Vote Labour on 4 July

Help us win

Sylfeini cadarn

Keir Starmer talking to a soldier.

Ni fydd unrhyw ymrwymiad polisi i geisio cyflawni cenadaethau Llafur yn bwysig oni bai ein bod yn cyflawni dyletswydd gyntaf unrhyw lywodraeth: cadw’r wlad yn ddiogel. Mae heddwch a diogelwch yn gofyn am ymdrech. Mae angen bod yn gyson wyliadwrus. Yn ystod y 14 blynedd diwethaf, mae tensiynau geowleidyddol wedi cynyddu, tra bod y Ceidwadwyr wedi gwagio ein lluoedd arfog. Nawr, mae Putin yn ceisio tanseilio diogelwch Ewropeaidd gyda’i ymosodiad llawn ar Wcráin. Bydd Llafur yn ateb yr her hon trwy gryfhau ein lluoedd arfog a gwarchod ein diogelwch cenedlaethol. Mae cymunedau yng Nghymru bob amser wedi bod yn allweddol i’n hamddiffyniad cenedlaethol, a byddwn yn parhau â’r hanes balch hwnnw.

Mae ein hymrwymiad i ataliaeth niwclear y Deyrnas Unedig yn absoliwt. Mae’n fesur diogelwch hollbwysig i’r Deyrnas Unedig a’n cynghreiriaid NATO. Fel y blaid a ffurfiodd NATO, mae ein hymrwymiad diysgog i’r gynghrair yn parhau, a byddwn yn cymhwyso prawf NATO i raglenni amddiffyn mawr i sicrhau ein bod yn bodloni ein rhwymedigaethau’n llawn.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae bygythiadau i’n diogelwch wedi lluosi ac amrywiaethu. Ochr yn ochr â mwy o fygythiadau confensiynol, rydym yn wynebu amlygiad cynyddol rhyfela hybrid, gan gynnwys seiberymosodiadau ac ymgyrchoedd camwybodaeth sy’n ceisio tanseilio ein democratiaeth. I sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn hollol barod i ddelio â’r bygythiadau cydgysylltiedig hyn, bydd Llafur yn cynnal Adolygiad Amddiffyn Strategol o fewn ein blwyddyn gyntaf mewn grym, a byddwn yn amlinellu’r llwybr tuag at wario 2.5 y cant o’r Cynnyrch Domestig Gros ar amddiffyn.

O wenwyniadau Skripal i gynllwyniau llofruddio gan Gorfflu Gardiau Chwyldroadol Islamaidd Iran, mae bygythiadau gan wladwriaethau gelyniaethus neu grwpiau a noddir gan wladwriaeth yn cynyddu, ond nid oes gan Brydain fframwaith cynhwysfawr i’n diogelu. Bydd Llafur yn manteisio ar yr ymagwedd a ddefnyddir i ddelio â therfysgaeth anwladwriaethol a’i haddasu i ddelio â bygythiadau diogelwch domestig wedi’u seilio ar wladwriaeth.

Mae terfysgaeth yn fygythiad arwyddocaol o hyd. Bydd Llafur yn cyflwyno ‘Deddf Martyn’ i gryfhau diogelwch digwyddiadau cyhoeddus a lleoliadau. Byddwn yn diweddaru’r rheolau ar wrth-eithafiaeth, gan gynnwys ar-lein, i atal pobl rhag cael eu radicaleiddio a’u denu tuag at ideolegau atgas. Bydd Llafur hefyd yn sicrhau bod gan yr heddlu a’r gwasanaethau cuddwybodaeth y pwerau a’r adnoddau y mae arnynt eu hangen i amddiffyn pobl Prydain rhag terfysgaeth ac ysbïwriaeth elyniaethus.

Mae Prydain yn wlad oddefgar a thosturiol. Mae gennym draddodiad balch o groesawu pobl sy’n ffoi rhag erledigaeth a chamdriniaeth. Mae cynlluniau fel Cartrefi i Wcráin, fisâu dyngarol Hong Kong, a rhaglen adsefydlu Syria wedi darparu llwybrau pwysig i ffoaduriaid sy’n ceisio noddfa. Ond mae angen i’r system gael ei rheoli ac mae arnom angen ffiniau cadarn. Mae’r argyfwng cychod bach, sy’n cael ei hybu gan gangiau smyglwyr troseddol peryglus, yn tanseilio ein diogelwch ac yn colli bywydau.

Yn hytrach na chynllun pendant i wynebu’r argyfwng hwn, y cyfan y mae’r Ceidwadwyr wedi’i gynnig yw gimics byrbwyll. Mae eu polisi blaenllaw – i hedfan nifer fechan o geiswyr lloches i Rwanda – eisoes wedi costio cannoedd ar filiynau o bunnoedd. Hyd yn oed petai’n digwydd, gall y cynllun hwn ddelio â llai nag un y cant o’r ceiswyr lloches sy’n cyrraedd yn unig. Ni all weithio. Mae anhrefn yn y Sianel wedi cael ei hadlewyrchu gan anhrefn gartref. Mae deddfau anymarferol y Ceidwadwyr wedi creu ‘ôl-groniad parhaol’ o ddegau ar filoedd o geiswyr lloches, sy’n aros mewn gwestai am gyfnod amhenodol gan gostio miliynau o bunnoedd yr wythnos i drethdalwyr.

