Chwalu’r rhwystrau i gyfleoedd
- Recriwtio athrawon newydd mewn pynciau allweddol
- Sicrhau prydau ysgol a brecwast am ddim i bob plentyn ysgol cynradd
- Cyflawni’r Warant i Bobl Ifanc
- Ehangu gofal plant
- Darparu prentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed
Skip to:
Pwy bynnag ydych chi, o ble bynnag y dewch chi, dylai Prydain fod yn wlad lle mae gwaith caled yn golygu y gallwch gamu ymlaen mewn bywyd. O dan y Ceidwadwyr, mae’r addewid sylfaenol hwn – os byddwch yn gweithio’n galed, byddwch yn mwynhau’r gwobrau – wedi’i dorri. Rydyn ni’n wlad lle mae pwy yw eich rhieni – a faint o arian sydd ganddyn nhw – yn rhy aml yn golygu mwy na’ch ymdrech a’ch menter. Mae gormod o bobl yn gweld llwyddiant fel rhywbeth sy’n digwydd i eraill. Mae hyn yn wastraff ofnadwy ar dalent yn ogystal ag yn anghyfiawnder enfawr. Felly, bydd torri’r cysylltiad niweidiol rhwng cefndir a llwyddiant yn genhadaeth ddiffiniol i Lafur. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â hyn, gyda phenderfynoldeb i helpu mwy o bobl ifanc i gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru.
Yn gyntaf, rhaid inni gydnabod bod mwy o gyfle yn gofyn am fwy o sicrwydd. Mynd i’r afael ag ansicrwydd economaidd – yn y gwaith, gartref, yn ein cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus – yw’r llinyn aur sy’n rhedeg drwy holl genadaethau Llafur. Bydd y sylfaen gadarn honno’n cefnogi Llywodraeth Lafur Cymru i barhau i adeiladu system addysg yng Nghymru sy’n paratoi plant a phobl ifanc ar gyfer bywyd, gwaith a’r dyfodol.
Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru dan bwysau aruthrol ar ôl blynyddoedd o gamreoli ariannol cyhoeddus gan y Ceidwadwyr, ac mae’r system addysg yn dal i ddod ati ei hun ar ôl effeithiau’r pandemig. Mae gormod o blant yn absennol o’r ysgol, mae gormod o deuluoedd yn teimlo pwysau costau byw, ac mae tlodi’n effeithio’n rhy aml ar gyrhaeddiad. Ni allwn fyth fod yn hunanfodlon ynghylch addysg, ac mae Llywodraeth Lafur Cymru yn rhoi diwygiadau arloesol ar waith i weddnewid cyfleoedd bywyd pobl ifanc ym mhob rhan o Gymru. Mae hefyd yn gwneud mwy o rieni’n gymwys i gael gofal plant am ddim drwy Gynnig Gofal Plant Cymru, gan alluogi mwy o bobl i ddychwelyd i waith a hyfforddiant, a chefnogi pob plentyn drwy eu 1,000 diwrnod cyntaf i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn.
Mae gan Lafur Cymru hanes balch o adeiladu ysgolion newydd yng Nghymru dros y degawd diwethaf. Mae llywodraeth genedlaethol a lleol yn gweithio mewn partneriaeth i adeiladu ysgolion sy’n addas ar gyfer y dyfodol ym mhob rhan o Gymru, drwy’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn unig, mae’r rhaglen hon wedi buddsoddi dros £1 biliwn mewn plant a phobl ifanc. Drwy’r cynllun Ysgolion Bro, mae Llafur Cymru hefyd yn buddsoddi mewn gwneud i ysgolion weithio i gymunedau lleol drwy gydleoli gwasanaethau allweddol ar safleoedd ysgolion a galluogi rhieni a gofalwyr i ymgysylltu y tu allan i oriau ysgol arferol.
Lansiwyd Gwarant Pobl Ifanc Llywodraeth Lafur Cymru yn 2021, ac ymrwymodd i ddarparu cymorth i bawb rhwng 16 a 24 oed sy’n byw yng Nghymru, i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant neu i helpu i gael gwaith neu hunangyflogaeth.
Mae Llafur Cymru yn gweithio i sicrhau pontio mwy llyfn ar gyfer dysgwyr i addysg ôl-orfodol a pharch cydradd i lwybrau galwedigaethol, gan gynnwys drwy’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd.
