Vote Labour on 4 July

Help us win

Rhagair

Portrait of Vaughn Gething

Dyma’r cyfle rydyn ni wedi bod yn aros amdano – y cyfle i’r Blaid Lafur ryddhau potensial llawn Cymru. Llywodraeth Llafur Cymru, yn gweithio gyda llywodraeth Lafur yn San Steffan, dan arweiniad Keir Starmer. Mae’n rhaid i ni achub arno. Yng ngeiriau Seamus Heaney, mae’n bryd i ni adael i hanes greu gobaith.

Y maniffesto hwn yw ein glasbrint ar gyfer newid. Ar gyfer Cymru well, Cymru decach. Gan ddilyn pum cenhadaeth allweddol, rydyn ni’n barod i fynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau ac achub ar y cyfleoedd sydd i ddod.

Mae economi sy’n gweithio i bawb wrth wraidd ein gweledigaeth. Mae’r argyfwng costau byw wedi gwthio llawer o deuluoedd dros y dibyn. Mae morgeisi sy’n saethu i fyny, biliau ynni sy’n codi i’r entrychion, a chostau bwyd sy’n cynyddu’n raddol yn troi’r siopa wythnosol yn brofiad brawychus. Dyna pam y bydd Llafur yn cyflawni sefydlogrwydd economaidd, i ailgychwyn twf a helpu pobl sy’n gweithio i fod ar eu hennill.

Mae Llywodraeth Llafur Cymru yn buddsoddi £100 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi i adnewyddu trefi a strydoedd mawr Cymru, ailfywiogi economïau lleol a chreu cymunedau bywiog. Trwy gefnogi pobl sy’n gweithio i ddatblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol, a gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth Lafur yn San Steffan, byddwn yn sicrhau bod Cymru yn arweinydd yn economi’r byd. O galedi economaidd i ffyniant cyffredin.

Dylai Cymru fod yn arweinydd byd-eang yn y chwyldro ynni gwyrdd ac mae Llafur wedi ymrwymo i wireddu’r potensial hwn. Byddwn yn lleihau biliau ynni’n barhaol, gan arbed cannoedd o bunnoedd i deuluoedd. Trwy sefydlu Great British Energy, byddwn yn creu swyddi newydd medrus mewn diwydiannau gwyrdd, gan adfer cryfder ein broydd diwydiannol. Manteisio ar ein hadnoddau naturiol ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Keir Starmer and Vaughan Gething walk side by side by a beach

Y GIG yw ein sefydliad mwyaf gwerthfawr. Ond mae’n haeddu mwy na’n cariad a’n hedmygedd – mae’n haeddu moderneiddio a buddsoddiad gofalus. Bydd Llafur yn sicrhau bod y GIG yn esblygu i fodloni gofynion y dyfodol. Byddwn yn hyfforddi mwy o feddygon a nyrsys nag erioed o’r blaen ac yn gwarchod presgripsiynau am ddim i bawb. Trwy ddarparu mwy o wasanaethau trwy feddygon teulu a fferyllfeydd, byddwn yn cyflymu mynediad at ofal ac yn lleihau’r pwysau ar ysbytai. Bydd agor ysgol feddygol newydd yng Ngogledd Cymru yn sicrhau bod gennym y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y mae arnom eu hangen. Gofal iechyd sy’n hygyrch, yn effeithlon, ac yn agos i gartref.

Mae diogelwch yn hawl sylfaenol, a bydd Llafur yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod ein strydoedd yn ddiogel. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r heddlu i gynyddu hyder y cyhoedd. Trwy leoli mwy o heddweision cymdogaeth a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghymru, byddwn yn syrthio’n drwm ar ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddwn yn mynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a merched, gan ychwanegu at waith Llywodraeth Llafur Cymru. A byddwn yn lansio Awdurdod Diogelwch y Ffin newydd, i chwalu gangiau cychod troseddol. Meithrin ymddiriedaeth, sicrhau diogelwch, ac amddiffyn ein cymunedau.

Mae Llafur yn credu mewn chwalu rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl. Byddwn yn ymestyn ein cynnig gofal plant blaengar ac yn darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd. Bydd buddsoddiad Llywodraeth Llafur Cymru yn y Warant i Bobl Ifanc Cymru a phrentisiaethau o ansawdd da i bobl o bob oed yn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Byddwn yn ymestyn cyfleoedd dysgu am ddim i’r gweithwyr sy’n cael y tâl isaf, gan hybu rhagolygon ac enillion. Trwy roi terfyn ar seibiannau treth i ysgolion preifat, byddwn yn talu am recriwtio athrawon newydd mewn pynciau allweddol. Creu cymdeithas lle mae pawb yn cael y cyfle i lwyddo.

Yng Nghymru, rydyn ni’n aml ar ein gorau mewn adfyd. Safwn yn un, gan frwydro dros yr amhosibl, cefnogi’r gwan, a sefyll o blaid y gorthrymedig. Nawr yw’r amser i gymryd cam mwy uchelgeisiol tuag at ein dyfodol cyffredin. Mae’n rhaid i ni anelu’n uwch a gofyn, Beth nesa’ i Gymru?

Mae’r maniffesto hwn yn amlinellu sut rydyn ni’n bwriadu newid Prydain, a chreu dyfodol mwy disglair i Gymru, dyfodol lle mae pobl ifanc yn teimlo’n obeithiol a lle mae potensial ein gwlad yn cael ei wireddu’n llawn.

Vaughan Gething

Arweinydd Llafur Cymru