Bydd Llafur yn atal yr anhrefn ac yn mynd ar ôl y gangiau troseddol sy’n masnachu mewn hybu’r argyfwng hwn. Byddwn yn creu Awdurdod Diogelwch y Ffin newydd, gyda channoedd o ymchwilwyr, swyddogion cuddwybodaeth, a heddweision trawsffiniol newydd. Telir am hyn trwy derfynu’r bartneriaeth Ymfudo a Datblygu Economaidd wastraffus â Rwanda. Bydd yr Awdurdod newydd hwn yn gweithio’n rhyngwladol ac yn cael ei gefnogi gan bwerau newydd tebyg i wrthderfysgaeth, i erlid y rhai sy’n gyfrifol am y fasnach ffiaidd, tarfu arnynt a’u harestio. Byddwn yn ceisio cytundeb diogelwch newydd â’r Undeb Ewropeaidd

i sicrhau mynediad at guddwybodaeth amser real a galluogi ein timau plismona i arwain ymchwiliadau ar y cyd â’u cymheiriaid Ewropeaidd. Bydd Llafur yn troi’r ddalen ac yn rhoi trefn ar y system loches fel ei bod yn gweithredu’n gyflym, yn gadarn, ac yn deg; a bod y rheolau’n cael eu gorfodi’n iawn. Byddwn yn hurio gweithwyr achos ychwanegol i glirio ôl-groniad y Ceidwadwyr a rhoi terfyn ar westai lloches, gan arbed biliynau o bunnoedd i drethdalwyr.

Bydd Llafur yn sefydlu uned dychwelyd a gorfodi newydd, gyda 1,000 o staff ychwanegol, i gyflymu’r broses o symud pobl nad oes ganddynt yr hawl i aros yma i wledydd diogel. Byddwn yn negodi trefniadau dychwelyd ychwanegol i gyflymu dychweliadau ac yn cynyddu nifer y gwledydd diogel y gellir anfon ceiswyr lloches aflwyddiannus yn ôl iddynt yn fuan. A byddwn hefyd yn gweithredu ar lefel uwch, gan weithio gyda phartneriaid rhyngwladol i fynd i’r afael â’r argyfyngau dyngarol sy’n achosi i bobl ffoi o’u cartrefi, ac i gryfhau’r cymorth i ffoaduriaid yn eu rhanbarth cartref.

Keir Starmer and Rachel Reeves sit side by side preparing to respond to the Budget

Bydd pob ymrwymiad a wneir gan lywodraeth Lafur wedi’i seilio ar arian cadarn a sefydlogrwydd economaidd. Mae hyn yn egwyddor ddiysgog ar gyfer Plaid Lafur y Deyrnas Unedig ar ei newydd wedd. Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi dangos disgyblaeth gyllidol trwy gyflwyno cyllidebau cytbwys, gan gadw at ymrwymiad y maniffesto i beidio â chynyddu’r dreth incwm. Fe allai rhai honni nad oes terfyn ar yr hyn y gall y llywodraeth ei wario, neu fod toriadau treth yn talu amdanynt eu hunain. Gwrthodwn yr ideoleg ddiffygiol hon a brofwyd hyd at ddinistriad gan ‘gyllideb fach’ drychinebus y Ceidwadwyr. Mae pobl Prydain yn dal i dalu pris yr ymrwymiadau hynny nad oeddent wedi’u hariannu trwy gostau morgeisi uwch, ac mae trethdalwyr yn dal i dalu’r bil trwy daliadau llog uwch, sy’n golygu llai o arian ar gyfer buddsoddi a gwasanaethau cyhoeddus. Nid oedd yr effaith wedi’i chyfyngu i’r wlad hon. Anfonodd byrbwylltra’r Ceidwadwyr arwydd o ansefydlogrwydd ar draws y byd a niweidiodd ein statws, gan wneud Prydain yn lle llai deniadol i fusnes fuddsoddi ynddo.

Nid yw’r anhrefn drosodd. Mae’r Ceidwadwyr byrbwyll bellach wedi gwneud hyd yn oed mwy o doriadau treth ac addewidion gwario heb eu hariannu ar raddfa y tu hwnt i’r ‘gyllideb fach’. Byddai hyn yn ddifethol i deuluoedd ledled y wlad.

Bydd Llafur yn troi’r ddalen ar yr anhrefn economaidd yma. Mae ein hymagwedd wedi’i seilio ar reolau cyllidol cryf a fydd yn llywodraethu pob penderfyniad a wnawn mewn grym.