Addysg yw canolbwynt Llafur Cymru, oherwydd mae pob plentyn yn haeddu cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Bydd dwy lywodraeth Lafur yn gwireddu hyn drwy weithio gyda’i gilydd i gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, ni waeth o ble rydych chi’n dod.
Diogelwch y teulu
Cododd llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU dros hanner miliwn o blant a thros filiwn o bensiynwyr allan o dlodi. Roedd y cynnydd hwnnw’n trawsnewid cyfleoedd bywyd ac yn sicrhau diogelwch ar ôl ymddeol. Bydd llywodraeth Lafur nesaf y DU yn adeiladu ar yr etifeddiaeth honno o fynd ar drywydd cyfle a chyfiawnder cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi treulio 14 mlynedd yn ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf methiant y Ceidwadwyr i fynd i’r afael â lefelau annioddefol o dlodi yng nghymdeithas Cymru, gan gynnwys drwy’r camau gweithredu a nodir yn y Strategaeth Tlodi Plant Cymru a’i gwneud yn haws i bawb gael mynediad at eu hawliau llawn. Ond bydd dwy lywodraeth Lafur sy’n gweithio gyda’i gilydd yn gallu gwneud cymaint mwy i fynd i’r afael â thlodi ledled Cymru a Phrydain.
Cyflogaeth dda fydd sylfaen ein dull o fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Byddwn yn creu mwy o swyddi da, yn diwygio cymorth cyflogaeth, ac yn gwneud i waith dalu, fel bod llawer mwy o bobl yn elwa o urddas a phwrpas gwaith.
Mae Llafur wedi ymrwymo i adolygu Credyd Cynhwysol fel ei fod yn gwneud i waith dalu ac yn mynd i’r afael â thlodi. Rydym am roi terfyn ar ddibyniaeth dorfol ar barseli bwyd brys, sy’n graith foesol ar ein cymdeithas.
Bu cynnydd o 700,000 mewn tlodi plant ym Mhrydain dan y Ceidwadwyr, gyda dros bedair miliwn o blant bellach yn cael eu magu mewn teulu incwm isel. Y llynedd, roedd miliwn o blant yn ddiymgeledd. Mae hyn nid yn unig yn niweidio bywydau plant nawr, mae’n niweidio eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol, ac yn dal ein potensial economaidd fel gwlad yn ôl. Bydd Llywodraeth Lafur nesaf y DU yn datblygu strategaeth uchelgeisiol i leihau tlodi plant. Byddwn yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol, sefydliadau ffydd, undebau llafur, busnesau, llywodraeth leol a llywodraeth ddatganoledig, a chymunedau i sicrhau newid.
Byddwn yn cymryd camau cychwynnol i fynd i’r afael â thlodi drwy leihau tlodi tanwydd, gwahardd contractau dim oriau ecsbloetiol, a gwella’r gefnogaeth i helpu pobl i gael gwaith da.
Mae system pensiynau’r wladwriaeth, pensiynau preifat a phensiynau’r gweithle yn darparu’r sail ar gyfer diogelwch ar ôl ymddeol. Bydd Llafur yn cadw’r clo triphlyg ar gyfer pensiwn y wladwriaeth. Byddwn hefyd yn mabwysiadu diwygiadau i bensiynau’r gweithle i sicrhau canlyniadau gwell i gynilwyr a phensiynwyr y DU. Bydd ein hadolygiad o bensiynau yn ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen i wella diogelwch ar ôl ymddeol, yn ogystal â chynyddu buddsoddiad cynhyrchiol yn economi’r DU.
Mae diogelwch hefyd yn golygu cael to diogel dros eich pen. Nid yw hynny’n wir yn achos gormod o bobl sy’n rhentu eu cartrefi’n breifat. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i wneud rhentu’n ddewis cadarnhaol drwy wella safon eiddo rhent a rhoi mwy o warchodaeth i denantiaid, ac mae wedi newid y gyfraith i roi mwy o warchodaeth i denantiaid a landlordiaid.
Mae’r gyfraith yng Nghymru yn rhoi’r cyfnod mwyaf hael i bobl adleoli; mae Llafur Cymru wedi diddymu ffioedd a thaliadau tenantiaeth afresymol ac mae hefyd yn cyflwyno dulliau newydd ynghylch rhenti fforddiadwy i bobl leol a hawl i dai digonol.
