Sbarduno twf economaidd
- Cyflawni sefydlogrwydd economaidd gyda rheolau gwario llym
- Partneriaeth newydd gyda busnes a Llywodraeth Llafur Cymru i hybu twf ym mhobman
- Cronfa Cyfoeth Cenedlaethol i fuddsoddi mewn swyddi
- Darparu 20,000 o gartrefi ychwanegol ar gyfer rhent cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon
- Bargen Newydd i Bobl sy’n Gweithio
Skip to:
Twf economaidd parhaus yw’r unig ffordd o wella ffyniant ein gwlad a safonau byw pobl sy’n gweithio. Dyna pam mae’n genhadaeth gyntaf Llafur ar gyfer llywodraeth. Mae’n golygu bod o blaid busnesau a gweithwyr. Ni yw’r blaid sy’n creu cyfoeth.
Mae’r etholiad hwn yn dilyn anhrefn ‘cyllideb fach’ y Ceidwadwyr a gostyngiad digynsail mewn safonau byw. Mae eu hanes economaidd truenus yn ystod y 14 blynedd diwethaf wedi gweld cynhyrchedd a chyflogau’n aros yn isel, gan adael teuluoedd ym Mhrydain yn sylweddol dlotach na’r rhai hynny yn Ffrainc neu’r Almaen.
Mae’r dirywiad hwn yn deillio o ddau fethiant.
Yn gyntaf, anallu i dderbyn mai’r unig ffordd o adeiladu economi gref yw trwy gyfraniad pob cymuned a phob unigolyn – y lliaws, nid yr ychydig. Yn ail, methiant i gydnabod bod angen i’r llywodraeth fod yn bartner strategol gyda busnes er mwyn sicrhau twf cynaliadwy – bod rhaid i farchnadoedd gael eu ffurfio, nid eu gwasanaethu yn unig.
Mae’r ddau fethiant hyn wedi arwain at fwy o ansicrwydd economaidd – yng ngwydnwch ariannol aelwydydd, ond hefyd yn ein heconomi genedlaethol – ar yr union adeg pan mae ein byd wedi dod yn llai sefydlog a diogel. Nid yw’r Ceidwadwyr wedi deall goblygiadau oes newydd o gystadleuaeth a thensiwn byd-eang cynyddol, gan adael ein heconomi ar dir cynyddol denau ac ansefydlog yn lle hynny.
Mae’n bryd i droi’r ddalen. Bydd Llafur yn adfer sefydlogrwydd, yn cynyddu buddsoddiad, ac yn diwygio ein heconomi.
Byddwn yn croesawu ymagwedd newydd at reolaeth economaidd – economeg gadarn – sy’n deall bod twf cynaliadwy yn dibynnu ar sylfaen eang a seiliau cydnerth. Bydd ein hymagwedd yn dibynnu ar wladwriaeth ddeinamig a strategol. Nid yw hyn yn golygu llywodraeth fythol gynyddol, ond llywodraeth fwy gweithredol a challach sy’n gweithio mewn partneriaeth â busnes, undebau llafur, a chynghorau, gyda llywodraethau datganoledig sydd wedi’u grymuso’n briodol.
Bydd Llafur yn atal yr anhrefn ac yn cefnogi busnes trwy amgylchedd polisi sefydlog – gan gryfhau ein sefydliadau economaidd, a rhoi’r sicrwydd y mae ei angen ar fuddsoddwyr i hybu twf. Bydd Llafur yn annog diwydiant, undebau llafur, a chymdeithas sifil i gymryd rhan yn ein cynlluniau ar gyfer twf, fel y gallant gyfrannu at greu economi gryfach ym mhob rhan o’r wlad. Byddwn yn defnyddio buddsoddiad cyhoeddus yn strategol lle y gall ddatgloi buddsoddiad sector preifat ychwanegol, creu swyddi, a darparu enillion i drethdalwyr.
Er y bydd sefydlogrwydd a mwy o fuddsoddiad yn cefnogi twf, mae angen i rannau o’n heconomi gael eu diwygio’n sylweddol os ydym am greu’r cyfoeth y mae ei angen ar ein gwlad. Mae cyni’r Ceidwadwyr wedi cael effaith ddifrifol ar awdurdodau cynllunio lleol – mae adrannau cynllunio wedi’u gorymestyn ac mae oedi wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn amlwg.
Mae Prydain yn rhy ganolog o hyd, ac mae potensial economaidd gormod o ranbarthau a chymunedau’n cael ei anwybyddu. Nid yw ein marchnad lafur yn darparu swyddi sicr ac, o ganlyniad, nid yw gwaith yn talu i lawer gormod o bobl.
Nid yw arloesedd, deinamigrwydd a gwaith caled busnesau a gweithwyr Prydeinig erioed wedi bod dan amheuaeth. Bydd y llywodraeth Lafur nesaf yn ffurfio partneriaeth â nhw i sbarduno twf economaidd ac ailadeiladu Prydain. Yma yng Nghymru, trwy waith ym meysydd fel Banc Datblygu Cymru a’r Rhaglen Cyflymu Twf, mae Llywodraeth Llafur Cymru yn dangos pa mor allweddol y gall gweithio mewn partneriaeth â busnes fod.
Partneriaeth strategol trwy strategaeth ddiwydiannol
Bydd Llafur yn cyflwyno strategaeth ddiwydiannol newydd. Bydd ein hymagwedd yn cael ei sbarduno gan genhadaeth ac yn canolbwyntio ar y dyfodol. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â diwydiant i achub ar gyfleoedd a chwalu rhwystrau rhag twf. Yn hollbwysig, byddwn yn rhoi terfyn ar lunio polisïau economaidd tymor byr trwy sefydlu Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol, ar sail statudol, i roi cyngor arbenigol. Byddwn yn sicrhau bod y Cyngor yn cynnwys cynrychiolwyr o’r holl wledydd a rhanbarthau, byd busnes ac undebau llafur, i sbarduno twf economaidd ym mhob rhan o’r wlad.