Mae ein rheolau cyllidol fel a ganlyn:

  • Bod y gyllideb gyfredol yn symud i gydbwysedd, fel bod costau dydd i ddydd yn cael eu talu gan refeniw;
  • Bod rhaid i ddyled fod yn gostwng fel cyfran o’r economi erbyn pumed flwyddyn y rhagolwg.

Mae’r rheolau hyn yn caniatáu ar gyfer buddsoddi’n ddarbodus yn ein heconomi. Mae hyn yn hollol wahanol i’r Ceidwadwyr sydd wedi creu cymhelliant i dorri buddsoddiad; ymagwedd tymor byr sy’n anwybyddu pwysigrwydd tyfu’r economi. Bydd Llafur yn taro cydbwysedd rhwng blaenoriaethu buddsoddiad a’r angen dybryd i ailadeiladu ein cyllid cyhoeddus. Ni fyddwn yn dychwelyd i gyni.

Yn wahanol i’r Ceidwadwyr, ni fydd Llafur byth yn diystyru’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) er hwylustod gwleidyddol. Yn lle hynny, byddwn yn cryfhau rôl yr OBR. Bydd pob digwyddiad cyllidol sy’n gwneud newidiadau arwyddocaol i drethiant neu wariant yn destun rhagolwg annibynnol gan yr OBR.

Bydd Llafur yn diogelu arian trethdalwyr. Byddwn yn rhoi terfyn ar y cysylltiad rhwng mynediad at weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llwybr mewnol ar gyfer contractau cyhoeddus. Byddwn yn penodi Comisiynydd Llygredigaeth Covid am gyfnod penodol ac yn defnyddio pob ffordd bosibl o adennill yr arian cyhoeddus a gollwyd trwy dwyll cysylltiedig â’r pandemig a chontractau na chyflawnwyd. Ac ni fyddwn yn goddef twyll na gwastraff yn unman, boed hynny mewn nawdd cymdeithasol neu ddefnydd gormodol ar ymgynghorwyr.

Ochr yn ochr â chyllid cenedlaethol cryf, mae angen i gyllid teuluoedd ym Mhrydain fod yn gadarn, hefyd. Mae teuluoedd yn ei chael hi’n anodd talu costau byw oherwydd y Ceidwadwyr. Bydd Llafur yn gweithredu i gefnogi teuluoedd, trwy fynd i’r afael ag achosion sylfaenol yr argyfwng.

Byddwn yn lleihau cost ynni. Bydd Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn gwneud i waith dalu ac yn lleihau prisiau bwyd trwy ddileu rhwystrau sy’n atal busnesau rhag masnachu. Bydd Llywodraeth Llafur Cymru yn parhau i wneud tai yn fwy fforddiadwy, yn ehangu mynediad at ofal plant, ac yn cefnogi teuluoedd sydd â phlant trwy barhau â’i hymrwymiad hirsefydlog i frecwast am ddim i bob disgybl ysgol gynradd. Bydd Llafur hefyd yn cadw cyfraddau morgeisi mor isel â phosibl, gyda Banc Lloegr cryf, annibynnol – a fydd yn parhau i dargedu chwyddiant sefydlog ar 2 y cant. Mae’r Ceidwadwyr wedi codi’r baich treth i’r lefel uchaf ers 70 mlynedd. Bydd llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn sicrhau bod trethi ar bobl sy’n gweithio yn cael eu cadw mor isel â phosibl. Ni fydd Llafur yn cynyddu trethi ar bobl sy’n gweithio, felly ni fyddwn yn cynyddu Yswiriant Gwladol, cyfraddau sylfaenol, uwch, nac ychwanegol y Dreth Incwm, na TAW.

Bydd Llafur yn mynd i’r afael ag annhegwch yn y system dreth. Byddwn yn diddymu statws dibreswyl unwaith ac am byth, gan ei ddisodli â chynllun modern ar gyfer pobl sydd yn y wlad am gyfnod byr o ddifrif. Byddwn yn rhoi terfyn ar ddefnyddio ymddiriedolaethau alltraeth i osgoi treth etifeddiant fel bod pawb sy’n ymgartrefu yma yn y Deyrnas Unedig yn talu eu trethi yma. Ecwiti preifat yw’r unig ddiwydiant lle mae tâl cysylltiedig â pherfformiad yn cael ei drin fel enillion cyfalaf. Bydd Llafur yn cau’r bwlch hwn.

Byddwn yn moderneiddio Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) ac yn newid y gyfraith i fynd i’r afael ag osgoi trethi. Byddwn yn cynyddu gofynion cofrestru ac adrodd, yn cryfhau pwerau CThEF, yn buddsoddi mewn technoleg newydd ac yn cynyddu capasiti o fewn CThEF. Bydd hyn, ynghyd â phwyslais o’r newydd ar osgoi trethi gan fusnesau mawr a’r cyfoethog, yn dechrau cau’r bwlch treth a sicrhau bod pawb yn talu eu cyfran deg.