicrhau ei bod yn cyflawni ei photensial economaidd llawn yn ogystal â’i photensial o ran diogelwch, gan gynyddu swyddi a buddsoddiad mewn cymunedau ledled y DU.
Ar ôl 14 mlynedd o anghysondeb niweidiol y Ceidwadwyr ynghylch Tsieina, bydd Llafur yn cyflwyno dull strategol a hirdymor o reoli ein cysylltiadau.
Byddwn yn cydweithredu lle y gallwn, yn cystadlu lle bo angen, ac yn herio pan fo raid. Byddwn yn gwella gallu’r DU i ddeall ac ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd y mae Tsieina’n eu cynnig drwy archwilio ein perthynas ddwyochrog. Byddwn bob amser yn gweithredu er ein lles ac yn amddiffyn ein sofraniaeth a’n gwerthoedd democrataidd. Byddwn yn sefyll gyda ac yn cefnogi
aelodau o gymuned Hong Kong sydd wedi adleoli i’r DU. Mae amddiffyn ein diogelwch hefyd yn golygu diogelu Tiriogaethau Tramor Prydeinig a Thiriogaethau Dibynnol y Goron, gan gynnwys Ynysoedd y Falklands a Gibraltar. Bydd Llafur bob amser yn amddiffyn eu sofraniaeth a’u hawl i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.
Hyrwyddo ffyniant y DU
Gorchwyl cyntaf y Blaid Lafur mewn llywodraeth fydd tyfu ein heconomi. Bydd hyn wrth galon popeth a wnawn, gan gynnwys ein polisi tramor. Byddwn
yn defnyddio ein rhwydwaith diplomyddol i ddenu buddsoddiad uniongyrchol o dramor i’r DU, ehangu marchnadoedd ar gyfer allforwyr ym Mhrydain, a siapio fframweithiau rheoleiddio sy’n dod i’r amlwg.
Mae Prydain yn genedl fasnachu falch ac mae busnes rhyngwladol llewyrchus yn rhan hanfodol o’n cynllun ar gyfer twf. Mae bod yn agored i fasnach yn caniatáu i’n cwmnïau dyfu ac yn rhoi mwy o ddewis a gwerth i ddefnyddwyr. Yn hytrach na blaenoriaethu cytundebau ansylweddol nad ydynt yn dod â manteision ystyrlon i’r DU, bydd Llafur yn ceisio cytundebau masnach wedi’u targedu sy’n cyd-fynd â’n strategaeth ddiwydiannol a’n cryfderau economaidd, er mwyn dod â ffyniant i gymunedau ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Byddwn yn cyhoeddi strategaeth fasnach ac yn defnyddio pob lifer sydd ar gael i gael y mynediad sydd ei angen ar fusnesau yn y DU i farchnadoedd rhyngwladol. Bydd hyn yn hyrwyddo’r safonau uchaf o ran cynhyrchu bwyd. Yn ogystal â sicrhau cytundebau masnach rydd newydd, bydd Llafur yn ceisio negodi cytundebau sector annibynnol, fel cytundebau digidol, neu gytundebau cydnabyddiaeth gilyddol, i hyrwyddo ein hallforion gwasanaethau.
Byddwn yn arwain trafodaethau rhyngwladol i foderneiddio rheolau a chytundebau masnach fel eu bod yn gweithio i Brydain, gan hyrwyddo masnach a chydweithredu dyfnach, gan gynnwys drwy Sefydliad Masnach y Byd a Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel Mae Llafur yn cefnogi defnyddio cyfradd isaf treth gorfforaethol fyd-eang y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i sicrhau bod cwmnïau technoleg rhyngwladol yn talu eu cyfran deg o dreth.
Bydd Llafur yn adeiladu ac yn cryfhau partneriaethau modern gyda chynghreiriaid a phwerau rhanbarthol. Byddwn yn chwilio am bartneriaeth strategol newydd gydag India, gan gynnwys cytundeb masnach rydd, yn ogystal â dyfnhau cydweithredu mewn meysydd fel diogelwch, addysg, technoleg a newid yn yr hinsawdd. Byddwn yn dyfnhau ein cydweithrediad â phartneriaid ar draws y Gwlff ar ddiogelwch rhanbarthol, ynni a masnach a buddsoddi.
Gan gydnabod pwysigrwydd gwleidyddol ac economaidd cynyddol gwledydd Affrica, byddwn yn cyflwyno dull newydd o ymdrin â’r cyfandir i feithrin cyfleoedd er budd y ddwy ochr yn y tymor hir.
Arweinyddiaeth hinsawdd
Ni allwn fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur ar fyrder heb weithredu byd-eang cydgysylltiedig. Bydd
methu â gweithredu yn achosi dinistr amgylcheddol, gan ysgogi dadleoli, gwrthdaro a newyn. Drwy fod yn arweinwyr hinsawdd gartref, gan gynnwys cyrraedd ein targedau y cytunwyd arnynt, bydd Llafur yn adfer yr arweinyddiaeth fyd-eang gref sydd ei hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae cynghreiriaid a chystadleuwyr rhyngwladol eisoes wedi cydnabod y cyfleoedd ac yn symud ymlaen, yn buddsoddi mewn technoleg newydd ac yn creu swyddi’r dyfodol. Dan y Ceidwadwyr, mae Prydain wedi difetha ein harweinyddiaeth, gan wastraffu ein cyfle yn sgil llywyddiaeth COP26 i wneud cynnydd hanesyddol. Bydd y Blaid Lafur yn symud yn gyflymach drwy gydweithio â’n partneriaid rhyngwladol, yn enwedig y rheini sydd
ar flaen y gad yn yr argyfwng hinsawdd, gan gynnwys Pacistan a Bangladesh, a gwesteiwr COP30, Brasil.