Bydd Llafur yn defnyddio ymagwedd fesul sector ac yn llwyr ymwybodol o’r meysydd lle mae gan y Deyrnas Unedig fanteision dros wledydd eraill. Bydd ein hymagwedd yn cefnogi’r hyn sy’n gwneud Prydain yn wych: ein sefydliadau ymchwil rhagorol, gwasanaethau proffesiynol, gweithgynhyrchu uwch fel lled- ddargludyddion, ynni gwyrdd, a diwydiannau creadigol. Byddwn yn sicrhau amgylchedd sydd o blaid busnes, gyda fframwaith cystadleuaeth a rheoleiddiol, sy’n cefnogi arloesedd, buddsoddiad, a swyddi o ansawdd uchel. Bydd polisi caffael a masnachu yn cyd-fynd â blaenoriaethau ein strategaeth ddiwydiannol hefyd, gan weithio law yn llaw â Llywodraeth Llafur Cymru.
Gwasanaethau ariannol yw un o feysydd llwyddiant mwyaf Prydain. Bydd Llafur yn creu’r amodau i gefnogi arloesedd a thwf yn y sector, trwy gefnogi technoleg newydd, gan gynnwys Bancio Agored a Chyllid Agored a sicrhau fframwaith rheoleiddiol sydd o blaid arloesedd.
Mae angen i ddiwydiannau pwysig eraill Prydain gael sicrwydd ynglŷn â’r polisïau a fydd yn berthnasol iddynt. Fel gwrthblaid, mae Llafur wedi gweithio gyda’r sectorau modurol, gwyddorau bywyd, a chreadigol ar ein hymagwedd at bolisi. Mewn grym, byddwn yn amlinellu cynlluniau ar gyfer y rhain a sectorau eraill allweddol o’r economi.
O ran Cymru, bydd y strategaeth ddiwydiannol yn atgyfnerthu cenhadaeth economaidd Llywodraeth Llafur Cymru i gyflawni mwy o fuddsoddiad a swyddi gwell. Trwy gefnogi ein pedwar maes blaenoriaeth cenedlaethol, gall llywodraethau Llafur cydweithredol gyflawni newid cyfiawn i ddyfodol cynaliadwy, gyda gwaith teg yn ganolog iddo.
Hybu buddsoddiad
Mae busnes wedi cael ei rwystro’n rhy hir gan lywodraeth yn San Steffan nad yw’n gweithio gydag ef. O ganlyniad, mae buddsoddiad yn y Deyrnas Unedig yn rhy isel. Bydd Llafur yn defnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i fynd i’r afael â’r broblem hirsefydlog hon. Mae buddsoddiad cyhoeddus, lle mae’n cefnogi ac yn dadrisgio buddsoddiad preifat ychwanegol, yn un offeryn pwysig sy’n cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus ledled y byd. Fe all greu swyddi da ar draws y wlad a byddai’n golygu bod trethdalwyr Prydain yn gallu manteisio ar dwf economaidd. Bydd Llafur yn sefydlu Cronfa Cyfoeth Cenedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan i wireddu’r cyfleoedd hyn. Gyda llywodraethau Llafur yng Nghymru a San Steffan yn gweithio mewn partneriaeth, bydd y Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol a’r strategaeth ddiwydiannol yn cyflawni buddion enfawr gyda’i gilydd.
Bydd gan y Gronfa Cyfoeth Cenedlaethol, wedi’i chyfalafu â £7.3 biliwn yn ystod y cyfnod seneddol nesaf, gylch gwaith i gefnogi cenadaethau twf ac ynni glân Llafur, gan wneud buddsoddiadau trawsnewidiol ym mhob rhan o’r wlad. Bydd gan y gronfa darged o ddenu tair punt o fuddsoddiad preifat am bob punt o fuddsoddiad cyhoeddus, gan greu swyddi ar draws y wlad. Bwriadwn ddyrannu:
- £1.8 biliwn i uwchraddio porthladdoedd a datblygu cadwyni cyflenwi ledled y Deyrnas Unedig
- £1.5 biliwn i gigaffatrïoedd newydd fel bod ein diwydiant modurol yn arwain y ffordd yn fyd-eang
- £2.5 biliwn i ailadeiladu ein diwydiant dur
- £1 biliwn i gyflymu dal carbon
- £500 miliwn i gefnogi gweithgynhyrchu hydrogen gwyrdd.
Mae’n hollbwysig bod y diwydiant dur yn parhau i fod yn gonglfaen i’n heconomi ac wrth wraidd ein cymunedau. Mae’r argyfwng ym Mhort Talbot wedi digwydd o ganlyniad i lywodraeth Geidwadol anhrefnus nad yw erioed wedi deall treftadaeth ddiwydiannol na dyfodol Cymru.
Mae dyfodol hyfyw i weithgynhyrchu dur yng Nghymru o fewn trawsnewidiad sy’n cefnogi dyfodol cryfach, gwyrddach i economi Cymru. Mae ymrwymiad Llafur i glustnodi £2.5 biliwn i achub diwydiant dur y Deyrnas Unedig, ar ben y £500 miliwn a addawyd i Bort Talbot, yn dangos yr uchelgais y mae arnom ei angen.