Mae’r cynllun cofrestru gorfodol ar gyfer landlordiaid preifat yn sicrhau bod ein holl landlordiaid yn cael eu cefnogi i fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a bod gan denantiaid lwybr i ddal landlordiaid i gyfrif os nad yw’r amodau’n ddigonol.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cymryd camau pendant i wella diogelwch adeiladau, diogelu lesddeiliaid rhag costau annheg a chyflymu gwaith adfer. Yng Nghymru, mae llwybr i fynd i’r afael â materion diogelwch tân ym mhob adeilad preswyl 11 metr neu fwy. Nid yw hyn yn gyfyngedig i adeiladau â chladin. Bydd Bil Diogelwch Adeiladau hefyd yn cael ei gyflwyno yn y Senedd i sicrhau na fydd trychineb fel Grenfell yn digwydd yng Nghymru.
Yn 2018, roedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi negodi ymrwymiad gan y prif adeiladwyr tai i beidio â gwerthu tai ar lesddaliad, ac wedi cyflwyno cyfyngiadau i Cymorth i Brynu – Cymru, gan gyfyngu ar y defnydd o lesddaliadau ar gyfer tai, yn ogystal â gwella’r telerau a gynigir lle maent yn cael eu defnyddio ar gyfer fflatiau. Roedd y cam gweithredu hwn bron wedi dileu gwerthu tai lesddaliad newydd yng Nghymru. Mae Llafur Cymru wedi bod yn glir bod Bil ar lefel y DU, sy’n mynd i’r afael â diwygio lesddaliadau, yn angenrheidiol. Bydd oedi’r Ceidwadwyr yn dod i ben o’r diwedd pan fydd llywodraeth Lafur yn San Steffan yn dod â’r system lesddaliadol ffiwdal i ben. Byddwn yn gweithio gyda llywodraeth Lafur y DU i weithredu’r pecyn o gynigion gan Gomisiwn y Gyfraith ar ryddfreinio lesddaliadau, yr hawl i reoli a chyfunddaliad i sicrhau eu bod yn gweithio i bobl Cymru Mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflwyno’r Bil Digartrefedd, a fydd yn trawsnewid gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru er mwyn sicrhau llwybr tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd.
Y dechrau gorau mewn bywyd
Mae addysg gynnar a gofal plant o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a’u helpu i gyflawni eu potensial. Mae hefyd yn cefnogi rhieni i ddychwelyd i fyd gwaith.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi plant a theuluoedd drwy barhau i ehangu gofal plant i blant dwy oed drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg – gan gynnwys mewn lleoliadau Cymraeg – a thrwy ddarparu 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu yr wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn i rieni cymwys plant tair a phedair oed drwy ein Cynnig Gofal Plant.
Mae’r Cynnig Gofal Plant hefyd ar gael i rieni mewn hyfforddiant ac addysg ac i ofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i gefnogi plant – a’u teuluoedd – drwy gydol eu 1,000 diwrnod cyntaf i roi’r dechrau gorau iddynt mewn bywyd.
Mae cefnogi plant yn gynnar yn eu bywyd hefyd yn golygu rhoi’r hyblygrwydd sydd ei angen ar rieni i ofalu am eu plant. Bydd Llafur yn adolygu’r system absenoldeb rhiant yn ystod ein blwyddyn gyntaf yn llywodraeth y DU i ystyried y cyfraniad at absenoldeb rhiant mewn economi sy’n tyfu.
Dylai pob plentyn gael cartref cariadus a diogel. Mae gan Lywodraeth Lafur Cymru gynllun uchelgeisiol i weddnewid gwasanaethau plant yn radical. Ni waeth lle mae plant yn byw, dylid cefnogi mwy o blant i aros gyda’u teuluoedd, gyda llai o blant a phobl ifanc yn mynd i ofal. Dylai’r amser y mae pobl ifanc yn aros mewn gofal fod mor fyr â phosibl, fod yn gyson â diwallu anghenion y person ifanc a, thra bod plant mewn gofal, dylent aros yn agos at eu cartref fel y gallant barhau i fod yn rhan o’u cymuned. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys newid y gyfraith i dynnu’r elw preifat o ofal plant.