Bydd Llafur yn creu Cynghrair Pŵer Glân newydd, gan ddod â chynghrair o wledydd sydd ar flaen y gad o ran gweithredu ar yr hinsawdd at ei gilydd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau biliau ynni is ar yr un pryd â chyflymu’r trawsnewid i ynni adnewyddadwy a diogelu a gwella cadwyni cyflenwi ynni glân.
Cryfhau diplomyddiaeth
Bydd Llafur yn cryfhau dylanwad Prydain dramor, gan amddiffyn ein buddiannau cenedlaethol, hyrwyddo gwerthoedd blaengar a diogelu gwladolion y DU.
Mae ein harweinyddiaeth ddiplomyddol yn cael ei hategu gan bŵer meddal ein sefydliadau diwylliannol sy’n arwain y byd. Yn hytrach na thanseilio’r sefydliadau hyn, byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth i ddod â sefydliadau creadigol a diwylliannol blaenllaw at ei gilydd i gynyddu dylanwad rhyngwladol y DU. A byddwn yn gweithio gyda’n cymunedau ar wasgar balch i wella ein cysylltiadau diwylliannol ar draws y byd.
Bydd heddwch a diogelwch hirdymor yn y Dwyrain Canol yn ffocws ar unwaith. Bydd Llafur yn parhau i bwyso am gadoediad ar unwaith, rhyddhau pob
gwystlon, cynnal cyfraith ryngwladol, a chynnydd cyflym mewn cymorth i Gaza. Mae statws gwladwriaeth i Balesteina yw hawl diymwad i bobl Palesteina. Nid yw o fewn pŵer unrhyw gymydog ac mae hefyd yn hanfodol
i ddiogelwch hirdymor Israel. Yr ydym wedi ymrwymo i gydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd fel cyfraniad at broses heddwch newydd sy’n arwain at ddatrysiad o greu dwy wladwriaeth, gydag Israel ddiogel ochr yn ochr â gwladwriaeth Palesteinaidd hyfyw a sofran.
Bydd y Blaid Lafur hefyd yn cryfhau’r gefnogaeth i ddinasyddion Prydain dramor. Byddwn yn cyflwyno hawl newydd i gael cymorth consylaidd mewn achosion o dorri hawliau dynol.
Moderneiddio datblygiad rhyngwladol
Gyda llywodraethau Llafur blaenorol, enillodd Prydain arbenigedd byd-eang mewn datblygu rhyngwladol, gyda’r nod o wneud y byd yn lle mwy diogel a llewyrchus. Dan y Ceidwadwyr, mae’r capasiti hwn wedi dirywio, ac o ganlyniad mae Prydain wedi colli dylanwad.
Bydd Llafur yn agor pennod newydd i ailadeiladu enw da Prydain o ran datblygu rhyngwladol gyda dull newydd yn seiliedig ar barch gwirioneddol a phartneriaeth gyda De’r Byd i gefnogi ein buddiannau cyffredin.
Er mwyn mynd i’r afael â dylanwad cynyddol gweithredwyr niweidiol a hybu ymdrechion i fynd i’r afael â bygythiadau fel newid yn yr hinsawdd, rhaid i waith datblygu’r DU gyd-fynd yn agos â’n nodau polisi tramor, wedi’i gydlynu i fynd i’r afael â thlodi byd-eang, ansefydlogrwydd, a’r argyfwng hinsawdd a natur. Ein datganiad cenhadaeth fydd ‘creu byd heb dlodi ar blaned y gellir byw arni’ fel arwydd o’n hymrwymiad i weithredu mwy amlochrog, a’n bwriad i arwain ar yr agenda hon.
Mae adfer arweinyddiaeth fyd-eang Prydain ar ddatblygu yn rhan allweddol o’n cynllun i ailgysylltu â’n cynghreiriaid a’n partneriaid. Bydd Llafur yn cryfhau gwaith datblygu rhyngwladol yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Byddwn yn adnewyddu arbenigedd a ffocws, yn enwedig mewn meysydd blaenoriaeth fel cefnogi trawsnewid economaidd, mynd i’r afael â dyled anghynaladwy, grymuso menywod a merched, cefnogi atal gwrthdaro, a datgloi cyllid hinsawdd.
Mae Llafur wedi ymrwymo i adfer gwariant datblygu ar lefel o 0.7 y cant o’r incwm gwladol gros cyn gynted ag y bydd yr amgylchiadau cyllidol yn caniatáu. Byddwn yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr Prydain drwy weithio’n agos gyda’r Comisiwn Annibynnol ar gyfer Effaith Cymorth i gymhwyso’r safonau uchaf i’n gwariant ar gymorth – gan gyflwyno mesurau cadarn o effeithiolrwydd datblygu, tryloywder a chraffu.
Bydd Llafur yn rhoi terfyn ar y dull anhrefnus o ymdrin â materion tramor, yn agor pennod newydd ac yn ailgysylltu â’n cynghreiriaid, i sefyll yn gryf unwaith eto ar lwyfan y byd.
Help deliver change to Wales.