Bydd Llafur yn gweithredu i gynyddu buddsoddiad o gronfeydd pensiwn ym marchnadoedd y Deyrnas Unedig. Byddwn yn gwneud diwygiadau i sicrhau bod cynlluniau pensiwn gweithle yn manteisio ar gyfuno a graddfa, i ddarparu adenillion gwell i gynilwyr yn y Deyrnas Unedig a mwy o fuddsoddiad cynhyrchiol ar gyfer UK PLC. Byddwn hefyd yn cynnal adolygiad o sefyllfa pensiynau i ystyried pa gamau ychwanegol sy’n angenrheidiol i wella canlyniadau pensiynau a chynyddu buddsoddiad ym marchnadoedd y Deyrnas Unedig.
Trethi busnes
Mae’r system trethi busnes yn bwysig i fuddsoddwyr. Nid dim ond cyfraddau treth sy’n bwysig, ond sicrwydd hefyd. Mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn newid pethau’n gyson – mae’r dreth gorfforaeth wedi newid 26 o weithiau – ac mae digwyddiadau cyllidol niferus wedi gwneud newidiadau mawr a hynny’n aml heb lawer o rybudd.
Bydd Llafur yn atal yr anhrefn, ac yn troi’r ddalen gydag ymagwedd strategol sy’n rhoi sicrwydd ac yn caniatáu ar gyfer cynllunio tymor hir. Rydym wedi ymrwymo i un digwyddiad cyllidol mawr y flwyddyn, gan roi rhybudd priodol i deuluoedd a busnesau am bolisïau trethi a gwario. Byddwn yn cyhoeddi map trywydd trethi busnes ar gyfer y senedd nesaf a fydd yn caniatáu i fusnesau gynllunio buddsoddiadau’n hyderus.
Bydd Llafur yn cadw treth gorfforaeth ar y lefel bresennol, sef 25 y cant, sef yr isaf yng ngwledydd y G7, ar hyd cyfnod y senedd, a byddwn yn gweithredu os bydd newidiadau i drethi mewn gwledydd eraill yn peryglu cystadleurwydd y Deyrnas Unedig. Byddwn yn cadw system dreuliau lawn barhaol ar gyfer buddsoddi cyfalaf a’r lwfans buddsoddi blynyddol ar gyfer busnesau bach. A byddwn yn rhoi mwy o eglurder i gwmnïau ar yr hyn sy’n gymwys ar gyfer lwfansau er mwyn gwella penderfyniadau buddsoddi busnesau.
Mae diwygiadau arloesol Llafur Cymru i’r system trethi busnes yng Nghymru wedi ymdrechu i greu system fwy ymatebol ac effeithlon ar gyfer trethdalwyr, a ddyluniwyd i adlewyrchu’r amodau economaidd a chymdeithasol ymhell i’r dyfodol. Fodd bynnag, bu angen gwneud y system yn decach i’n strydoedd mawr ar lefel y Deyrnas Unedig erioed. Bydd llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda Llywodraeth Llafur Cymru i ddiwygio’r system trethi busnes er mwyn sicrhau tegwch rhwng ein strydoedd mawr a’r cewri ar-lein.
Seilwaith economaidd
Mae Prydain yn arafu i sefyll. Mae mwy o drenau’n cael eu canslo nag erioed o’r blaen ledled y Deyrnas Unedig ac mae prisiau ynni wedi codi’n gyflymach yma nag mewn unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop. Nid damwain mo hynny. Mae anhrefn y Ceidwadwyr wedi arwain at gefnu ar brosiectau mawr, oedi sydd wedi para degawdau, costau cynyddol, ansicrwydd i gadwyni cyflenwi, a seilwaith sy’n chwalu.
Bydd Llafur yn atal yr anhrefn yma trwy ddatblygu strategaeth seilwaith deng mlynedd, sy’n cyd-fynd â’n strategaeth ddiwydiannol a’n blaenoriaethau datblygu rhanbarthol. Mewn partneriaeth â’r llywodraethau datganoledig, bydd y strategaeth yn arwain cynlluniau buddsoddi ac yn rhoi sicrwydd i’r sector preifat ynglŷn â llif prosiectau. Byddwn yn gweithio’n agos gyda busnes i fapio’r heriau rydym yn eu hwynebu a mynd i’r afael â nhw. Byddwn yn creu Awdurdod Trawsnewid Gwasanaethau a Seilwaith Cenedlaethol newydd, gan ddwyn ynghyd cyrff presennol, i osod blaenoriaethau seilwaith strategol a goruchwylio dyluniad, cwmpas, a chyflawniad prosiectau.
Yng Nghymru, mae’r Ddeddf Cydsynio Seilwaith yn caniatáu trefniadau cydsynio mwy effeithlon ac effeithiol i benderfynu ar geisiadau ar gyfer datblygiadau seilwaith ar y tir ac ar y môr, yn ogystal â seilwaith arall.
Bydd Llafur Cymru hefyd yn parhau i gyflawni’r egwyddorion a nodir yng Nghymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol – gan helpu i gyflawni system gynllunio unigryw yng Nghymru. Fel gwlad, rydym yn deall ein dyletswydd i fod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang ac rydym hefyd yn cydnabod bod datblygiad da yn bwysig i ardaloedd lleol a chymunedau. Cymru’r Dyfodol yw’r cysylltiad allweddol rhwng y ddau, a bydd yn ein galluogi i wneud y dewisiadau iawn am yr ugain mlynedd nesaf – fel bod y datblygiadau iawn yn digwydd yn y lleoedd iawn.