Codi safonau ysgolion
Mae llywodraeth Lafur Cymru yn glir bod gwelliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol yn brif flaenoriaeth. Dim ond drwy ymdrechion gweithlu ysgolion ymroddedig a thalentog Cymru y mae hynny’n bosibl. Mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ag athrawon a staff ysgolion i sicrhau cynnydd ar y flaenoriaeth hon.
Gyda Llafur mewn grym yn San Steffan, gall Llywodraeth Lafur Cymru fynd ymhellach fyth drwy fuddsoddi mewn polisïau sy’n chwalu’r rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl. Mae hynny’n cynnwys recriwtio athrawon newydd mewn pynciau allweddol mewn ysgolion ledled Cymru i baratoi plant ar gyfer bywyd, gwaith a’r dyfodol, y telir amdanynt drwy fesurau y bydd llywodraeth Lafur y DU yn eu rhoi ar waith i roi terfyn ar fanteision treth i ysgolion preifat, sy’n golygu mwy o arian i Gymru.
Mae datblygu addysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel drwy ddysgu proffesiynol gydol gyrfa gwarantedig yn ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Lafur Cymru yn rhoi hyn ar waith drwy’r Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol. Ochr yn ochr ag addysgu o ansawdd uchel, mae angen arweinyddiaeth ragorol er mwyn gwella safonau mewn addysg. Mae cynllun peilot Pencampwyr Cyrhaeddiad yn cael ei ymestyn i gyfnod newydd, sy’n golygu y bydd mwy o benaethiaid ac arweinwyr ysgolion yn cael eu cefnogi drwy fentora a rhannu enghreifftiau o arfer gorau. Mae Llafur Cymru hefyd wedi ymrwymo i alluogi cydweithredu rhwng ysgolion a dull mwy cyson o godi safonau ym mhob man.
Mae arolygu ac adborth annibynnol yn hanfodol i godi safonau. Yng Nghymru, nid oes dyfarniadau crynodol mwyach ar ysgolion ac mae diwylliant arolygu wedi cael ei newid i ganolbwyntio ar ddarparu mwy o gymorth i ysgolion ar daith barhaus tuag at welliant. O fis Medi 2024 ymlaen, bydd ysgolion yn cael mwy o adborth gan Estyn, yn fwy rheolaidd.
Rydym yn adnewyddu ein ffocws ar lythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol fel y sgiliau trawsgwricwlaidd sy’n rhedeg drwy bob maes dysgu a phrofiad. Mae’r Cwricwlwm i Gymru, sy’n cael ei lywio gan bwrpas, yn cael ei addysgu ym mhob ysgol a bydd yn cael ei gyflwyno i bob grŵp blwyddyn erbyn 2026. Mae’r cwricwlwm newydd yn cefnogi plant i ddod yn ddysgwyr galluog uchelgeisiol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
Wrth i Lywodraeth Lafur Cymru weithio tuag at gyflawni’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n parhau i fuddsoddi mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg o’r blynyddoedd cynnar ymlaen. O wersi Cymraeg am ddim sydd ar gael i bobl ifanc 16-25 oed a staff addysgu, i fuddsoddi £6.6 miliwn i gefnogi prosiectau trochi iaith Gymraeg, mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ifanc yn ennill y sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer bywyd a gwaith.
Mae disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn haeddu mynediad at y lefelau priodol o gymorth i gyflawni eu potensial. Dyna pam mae’r lefelau uchaf erioed o gyllid wedi cael eu darparu i ysgolion yng Nghymru ar gyfer gweithredu’r system newydd o gymorth ADY, a pham mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i adolygu’r cymorth sydd ar gael i ysgolion. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i weithio gydag ysgolion a theuluoedd i gael y diwygiad hwn yn iawn, yn ogystal â manteisio ar arbenigedd annibynnol.
Mae gormod o blant a phobl ifanc nad ydynt yn mynd i’r ysgol, ac nid yw’r lefelau presenoldeb wedi codi’n ôl o hyd i’r lefelau cyn y pandemig. Mae’r Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol yn helpu Llywodraeth Lafur Cymru i nodi’r camau ymarferol sydd eu hangen i wella presenoldeb mewn ysgolion ac ymgysylltiad dysgwyr. Mae cael disgyblion i’r ysgol yn hanfodol i wella cyrhaeddiad a chau’r bwlch rhwng y dysgwyr tlotaf a’u cyfoedion. Mae ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i’r Grant Datblygu Disgyblion hefyd yn allweddol i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu effaith y cyllid hwn.
Mae angen i blant a phobl ifanc gyrraedd yr ysgol yn barod i ddysgu. Yng Nghymru, mae brecwastau am ddim wedi cael eu darparu mewn ysgolion cynradd ers 2004 ac maent wedi cael eu diogelu mewn deddfwriaeth ers 2013. Mae dros 100 miliwn o frecwastau am ddim wedi’u darparu ledled Cymru yn ystod y degawd diwethaf yn unig, ac mae Llafur Cymru yn gweithio gyda chynghorau i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar ddarpariaeth brecwast am ddim. Mae gan Lafur Cymru hanes balch o gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob ysgol gynradd yng Nghymru. Mae dros 20 miliwn o brydau ysgol am ddim wedi cael eu darparu drwy’r polisi hwn ers mis Medi 2022. Mae costau eraill y diwrnod ysgol yn faich ariannol ychwanegol ar lawer o deuluoedd. Dyna pam mae Llywodraeth Lafur Cymru yn darparu cymorth yn uniongyrchol i deuluoedd drwy’r Grant Hanfodion Ysgol, i dalu am wisg ysgol neu gyfarpar a sicrhau nad yw plant yn colli allan ar weithgareddau a phrofiadau. Mae canllawiau ynglŷn â gwisg ysgol hefyd wedi cael eu diweddaru i helpu i leihau’r costau y mae teuluoedd yn eu hwynebu.
Mae iechyd meddwl da yn hanfodol er mwyn i blant a phobl ifanc ddysgu ac anelu at gyflawni eu potensial. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithredu Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl ar gyfer dysgwyr a staff. Mae’r gyfraith yn mynnu bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion i ddisgyblion 6 oed a hŷn, ac mae’r cwnsela sydd ar gael i staff ysgol yn cael ei ehangu. Mae gwasanaeth mewngymorth CAMHS ar gyfer ysgolion wedi cael ei gyflwyno i bob rhan o Gymru, gan ddarparu cysylltiadau hanfodol â gwasanaethau iechyd meddwl ehangach y GIG, ac mae canllawiau statudol i wreiddio’r Dull Ysgol Gyfan ar draws diwylliant ac ethos ysgolion wedi cael eu cyhoeddi.
Addysg bellach ac uwch
Mae gan Lywodraeth Lafur Cymru hanes balch o gyflawni ei rhaglen prentisiaethau flaenllaw yng Nghymru, ac mae’n parhau i gyflawni hynny drwy’r Warant i Bobl Ifanc, a lansiwyd yn 2021, a thrwy fuddsoddi dros £140 miliwn mewn prentisiaethau eleni.
Drwy gydweithio â’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu dylunio i wella cynhyrchiant a diwallu anghenion sgiliau strategol.
Mae buddsoddiad yn cael ei flaenoriaethu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau drwy ddatblygu prentisiaethau mewn sectorau twf a galwedigaethau sy’n dod i’r amlwg, ac mae buddsoddiad yn cael ei ail-gydbwyso i gyd-fynd ag anghenion busnesau Cymru; gan symud hyfforddiant prentisiaethau o feysydd lle nad oes llawer o dystiolaeth o brinder sgiliau, i sectorau gwerth uchel.
Mae prentisiaethau yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer nodau hirdymor i fynd i’r afael â thlodi a chefnogi twf economaidd. Maent yn dangos y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ei rhoi i bobl sy’n gweithio a’u sgiliau er mwyn creu dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach.
Bydd llywodraeth Lafur newydd yn y DU yn rhoi ffocws o’r newydd i brentisiaethau a hyfforddiant, gan ddiwygio’r Ardoll Brentisiaethau sydd wedi’i thorri gan y Ceidwadwyr.
Bydd Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd Llywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi sector trydyddol cydgysylltiedig yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion myfyrwyr, yr economi a chymunedau. Mae Llafur Cymru yn gweithio i sicrhau pontio mwy llyfn i ddysgwyr a pharch cydradd i lwybrau galwedigaethol, a bydd hefyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â cholegau a phrifysgolion i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol.
Nid yw’r setliad cyllido addysg uwch presennol ar draws y DU yn gweithio i’r trethdalwr, i brifysgolion, staff na myfyrwyr. Ynghyd â llywodraeth Lafur y DU, bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn gweithredu i greu dyfodol sicr i addysg uwch a’r cyfleoedd y mae’n eu creu ledled y DU, yn ogystal â gweithio gyda phrifysgolion i gyflawni ar gyfer myfyrwyr a’n heconomi.