Mae’r system gynllunio’n cyflawni rôl bwysig ym mywydau pobl. Mae’n helpu i ffurfio a chyflawni lleoedd a datblygu cynaliadwy, sbarduno adferiad economaidd sydd wedi’i seilio ar werthoedd, a gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Bydd Llafur yn sicrhau bod rheoleiddio economaidd yn cefnogi twf a buddsoddiad, yn hybu cystadleuaeth, yn gweithio i ddefnyddwyr, ac yn galluogi arloesedd. Mewn byd mwyfwy cysylltiedig, mae rhwydwaith cyfathrebu Prydain yn hollbwysig hefyd. O dan y Ceidwadwyr, mae buddsoddiad mewn 5G y tu ôl i wledydd eraill ac mae’r broses o gyflwyno band eang gigadid wedi bod yn araf. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi pontio’r bwlch a darparu mynediad at fand eang all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid i fwy na 121,000 o eiddo trwy ein prosiect Cyflymu Cymru a chyflwyno ffeibr llawn yn ddiweddar. Mae ein Cronfa Band Eang Lleol wedi darparu dros £11 miliwn i brosiectau ledled Cymru, hefyd. Mae Llywodraeth Llafur Cymru yn croesawu uchelgais llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig ar gyfer cwmpas gigadid llawn a 5G cenedlaethol erbyn 2030.
Mae’r Post Brenhinol yn rhan allweddol o seilwaith y Deyrnas Unedig o hyd. Bydd Llafur yn sicrhau bod unrhyw fwriad arfaethedig i’w feddiannu yn destun craffu trwyadl a bod gwarantau priodol yn cael eu cyflwyno sy’n diogelu buddiannau’r gweithlu, cwsmeriaid a’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys yr angen i gynnal rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol cynhwysfawr.
Bydd Llafur hefyd yn archwilio modelau busnes a llywodraethu newydd ar gyfer y Post Brenhinol fel y gall gweithwyr a chwsmeriaid sy’n dibynnu ar wasanaethau’r Post Brenhinol gael llais cryfach ym mhrosesau llywodraethu a chyfeiriad strategol y cwmni.
Rhwydwaith trafnidiaeth modern
Mae seilwaith trafnidiaeth o ansawdd uchel yn allweddol i ddyfodol Cymru: gan greu cyfleoedd a chysylltu pobl, busnesau, a chymunedau.
Trwy’r buddsoddiad £1 biliwn presennol yn y Metro, buddsoddiad £800 miliwn mewn trenau newydd sbon sy’n gwasanaethu pob cwr o Gymru, a chynlluniau ar gyfer diwygiad sylfaenol i fysiau – mae Llywodraeth Llafur Cymru yn trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ar yr un pryd â’i gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl gerdded a beicio. Bydd Llafur Cymru hefyd yn gweithio gyda llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i ddarparu system reilffordd ddibynadwy, effeithiol, a gwell yng Ngogledd Cymru.
Yng Nghymru, mae tri chwarter y teithiau trafnidiaeth gyhoeddus ar fysiau. Drwy adfer rôl llywodraeth leol wrth gynllunio gwasanaethau bysiau lleol a chodi’r gwaharddiad ar berchnogaeth ddinesig byddwn yn darparu system fysiau well i Gymru. Mae hyn wrth wraidd ein gweledigaeth i ddarparu Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn.
Bydd y rhan fwyaf o deithiau’n parhau i gael eu gwneud mewn cerbydau preifat ac, yn unol ag argymhellion Adolygiad Lugg, bydd Llywodraeth Llafur Cymru yn canolbwyntio ar gynnal a gwella’r rhwydwaith ffyrdd, gan gynnwys addasu i effaith y newid yn yr hinsawdd, gan weithio gyda llywodraeth leol i drwsio ffyrdd lleol a llenwi tyllau.
Bydd Llafur yn cefnogi gyrwyr trwy fynd i’r afael â chost yswiriant car sy’n codi i’r entrychion, a byddwn yn parhau i gefnogi’r newid i gerbydau trydan trwy gyflwyno mannau gwefru a chanolbwyntio buddsoddiad cyhoeddus ar leoliadau lle y mae’r angen mwyaf amdano.
Bydd Llafur hefyd yn rhoi sicrwydd i weithgynhyrchwyr trwy adfer y targed i ddiddymu ceir a faniau petrol a diesel newydd yn raddol erbyn 2030, ynghyd â chefnogi prynwyr ceir trydan ail-law.
Y model presennol ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru yw’r mwyaf cymhleth o holl wledydd y Deyrnas Unedig, ac mae teithwyr wedi wynebu 14 blynedd o addewidion gwag y Torïaid ynglŷn â seilwaith rheilffyrdd.
Gan gydnabod cyfrifoldebau presennol Trafnidiaeth Cymru, bydd Llywodraeth Llafur Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig ar ei chynllun uchelgeisiol i ddiwygio rheilffyrdd, gan gynnwys yr Awdurdod Safonau Teithwyr newydd arfaethedig.
Bydd llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn sefydlu Great British Railways – sef corff newydd unedig a berchnogir yn gyhoeddus a fydd yn cynnal y rheilffyrdd er budd y cyhoedd. Bydd gan Lywodraeth Llafur Cymru rôl statudol wrth lywodraethu, rheoli, cynllunio a datblygu’r rhwydwaith rheilffyrdd. Bydd Cymru yn gallu cytuno ar wasanaethau rheilffyrdd trawsffiniol a rhanbarthol gyda Great British Railways, gan alluogi ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ddi-dor, integredig sy’n cael ei chynnal er budd teithwyr ymhellach. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i greu llif o welliannau rheilffyrdd yng Nghymru. Bydd hyn yn ychwanegu at y ffrwd waith Cyfuno a arweinir gan ddiwydiant i ddod â thraciau a threnau ynghyd yng Nghymru.
Bydd Llafur yn sicrhau dyfodol tymor hir diwydiant hedfanaeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys trwy hyrwyddo tanwyddau hedfanaeth cynaliadwy, ac annog moderneiddio gofod awyr.