Mynediad at y celfyddydau, cerddoriaeth a chwaraeon
Mae Llafur Cymru yn gweithio i helpu i sicrhau nad yw’r celfyddydau a cherddoriaeth mwyach yn eiddo i bobl freintiedig yn unig. Mae diwylliant yn rhan hanfodol o gefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu creadigrwydd a dod o hyd i’w llais. Mae potensial enfawr ar gyfer twf yn y diwydiannau creadigol, sydd o fudd i bob cwr o’r DU.
Bydd llywodraeth Lafur yn y DU yn gweithredu ein cynllun ar gyfer y sector diwydiannau creadigol fel rhan o’n Strategaeth Ddiwydiannol, gan greu swyddi da a chyflymu twf mewn ffilm, cerddoriaeth, gemau a sectorau creadigol eraill. Byddwn yn gweithio’n adeiladol gyda’r BBC a’n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill er mwyn iddynt barhau i hysbysu, addysgu a diddanu pobl, a chefnogi’r economi greadigol drwy gomisiynu cynnwys nodedig. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn falch o’r sector teledu a ffilm ffyniannus sy’n cael ei gefnogi gan Cymru Greadigol.
Mae cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn golygu y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i astudio’r Celfyddydau Mynegiannol, fel un o’r chwe maes dysgu a phrofiad sy’n ofynnol yn y cwricwlwm. Mae creadigrwydd ac arloesedd hefyd yn un o’r sgiliau hanfodol sy’n cael eu hyrwyddo yn y cwricwlwm newydd drwyddo draw. Mae gan chwaraeon a gweithgarwch corfforol le allweddol mewn ysgolion o dan y maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles. Yn fwy cyffredinol, mae Llafur Cymru yn adolygu buddsoddiad mewn cyfleusterau chwaraeon ledled Cymru i gefnogi rôl clybiau chwaraeon ar lawr gwlad o ran ehangu mynediad i bawb.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dechrau ar y daith o ddod â chasgliadau celf i gymunedau lleol, dan arweiniad cydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y model daearyddol wasgaredig yn rhoi mwy o fynediad i’r casgliad cenedlaethol a chelfyddyd gyfoes i gymunedau ledled Cymru, gan ddod â chelf yn nes at holl bobl Cymru. Mae digideiddio’r casgliad cenedlaethol wedi cynhyrchu llwyfan digidol Celf ar y Cyd, a lansiwyd ym mis Mehefin 2023. Mae hyn yn cynrychioli ffrynt siop ddigidol genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer celf Cymru, gan wneud celf yn hygyrch i bawb. Mae mynediad at gerddoriaeth, drama a chwaraeon wedi dod yn anodd ac yn ddrud oherwydd towtio tocynnau. Bydd Llafur yn rhoi cefnogwyr yn ôl wrth galon digwyddiadau drwy gyflwyno mesurau diogelu defnyddwyr newydd ynghylch ailwerthu tocynnau.
O Bencampwriaeth Pêl-droed Ewrop UEFA y Dynion i Gwpan y Byd T20 Merched ICC i Gemau Invictus, bydd Llafur yn cynnal digwyddiadau rhyngwladol gyda balchder ac yn chwilio am gyfleoedd newydd lle gallwn, ac yn gweithio gyda phob gwlad a rhanbarth i greu gwaddol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent wrth hyrwyddo ymarfer corff a byw’n iach.
Mae Llafur wedi ymrwymo i wneud Prydain y lle gorau yn y byd i fod yn gefnogwr pêl-droed. Byddwn yn diwygio’r drefn o lywodraethu pêl-droed i ddiogelu clybiau
pêl-droed ar draws ein cymunedau ac i roi mwy o lais i gefnogwyr yn y ffordd y cânt eu rhedeg. Byddwn yn cyflwyno Bil Llywodraethu Pêl-droed, a fydd yn sefydlu rheoleiddiwr annibynnol i sicrhau cynaliadwyedd
ariannol clybiau pêl-droed. Ni fyddwn byth yn caniatáu i gynghrair gaeedig o glybiau dethol gael ei gwahanu oddi wrth ein cynghreiriau pêl-droed.