Sbarduno arloesedd
Mae cyflawni twf a chynyddu cynhyrchedd yn dibynnu ar feddwl mewn ffordd wahanol a chyflwyno syniadau newydd yn ddi-baid. Mae llawer o fusnesau blaengar ym Mhrydain, ond mae angen i arloesedd gael ei drosi’n llwyddiant masnachol ym mhob cwr o’n gwlad. Bydd Llafur yn gwneud Prydain y lle gorau i gychwyn a thyfu busnes.
Mae Cymru eisoes yn arwain y ffordd mewn meysydd fel dylunio, datblygu, a masnacheiddio lled-ddargludyddion sy’n rhan annatod o’r economi sero net, sy’n dangos sut gall ymagwedd integredig helpu i ddarparu swyddi tra medrus a thwf economaidd.
Mae strategaeth arloesedd Llywodraeth Llafur Cymru sydd wedi’i seilio ar genhadaeth wedi’i dylunio i ddatgloi’r syniadau newydd a all ysgogi economi decach a gwyrddach. Mae angen partner ar Gymru sy’n rhannu’r uchelgais a’r ymrwymiad tymor hir yna. Bydd llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn sicrhau bod ein strategaeth ddiwydiannol yn cefnogi datblygiad y sector Deallusrwydd Artiffisial (AI) ac yn dileu rhwystrau cynllunio ar gyfer canolfannau data newydd. A byddwn yn creu Llyfrgell Ddata Genedlaethol i ddwyn ynghyd rhaglenni ymchwil presennol a helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a ysgogir gan ddata, ar yr un pryd â chynnal mesurau diogelu cryf a sicrhau bod pob aelod o’r cyhoedd yn elwa.
Bydd Llafur yn dileu cylchoedd cyllido byr ar gyfer sefydliadau ymchwil a datblygu allweddol o blaid cyllidebau deng mlynedd sy’n caniatáu partneriaethau ystyrlon â diwydiant fel bod y Deyrnas Unedig yn parhau i arwain y ffordd o ran arloesedd byd-eang. Byddwn yn gweithio gyda phrifysgolion i gefnogi cwmnïau deillio; ac yn gweithio gyda diwydiant i sicrhau bod egin fusnesau’n gallu cael at y cyllid y mae arnynt ei angen i dyfu. Byddwn hefyd yn symleiddio’r broses gaffael i gefnogi arloesedd a lleihau microreoli gydag ymagwedd a sbardunir gan genhadaeth.
Ar hyn o bryd, nid yw rheoleiddwyr mewn sefyllfa dda i ddelio â datblygiad cyflym technolegau newydd, sy’n aml yn torri ar draws diwydiannau a sectorau traddodiadol. Bydd Llafur yn creu Swyddfa Arloesedd Rheoleiddio newydd, gan ddwyn ynghyd swyddogaethau presennol ar draws y llywodraeth. Bydd y swyddfa hon yn helpu rheoleiddwyr i ddiweddaru rheoliadau, cyflymu amserlenni cymeradwyo, a chydlynu materion sy’n rhychwantu ffiniau presennol. Bydd Llafur yn sicrhau bod modelau AI yn cael eu datblygu a’u defnyddio’n ddiogel trwy gyflwyno rheoliadau cyfrwymol ar gyfer y llond llaw o gwmnïau sy’n datblygu’r modelau AI mwyaf pwerus a gwahardd creu ffugiadau dwfn rhywiol.
Bydd Llafur yn cefnogi modelau busnes amrywiol sy’n cyflwyno arloesedd a chynhyrchion newydd i’r farchnad. Mae hyn yn cynnwys y sector cydweithredol. Mae Llywodraeth Llafur Cymru eisoes wedi dyblu nifer y cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru, ac mae’n benderfynol o’u dyblu eto. Byddwn yn gweithio gyda’r sector i fynd i’r afael â’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu, fel cael at gyllid.
Cymorth i fusnesau bach a phobl hunangyflogedig
Mae cynllun Llafur ar gyfer twf economaidd wedi cael ei ddatblygu ar gyfer holl fusnesau’r Deyrnas Unedig. Ond mae cwmnïau bach, entrepreneuriaid, a phobl hunangyflogedig yn wynebu heriau unigryw. Dyna pam mae Llafur, mewn partneriaeth, wedi datblygu cynllun ar gyfer busnesau bach – einioes cymunedau a strydoedd mawr ar hyd a lled Prydain.
Byddwn yn gweithredu ar daliadau hwyr i sicrhau bod busnesau bach a phobl hunangyflogedig yn cael eu talu’n brydlon. Byddwn yn gwella canllawiau ac yn dileu rhwystrau rhag allforio ar gyfer busnesau bach. Bydd diwygio Banc Busnes Prydain, gan gynnwys mandad cryfach i gefnogi twf yn y gwledydd a’r rhanbarthau, yn ei gwneud yn haws i fusnesau bach a chanolig gael at gyfalaf. Byddwn hefyd yn diwygio rheolau caffael er mwyn rhoi mwy o fynediad iddynt at gontractau’r llywodraeth.
Mae cefnogi busnesau o bob lliw a llun yn flaenoriaeth o hyd. Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru a Banc Datblygu Cymru, ac ati. Mae’r dulliau cymorth hyn yn cynnig cymorth hollbwysig i fusnesau ac entrepreneuriaid ym mhob cwr o’r wlad. Maen nhw’n cefnogi ystod eang o fusnesau i ddatblygu’r wybodaeth, yr arbenigedd a’r cysylltiadau sy’n angenrheidiol i dyfu eu busnesau, ar yr un pryd â helpu i hwyluso’r cyllid sy’n ofynnol i ffynnu. Cafodd y Banc Datblygu yn unig effaith gyfan o £1.5 biliwn ar economi Cymru rhwng 2017 a 2023. Mae Llafur Cymru yn falch o’r cymorth a gynigir i fusnesau yng Nghymru a bydd yn cydweithio â llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i ganiatáu i’n busnesau ffynnu.
Bydd Llywodraeth Llafur Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn adnewyddu trefi a strydoedd mawr yng Nghymru trwy’r rhaglen £100 miliwn Trawsnewid Trefi a sefydlu mesurau i gynyddu nifer yr ymwelwyr â’n strydoedd mawr trwy’r ymagwedd Canol Trefi yn Gyntaf.
Mae’r Swyddfa Bost yn wasanaeth hanfodol mewn cymunedau ledled y wlad. Bydd Llafur yn chwilio am ffyrdd o gryfhau’r rhwydwaith Swyddfeydd Post, mewn ymgynghoriad ag is-bostfeistri, undebau llafur a chwsmeriaid, ac yn cefnogi datblygiad cynhyrchion, gwasanaethau a modelau busnes newydd, fel canolfannau bancio, a fydd yn helpu i adfywio’r stryd fawr. Byddwn hefyd yn sicrhau bod yr is-bostfeistri hynny yr effeithiwyd arnynt yn gywilyddus gan sgandal TG Horizon yn cael cyfiawnder ac iawndal yn gyflym.
Annog Prydain i adeiladu eto
Dylai pawb gael lle o’r enw cartref, gyda mynediad at dai cynnes, o ansawdd da yn eu cymunedau lleol – p’un a ydynt yn rhentu neu’n prynu.
Mae Llywodraeth Llafur Cymru yn gweithio tuag at Gymru o gymunedau ffyniannus, y gall pobl fforddio byw a gweithio ynddynt – ar hyd y flwyddyn.
Mae buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd ac yn helpu i sbarduno twf economaidd. Mae Llafur Cymru yn buddsoddi mewn tai cymdeithasol a bydd yn darparu 20,000 o gartrefi newydd ar gyfer rhent cymdeithasol erbyn 2026, gyda phob adeilad newydd yn garbon niwtral. Mae hyn yn ychwanegu at ddarparu mwy nag 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn llwyddiannus yn ystod tymor y Senedd flaenorol.
Mae Llywodraeth Llafur Cymru yn cefnogi cynghorau i adeiladu eto, ac mae’r tai fforddiadwy a ddarperir gan gynghorau yng Nghymru wedi treblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn yn hollol wahanol i hanes y Ceidwadwyr yn Lloegr, lle mae’r cartrefi a ddarperir ar gyfer rhent cymdeithasol wedi gostwng 76% ers 2010.
Mae Llafur Cymru wedi cynyddu faint o dir sydd ar gael ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy. Trwy’r broses adolygu cynlluniau datblygu lleol, anogir awdurdodau cynllunio lleol i amlygu safleoedd a arweinir gan dai fforddiadwy lle mae’n rhaid i 50% o leiaf o’r tai fod yn fforddiadwy.
Nid yw’r Ceidwadwyr wedi gweithredu er bod yr argyfwng tai yn un o’r rhwystrau mwyaf rhag twf ym Mhrydain. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi ymestyn y cynllun Cymorth i Brynu hyd at fis Mawrth 2025. Ers iddo lansio yn 2014, mae Cymorth i Brynu – Cymru wedi cynorthwyo miloedd o bobl i wireddu eu breuddwyd o berchen ar gartref.
Mae Llafur Cymru wedi cymryd camau arloesol i fynd i’r afael â materion a achosir gan berchen ar ail gartref mewn cymunedau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Llafur Cymru hefyd wedi gweithio’n galed i helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain trwy argyfwng costau byw y Ceidwadwyr. Mae’r cynllun Cymorth i Aros yn rhoi opsiwn i berchnogion tai sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartref trwy gynnig ad-dalu rhan o falans morgais presennol trwy fenthyciad ecwiti di-log am bum mlynedd, gan leihau’r ad-daliadau morgais diwygiedig i lefel y gall yr ymgeisydd ei fforddio.
Mae Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol, ynghyd â Pholisi Cynllunio Cymru, yn pwysleisio’r angen am gymunedau cynaliadwy, ffyniannus, sy’n gweithio mewn cytgord â’r amgylchedd naturiol ac yn rhoi pwyslais ar seilwaith gwyrdd yn ogystal â seilwaith traddodiadol wrth gynllunio ar gyfer cymunedau cynaliadwy y dyfodol. Mae Llafur Cymru yn helpu cynghorau i sefydlu asesiadau o’r farchnad dai leol er mwyn cynllunio’n briodol ar gyfer nifer y cartrefi y mae eu hangen ar eu cymunedau.
Ynghyd â llywodraeth Lafur yn San Steffan, byddai Llywodraeth Llafur Cymru yn gallu diwygio rheolau iawndal prynu gorfodol ymhellach i wella prosesau cyfosod tir, cyflwyno safleoedd yn gyflymach, a darparu tai, seilwaith, amwynderau a buddion trafnidiaeth er budd y cyhoedd.
Mae’r system gynllunio’n allweddol i ddarparu’r cartrefi hyn, ond mae’n amlwg bod adrannau cynllunio wedi’u gorymestyn ar ôl 14 blynedd o gyni’r Ceidwadwyr. Ynghyd â llywodraeth Lafur yn San Steffan, bydd Llywodraeth Llafur Cymru yn ailadeiladu capasiti’r adrannau hyn.