Parch a chyfle i bawb
Mae pawb yn y wlad hon yn haeddu llywodraeth sy’n cyfateb i’w huchelgais. Bydd Llafur yn sicrhau, beth bynnag fo’ch cefndir, y gallwch ffynnu, ac felly bydd llywodraeth Lafur yn San Steffan yn gweithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ar draws y DU, fel y gwnaeth Llywodraeth Lafur Cymru yn 2021.
Bydd cydraddoldeb menywod wrth galon ein cenadaethau. Bydd ein cynllun Gwneud i Waith Dalu yn trawsnewid bywydau menywod sy’n gweithio, gan gynnwys drwy gryfhau hawliau i gyflog cyfartal a gwarchodaeth rhag gwahaniaethu ar sail mamolaeth a menopos ac aflonyddu rhywiol. A bydd Llafur yn gweithredu i leihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, gan adeiladu ar waddol Deddf Cyflog Cyfartal Barbara Castle.
Bydd Llafur yn cyflwyno Deddf Cydraddoldeb Hiliol nodedig, i ymgorffori yn y gyfraith yr hawl lawn i gyflog cyfartal i bobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, cryfhau amddiffyniadau yn erbyn gwahaniaethu deuol a dileu anghydraddoldebau hiliol eraill. Bydd Llafur hefyd yn gwrthdroi penderfyniad y Ceidwadwyr i israddio’r gwaith o fonitro casineb gwrth-Semitig ac Islamoffobig. Yng Nghymru, bydd hyn yn adeiladu ar waith Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Bydd Llywodraeth Lafur y DU wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau pobl anabl ac i’r egwyddor o weithio gyda nhw, fel y bydd eu barn a’u lleisiau wrth galon popeth
a wnawn. Yng Nghymru, byddwn yn adeiladu ar waith Tasglu Hawliau Pobl Anabl a Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl. Byddwn yn cyflwyno’r hawl lawn i gyflog cyfartal i bobl anabl. Gan adeiladu ar adroddiadau ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, byddwn yn cyflwyno adroddiadau ar y bwlch cyflog o ran anabledd ac ethnigrwydd ar gyfer cyflogwyr mawr. Byddwn yn
cefnogi pobl anabl i weithio drwy wella cymorth cyflogaeth a mynediad at addasiadau rhesymol. Byddwn hefyd yn mynd i’r afael ag ôl-groniad Mynediad at Waith ac yn gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu rhoi cynnig ar swydd heb ofni cael ailasesiad budd-daliadau ar unwaith os nad yw’n gweithio allan.
Mae darparu cyfleoedd i bawb yn golygu y dylid trin pawb â pharch ac urddas. Bydd y Blaid Lafur yn
amddiffyn pobl anabl a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol drwy wneud pob elfen bresennol o droseddau casineb yn drosedd waethygedig. Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i weithio tuag at sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf cyfeillgar i bobl LHDT+ yn Ewrop.
Mae therapi trosi, fel y’i gelwir, yn gamdriniaeth – does dim gair arall amdano – felly bydd Llafur o’r diwedd yn cyflwyno gwaharddiad traws-gynhwysol llawn ar
arferion trosi, wrth ddiogelu’r rhyddid i bobl archwilio eu cyfeiriadedd rhywiol a’u hunaniaeth rhywedd.
Byddwn hefyd yn moderneiddio, symleiddio a diwygio’r gyfraith cydnabod rhywedd ymwthiol a hen ffasiwn i fod yn broses newydd. Byddwn yn dileu’r diffyg urddas i bobl draws sy’n haeddu cydnabyddiaeth a derbyniad; wrth gadw’r angen am ddiagnosis o ddysfforia rhywedd gan feddyg arbenigol, gan alluogi mynediad at y llwybr gofal iechyd.
Mae Llafur yn falch o’n Deddf Cydraddoldeb a’r hawliau a’r amddiffyniadau y mae’n eu rhoi i fenywod; byddwn yn parhau i gefnogi’r gwaith o weithredu ei eithriadau un rhyw.
Bydd Llafur yn rhoi terfyn ar yr anhrefn, yn rhoi terfyn ar fethiant ac ymraniad y 14 blynedd diwethaf, ac yn agor pennod newydd i sicrhau bod pawb yn gallu ffynnu.
Help deliver change to Wales.