Twf economaidd ledled y wlad
Mae gan bob tref a dinas ledled Prydain gyfraniad hollbwysig i’w wneud i’n heconomi. O ran Cymru, nid yw’r Ceidwadwyr wedi dangos yr uchelgais sy’n ofynnol i gefnogi’r potensial helaeth ar draws ein heconomi. Mae’r potensial hwnnw wedi cael ei ffrwyno oherwydd bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn San Steffan yn aml, ac nid gan arweinwyr lleol sy’n deall uchelgeisiau a chryfderau lleol. Mae hyn yn golygu nad ydym yn gwneud y mwyaf o’r cyfraniad y gall pawb ei wneud, gan rwystro twf economaidd. Felly, bydd Llafur yn trosglwyddo pŵer allan o San Steffan, ac i’n cymunedau. Gyda Llafur, bydd Cymru yn rheoli ei thynged economaidd unwaith eto. Bydd Llafur yn rhoi’r cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ynglŷn â dyrannu cronfeydd strwythurol yn ôl i gynrychiolwyr Cymru.
Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi ceisio gweithio mewn partneriaeth â chynghorau bob amser. Ar ôl 14 blynedd o gyni’r Ceidwadwyr, mae cynghorau’n wynebu heriau ariannol difrifol. Bydd Llywodraeth Llafur Cymru yn gweithio gyda llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i roi mwy o sefydlogrwydd i’r gwasanaethau y mae cymunedau’n dibynnu arnynt.
Mae gwella gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol i dyfu ein heconomi. Mae gan weithwyr gwasanaethau cyhoeddus rôl allweddol i’w chwarae, ond mae gwasanaethau’n dioddef argyfyngau recriwtio a chadw a achoswyd gan 14 blynedd o gamreoli economaidd o dan y Ceidwadwyr. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ar draws llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i wella safonau byw gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus drwy gydol cyfnod y senedd, a sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig yn hyderus mewn unrhyw ddulliau annibynnol.
Bydd Llafur hefyd yn gweithio gyda Llywodraethau Cymru a’r Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, i sbarduno twf ar draws y wlad. Bydd ein strategaeth ddiwydiannol yn cefnogi diwydiannau llwyddiannus ar draws holl wledydd y Deyrnas Unedig.
System fewnfudo deg a reolir yn briodol
Mae pobl sydd wedi dod i’r Deyrnas Unedig i weithio yn gwneud cyfraniad sylweddol at ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus, a’n cymunedau.
Ond, o dan y Ceidwadwyr, mae economi Prydain wedi dod yn orddibynnol ar weithwyr o dramor i lenwi bylchau sgiliau. O ganlyniad, rydym wedi gweld mudo net yn cyrraedd y lefel uchaf erioed; dros deirgwaith yn fwy na’r lefel yn yr etholiad diwethaf yn 2019. Mae’n rhaid i’r lefel gyffredinol gael ei rheoli’n briodol. Bydd methiant i wneud hynny’n lleihau’r cymhellion i fusnesau hyfforddi’n lleol. Felly, bydd Llafur yn lleihau mudo net.
Bydd llywodraeth Lafur yn San Steffan yn diwygio’r system fewnfudo sydd wedi’i seilio ar bwyntiau fel ei bod yn deg ac yn cael ei rheoli’n iawn, gyda chyfyngiadau priodol ar fisâu, a thrwy gysylltu polisi sgiliau a mewnfudo. Ni fydd Llafur yn goddef cyflogwyr nac asiantaethau recriwtio sy’n camddefnyddio’r system fisa. Ac ni fyddwn yn goddef achosion o dorri cyfraith cyflogaeth. Bydd cyflogwyr sy’n herio’r rheolau’n cael eu gwahardd rhag hurio gweithwyr o dramor.
Mae polisi’r Ceidwadwyr yn anghydlynol, gyda phenderfyniadau ar fudo, sgiliau a chyflogau sectorau’n cael eu gwneud ar wahân. Bydd Llafur yn cyflwyno ffordd gydgysylltiedig o feddwl, gan sicrhau bod mudo i fynd i’r afael â phrinder sgiliau yn sbarduno cynllun i uwchsgilio gweithwyr a gwella amodau gwaith yn y Deyrnas Unedig. Byddwn yn cryfhau’r Pwyllgor Cynghori ar Fudo, ac yn sefydlu fframwaith ar gyfer gweithio ar y cyd â chyrff sgiliau ledled y Deyrnas Unedig, y Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Byddwn yn rhoi terfyn ar y ddibyniaeth tymor hir ar weithwyr tramor mewn rhai rhannau o’r economi trwy gyflwyno cynlluniau gweithlu a hyfforddi ar gyfer sectorau fel iechyd a gofal cymdeithasol, ac adeiladu.
Ni fydd sector yn gallu aros ar restrau prinder mewnfudo yn dragwyddol heb gymryd camau i hyfforddi gweithwyr mwyach.
Cynorthwyo pobl i gael gwaith
Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi llwyddo i wrthdroi’r duedd hanesyddol lle’r oedd cyfraddau diweithdra Cymru yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.
Mae’r llwyddiant hwn wedi deillio o’r Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau, gan gynnwys cynlluniau fel y Gymuned ar gyfer Gwaith, ReAct a Thwf Swyddi Cymru. Mae’r ymyriadau hyn wedi darparu cymorth wedi’i dargedu i filoedd o bobl, gan gynnwys rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas – gan roi gobaith a thrawsnewid bywydau.
Bydd Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn gweithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Llafur Cymru i ychwanegu at yr hanes hwn, fel y gallwn gefnogi mwy o bobl i gael gwaith a chamu ymlaen yn y gwaith.
Mae Llafur wedi ymrwymo i ddiwygio cymorth cyflogaeth fel ei fod yn sbarduno twf a chyfleoedd, gyda system wedi’i seilio ar hawliau a chyfrifoldebau. Byddai Llywodraeth Llafur Cymru a llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn sicrhau bod gwasanaethau’r Ganolfan Byd Gwaith yn cysylltu’n well â’r gwasanaeth gyrfaoedd datganoledig. Byddwn yn sicrhau bod y Ganolfan Byd Gwaith yn ymatebol i gyflogwyr lleol, yn gynhwysol i bob defnyddiwr, ac yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau lleol eraill ac yn cefnogi strategaeth economaidd Llywodraeth Llafur Cymru.
I gynorthwyo mwy o bobl â chyflyrau iechyd neu anabledd i ymuno â’r gweithlu, bydd Llafur yn gweithio gyda Llywodraeth Llafur Cymru i ddatblygu cynlluniau ar gyfer lleihau anweithgarwch economaidd. I gefnogi hyn, byddwn yn datganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n ymwneud â’r Ganolfan Byd Gwaith i Lywodraeth Cymru fel y gall ffurfio cynnig gwaith, iechyd a sgiliau cydgysylltiedig i bobl leol. Byddwn yn mynd i’r afael â’r ôl-groniad o hawlwyr Mynediad i Waith ac yn rhoi’r hyder i bobl anabl ddechrau gweithio heb ofni ailasesiad o’u budd-daliadau ar unwaith os nad yw’n gweithio. Credwn nad yw’r Asesiad Gallu i Weithio yn gweithio a bod angen iddo gael ei ddiwygio neu ei ddisodli, ochr yn ochr â chynllun priodol i gefnogi pobl anabl i gael gwaith.
Yng Nghymru, mae Gwarant i Bobl Ifanc Llafur yn cynorthwyo pawb 16 i 24 oed i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu i gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig. Hyd yma, mae mwy na 27,000 o bobl ifanc wedi dechrau rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau. Ers i’r warant gael ei lansio, mae mwy na 5,000 o bobl ifanc wedi symud ymlaen i gyflogaeth, mae dros 400 wedi cychwyn eu busnes eu hunain ac mae mwy na 12,700 wedi dechrau prentisiaethau.
Trwy weithredu ein hymrwymiad i warant ieuenctid ledled Lloegr, byddwn yn dysgu o lwyddiant yr ymagwedd yng Nghymru, ac yn sicrhau bod Cynnig Ieuenctid yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio ochr yn ochr â’r ddarpariaeth ddatganoledig i gefnogi Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Llafur Cymru.
Gwneud i waith dalu
Mae mwy o sicrwydd mewn gwaith, cyflog gwell, a mwy o ymreolaeth yn y gweithle yn gwella bywydau pobl sy’n gweithio ac yn arwain at fuddion economaidd sylweddol. Nid yw deddfau cyflogaeth Prydain yn addas i’r economi fodern mwyach, ac mae deddfwriaeth ddiweddar gan y Ceidwadwyr wedi hybu gelyniaeth a gwrthdaro gan arwain at y cyfnod gwaethaf o gysylltiadau diwydiannol ers y 1980au.
Mae gan Lywodraeth Llafur Cymru hanes balch o wrthsefyll ymosodiadau’r Ceidwadwyr ar bobl sy’n gweithio, gan gynnwys pasio deddfwriaeth yn y senedd i atal elfennau o ddeddfwriaeth wrth-undebau llafur y Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru.
I ormod o bobl, nid yw swydd yn cynnig llwybr allan o dlodi fel y dylai: naill ai oherwydd bod y gwaith yn ansicr, yn anhyblyg, neu’n talu’n isel; neu oherwydd bod pobl yn wynebu rhwystrau wrth geisio symud i swydd well. Mae busnesau cyfrifol yn wynebu cael eu tandorri pan nad yw hawliau’n cael eu gorfodi’n iawn.
Bydd Llafur yn atal yr anhrefn ac yn troi’r ddalen i greu partneriaeth rhwng busnes ac undebau llafur, trwy weithredu ‘Cynllun Llafur i Wneud i Waith Dalu: Cyflawni Bargen Newydd i Bobl sy’n Gweithio’ yn llawn – gan gyflwyno deddfwriaeth o fewn 100 o ddiwrnodau. Byddwn yn ymgynghori’n llawn â busnesau, gweithwyr, a chymdeithas sifil ar sut i roi ein cynlluniau ar waith cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei phasio. Bydd hyn yn cynnwys gwahardd contractau dim oriau camfanteisiol; rhoi terfyn ar ddiswyddo ac ailgyflogi; a chyflwyno hawliau sylfaenol i absenoldeb rhiant, tâl salwch, ac amddiffyniad rhag diswyddo annheg o’r cychwyn cyntaf. Byddwn yn cryfhau llais cyfunol gweithwyr, gan gynnwys trwy eu hundebau llafur, ac yn creu Corff Gorfodi Sengl i sicrhau bod hawliau cyflogaeth yn cael eu cynnal. Bydd y newidiadau hyn yn gwella bywydau pobl sy’n gweithio ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Llafur Cymru eisoes wedi deddfu i roi sail statudol i’w hymagwedd partneriaeth gymdeithasol.
Bydd Llafur hefyd yn sicrhau bod yr isafswm cyflog yn gyflog byw go iawn. Byddwn yn newid cylch gwaith y Comisiwn Cyflogau Isel annibynnol er mwyn iddo ystyried costau byw am y tro cyntaf. Bydd Llafur hefyd yn dileu’r bandiau oedran gwahaniaethol, fel bod gan bob oedolyn yr hawl i’r un isafswm cyflog, gan roi codiad cyflog i gannoedd ar filoedd o weithwyr ledled y Deyrnas Unedig.
Bydd Llafur yn atal yr anhrefn, yn troi’r ddalen, ac yn sbarduno twf economaidd trwy ddiwygio ein heconomi.
Help deliver change to Wales.